Hide Page

Poeni Am Dy Bwysau?

Mae’n beth cyffredin iawn i boeni am dy bwysau neu’r ffordd rwyt ti’n edrych. Mae sawl rheswm pam bod pobl yn teimlo fel eu bod angen newid eu corff. Yn aml, mae’r cyfryngau yn awgrymu bod rhaid edrych ryw ffordd benodol er mwyn bod yn ddeniadol neu’n iach. Pan fyddwn yn credu’r negeseuon yma, gall wneud i ni deimlo fel nad ydym yn ddigon da fel yr ydym ni.

Pwrpas y blog yma yw herio’r negeseuon yma a’n helpu ni i ofalu am ein corff yn union fel y maent.

Faint ddylet ti bwyso?

Weithiau mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio amrediad pwysau i gyfleu’r person ‘cyffredin’. Ond, nid yw’r rhain yn ystyried y gwahaniaethau rhwng pawb. Pethau fel dy oedran, rhyw, ethnigrwydd, ac unrhyw gyflyrau corfforol sy’n gallu newid sut mae pwysau ‘normal’ yn edrych. Mae pawb yn unigol, ac mae’r amrediad yma yn wahanol i bawb.

Fel plentyn neu berson ifanc, rwyt ti’n dal i dyfu. Mae dy gorff yn newid drwy’r adeg. Bydd dy bwysau, maint a siâp yn parhau i amrywio am flynyddoedd eto. Yn ystod y blynyddoedd yma o dwf, nid yw pwysau yn ffordd ddibynadwy o fesur iechyd. Yn hytrach na phoeni am rifau ar raddfa, ceisia ganolbwyntio ar ffyrdd i faethu dy gorff.

Girl taking picture of herself at the gym

Delwedd y corff

Delwedd y corff yw’r ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r ffordd rydym yn teimlo yn ein croen. Weithiau, mae pobl yn cael trafferth gydag Anhwylder Dysmorffia’r Corff (BDD). Dyma pan fydd rhywun yn gweld eu corff mewn ffordd negyddol neu gam, gan chwyddo’r pethau nad ydynt yn hoffi.

Mae rhai pobl o’r gred bod newid eu hedrychiad yn mynd i’w gwneud yn hapus, ond nid yw hyn yn ganlyniad realistig. Mae hapusrwydd a llesiant yn dod o’r tu mewn, wrth ofalu am ein corff a’n meddwl.

Mae’n iawn os wyt ti’n cael meddyliau a theimladau negyddol. Ni all neb ddisgwyl bod yn hapus ac yn bositif trwy’r adeg. Mae bod yn garedig i dy hun yn y cyfnodau yma yn mynd yn bell!

Pethau i’w hosgoi

Mae’n hawdd mynd â phethau’n rhy bell pan ddaw at chwiwiau sy’n addo colli pwysau’n sydyn. Mae’r rhyngrwyd yn llawn honiadau bod posib newid dy edrychiad wrth ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf pan ddaw at ddiet, ymarfer corff, defnyddio tabledi, neu bigiadau colli pwysau. Gallant fod yn ddrud iawn.

Mae llawer o’r dulliau yma yn hyrwyddo dulliau cyfyngol neu eithafol sydd ddim yn cael eu cefnogi gan wyddoniaeth ac sydd â pheryglon iechyd. Mae hyd yn oed y rhai sydd yn llwyddiannus i rai pobl yn aml yn cynnig canlyniadau dros dro yn unig, sy’n golygu bod pobl yn rhoi’r pwysau ymlaen mor sydyn ag y collwyd.

Os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, yna mae’n debyg ei fod e’. Dylid osgoi unrhyw gyngor neu feddyginiaeth diet sydd ddim yn dod gan ddoctor, maethegydd proffesiynol, neu ddietegydd. Os oes gen ti unrhyw amheuaeth, siarada â dy feddyg teulu gyntaf. Mae’n syniad da mudo neu dad-ddilyn unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n gwneud i ti deimlo’n ddrwg am dy gorff.

Man shaking his head

Ffyrdd i ofalu am dy gorff a dy feddwl

Mae angen balans i ofalu am dy gorff a dy feddwl. Pan fydd pethau ddim yn cysoni, mae’n gallu cael effaith ar y ffordd rydym yn teimlo’n gorfforol ac yn feddyliol. Mae yna lawer o gyngor am sut i ofalu am dy gorff a dy feddwl ar wefan GIG. Mae hyn yn cynnwys:

  • Bwyta amrywiaeth o fwydydd maethlon
  • Yfed digon o ddŵr
  • Rheoli straen
  • Cael digon o gwsg
  • Darganfod ffyrdd i symud dy gorff rwyt ti wir yn mwynhau

Os yw deall beth i’w wneud neu ble i gychwyn yn teimlo’n ormod, canolbwyntia ar gyflwyno un arfer bach sy’n teimlo’n gyraeddadwy ac yn gynaliadwy. Mae cyngor ar bethau i roi tro arnynt ar y gwefannau yma:

Cofia fod y ffordd rwyt ti’n teimlo yn bwysicach na’r ffordd rwyt ti’n edrych. Dim ond un corff sydd gen ti, felly rho’r cariad y mae’n haeddu iddo a bydd yn dy gynnal ymhell i’r dyfodol.

Angen cymorth pellach?

Mae Meic yma i helpu. Fedri di gysylltu am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim. Gallem dy helpu i ddarganfod gwasanaethau lleol neu fod yn glust i wrando.

Am gymorth arbenigol ar anhwylderau bwyta neu dysmorffia’r corff, cer i wefannau Body Dysmorphic Disorder Foundation neu Anhwylderau Bwyta Beat.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449