Hide Page
Close-up portrait of a dog laying on back looking relaxed

Ymdopi â Straen Arholiadau

Nid yw straen yn beth pleserus, yn ddefnyddiol nac yn iachus. Yn anffodus, mae’n beth cyffredin iawn yn ystod tymor yr arholiadau, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r lefelau straen ac i ddod o hyd i gefnogaeth os yw’n dod yn ormod.

Yn ffodus, mae yna lawer o gefnogaeth allan yna i fyfyrwyr dan straen. Os mai ti neu aelod o’r teulu sydd yn mynd drwy’r cyfnod yma, mae’n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o dechnegau gall helpu gyda straen ac i’w hannog yn gyson.

Dyma ychydig o ffyrdd defnyddiol i geisio ymdopi gyda phryder arholiadau:

White cute cozy kitten with blue eyes lying on a grey plaid and looks at the camera

Rhoi cwtsh i rywbeth ciwt

Mae anwesu rhywbeth bach ac addoladwy yn rhyddhau endorffinau yn y corff fydd yn dy ymlacio. Dyna pam bod sawl prifysgol wedi agor ystafelloedd cŵn bach ac ystafelloedd micro-foch i gynorthwyo gyda straen yn ystod tymor yr arholiadau.

Mae ymchwil yn awgrymu bod edrych ar luniau o bethau ciwt yn gallu gwella lefelau canolbwyntio, felly hyd yn oed os nad fedri di ddod o hyd i ystafell cŵn bach go iawn yna clicia ar y dolenni uchod neu cer draw i’r Daily Squee a threulio ychydig funudau yn hyfrydu ar y sgrin.

Tired caucasian adult girl lying down in bed taking a rest at home. Carefree young woman napping, falling asleep on comfortable orange sofa with pillows. Closed her eyes enjoy daytime nap alone

Gorwedda

Mae napio yn gwneud mwy nag lleihau straen: mae hefyd yn helpu gyda datrys problemau cof sydd yn gallu bod yn fuddiol iawn wrth adolygu.

Tra bod dod o hyd i wely yn gallu bod yn sialens yn ystod y dydd, mae nifer cynyddol o sefydliadau addysgiadol yn mabwysiadu ‘beditation‘: myfyrio wrth orwedd (sydd yn aml yn arwain at ficro-nap nes i rywun dy brocio). Mae’r ymarfer yn ymwneud â thalu sylw i dy feddyliau a teimladau tra mewn cyflwr o ymlacio. Mae gwneud hyn yn rhoi pellter rhyngot ti a dy bryderon, yn rhyddhau eu gafael arnoch ti.

A front view young male in white t shirt rubbing his forehead

Gwranda ar dy gorff

Yn symud ymlaen o’r pwynt uchod: gwranda ar dy gorff. Os wyt ti’n teimlo fel bod clwm yn dy stumog neu bwysau ar dy frest yna mae angen cydnabod hynny. Yn hytrach nag ceisio’i anwybyddu, pwysa i mewn i’r teimlad hwnnw. Dyweda wrth dy hun “Dwi’n teimlo’n nerfus/dan bwysau/yn poeni ond mae hynny’n iawn.” Derbynia’r teimlad yn lle’i ymladd a bydd yn dechrau pylu. Os wyt ti’n teimlo straen arbennig o ddwys, canolbwyntia ar dy anadlu am ychydig funudau.

Mae adolygu ac eistedd arholiadau yn llosgi llawer iawn o galorïau felly mae’n bwysig bwyta. Bydd dy stumog yn gadael i ti wybod pan rwyt ti eisiau bwyd, yr unig beth sydd angen ei wneud ydy gwrando arno. Os wyt ti’n teimlo’n stiff: ymestynna. Os wyt ti’n teimlo’n flinedig: cysga, paid agor tun arall o Red Bull.

Shot of an attractive young woman alone on a beach meditating at sunset.

Cymera saib

Dydy clymu dy hun i dy ddesg ddim y ffordd gorau i adolygu bob tro. Os wyt ti’n gweld dy hun yn ail ddarllen yr un frawddeg drosodd a throsodd: cymera saib. Newidia’r olygfa. Cer am dro. Mae cymryd seibiant o rywbeth yn caniatáu i ti ddychwelyd ato gyda phersbectif ffres.

Os wyt ti yn yr arholiad pan mae’r teimlad yma yn dod: noda unrhyw nodiadau ar ymyl y papur ac yna tro’r dudalen. Cer yn ôl at y cwestiwn yna wedyn.

Rho bethau i mewn i bersbectif

Ar y cyfan, dydy arholiadau ddim mor bwysig â hynny ac mae posib eu hail eistedd os oes angen. Mae gan rhai pobl ymennydd sydd yn gweithio’n dda o fewn fformat arholiadau; dydy eraill ddim. Nid oes dim o’i le efo bod yn rhywun sydd yn meddwl bod strwythur arholiadau yn anodd, ac nid yw’n dweud dim am dy ddeallusrwydd.

Cofia am y nifer o bobl lwyddiannus sydd ddim wedi gorffen yr ysgol uwchradd hyd yn oed. Gwranda ar Sunscreen gan Baz Luhrmann uchod.

Young boy in black hoodie and grey joggers breakdancing

Siarad amdano

Mae rhannu problem yn haneru problem, a dwi’n gwarantu nad ti yw’r unig un sydd dan straen arholiadau. Mynega dy hun yn y ffordd sydd yn gweithio orau i ti: siarad, ysgrifennu, cerddoriaeth, celf, ymarfer corff… ond paid cadw’r poenau i mewn.

Os nad wyt ti’n sicr ble i droi, gallet ti siarad efo Meic am ddim. (Byddant hefyd yn bobl dda i siarad â nhw os wyt ti eisiau cychwyn ystafell cŵn bach neu ddosbarthiadau ‘beditation’ yn dy ysgol neu goleg, gan mai eu gwaith nhw ydy helpu ti i gael dy glywed.)

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449