Hide Page
7 arms holding up non binary banners

Coda’r Meic: Dwi’n Meddwl Mod i’n Anneuaidd

Mae person ifanc wedi cysylltu â Meic gan nad oedd ganddynt neb i siarad â nhw am fod yn anneuaidd (non-binary). Rydym yma bob dydd i siarad. Dyma’r cyngor sydd gennym i’w rannu.

Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.

Helo Meic

Dwi’n meddwl efallai bod i’n anneuaidd, ond siaradais gyda mam am y pwnc rhywedd (gender) a’i hymateb oedd nad oedd yn gweld y pwynt – help! 😔

Cadi (*enw wedi ei newid i amddiffyn preifatrwydd)

Cyngor Meic

Helo Cadi,

Diolch am gysylltu gyda Meic am y drafferth rwyt ti’n ei gael yn ceisio siarad gyda dy fam am faterion hunaniaeth rhywedd.

Rwyt ti’n dweud dy fod di’n teimlo efallai dy fod di’n anneuaidd, ac wrth geisio siarad gyda dy fam am y peth, dywedodd nad oedd pwynt. Mae’n debyg dy fod di’n teimlo fel nad yw dy fam wedi cymryd y sgwrs o ddifrif? Neu ei bod wedi anwybyddu dy bryderon neu sylwadau? Efallai nad oedd wedi bwriadu gwneud i ti deimlo fel hyn, ond mae’n naturiol i ti deimlo’n ddrwg am hyn.

Non-binary gender symbol

Ailgychwyn y sgwrs

Sut wyt ti’n teimlo am ddarganfod amser distaw i gychwyn y sgwrs yma eto? Efallai gallet ti ddweud wrthi fod gen ti rywbeth ar dy feddwl a bod ei chefnogaeth yn bwysig i ti.

Mae blog Healthline How Do You Know If You’re Nonbinary? yn edrych ar ddiffiniadau anneuaidd, rolau rhywedd, rhagenwau, a sut i wybod os wyt ti’n anneuaidd. Efallai gall hyn helpu ti i egluro ble rwyt ti’n teimlo rwyt ti’n ‘ffitio’. Nid oes ateb cywir nac anghywir i’r ffordd rwyt ti’n uniaethu – mae’n bersonol i ti. Efallai dy fod di’n teimlo fel dy fod di ar sbectrwm, ei fod yn gyfnewidiol ac yn gallu newid dros amser. Paid teimlo pwysau i newid neu ddilyn llwybr sydd ddim yn teimlo’n iawn i ti. Cymera amser i ddod i adnabod dy hun a theimlo’n falch o’r person wyt ti! Mae yna lawer o adnoddau ychwanegol ar waelod y dudalen Healthline i ti bori drwyddynt.

Non-binary yellow, white, purple and black striped flag

Siarad gyda rhywun arall

Os nad yw dy fam yn barod i gael y drafodaeth yma, meddylia pwy arall gallet ti siarad â nhw. Ffrind? Aelod o’r teulu? Rhywun yn yr ysgol? Llinell gymorth? Ystafell sgwrs neu fforwm diogel?

Mae llawer o bobl ifanc yn hoff o fyrddau trafod The Mix, lle da i gael cefnogaeth gan bobl ifanc arall sydd yn gallu uniaethu. Cer draw i weld rhai o’r trafodaethau cynt yn ymwneud â rhywedd a rhywioldeb.

Cer draw i weld erthyglau TheMix ar rhyw a rhywioldeb.

Mae rhai pobl yn hoff o roi label ar eu teimladau, ond os wyt ti’n teimlo nad wyt ti angen un, mae hynny’n iawn hefyd. Ceisia fod yn garedig, amyneddgar ac yn driw i dy hun ❤

Sgwrsia â Meic

Mae croeso i ti gael sgwrs gyda chynghorydd Meic am yr hyn gall fod yn fuddiol i ti yn y sefyllfa yma. Gall fod yn heriol iawn siarad am bethau pwysig ac emosiynol gyda phobl rydym yn ei garu, ac weithiau nid yw pethau yn digwydd yn union fel y byddem yn ei obeithio. Mae Meic ar dy ochr di, yn barod i wrando a chynnig cefnogaeth gyda gwybodaeth a chyngor i helpu adnabod datrysiadau i dy broblemau.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449