Mae dydd Sadwrn, 10 Hydref 2020, yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, cyfle da i ofalu am dy iechyd meddwl, chwilio am help a ffyrdd i ymdopi. Roeddem yn ffodus iawn i dderbyn y darn o farddoniaeth yma gan berson ifanc ac yn teimlo bod nawr yn amser perffaith i’w rannu.
Gorbryderus
Annwyl gorbryder,
gan Paige’Sydney (cyfieithiad o’r Saesneg gwreiddiol)
Helo eto
Yr un hen sefyllfa
Tithau’n fawr a chodi braw
A fy mrest yn teimlo ar dân
Llyncu llond ceg o aer
Yn ebychu i anadlu
Croen wedi ymestyn yn dynn ar fy nghorff
Ac ysgyfaint tri metr dan ddŵr
Annwyl gorbryder,
Paid ceisio ymgartrefu ynof i
Fel dysgl i dy ofid
Yn cipio’r awenau
A finnau’n gallu gwneud dim
Coesau’n crynu
Pengliniau’n barod i roi
Yr embaras
Teimlo cywilydd oherwydd ti
A finnau heb wneud dim o’i le
Ti’n gwneud i mi gwestiynu popeth
Annwyl gorbryder,
Dwi wedi cael digon o fyw gyda thi
O rentu fy ymennydd allan
I denant diflas sydd ddim yn cau ei geg
Mae dy rybudd i adael wedi dod
Angen help?
Mae yna lawer o erthyglau iechyd meddwl ar Meic. Os ydy gorbryder yn dy boeni di efallai bydd yr erthyglau yma yn gynorthwyol:
- Coda’r Meic – Fy Iselder a Phryder yn Faich ar Bobl Eraill
- Iechyd Meddwl: Cadw Rheolaeth
- Awgrymiadau Am Sut i Boeni’n Ormodol
Neu, os wyt ti angen siarad â rhywun am y ffordd rwyt ti’n teimlo, yna cysyllta â ni ar linell gymorth Meic rhwng 8yb a hanner nos pob dydd.
