Hide Page

Iselder: Safbwynt Person Ifanc

Ysgrifennodd person ifanc am pam bod gallu siarad â llinell gymorth yn bwysig i bobl ifanc sy’n cael cyfnod ychydig yn anoddach ar hyn o bryd. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.

Eistedd mewn caffi yn disgwyl i’m nghariad orffen yn y gwaith er mwyn i ni gael mynd i weld nain yn yr ysbyty.

Newydd weld Instagram gan @meiccymru, sefydliad i bobl ifanc i alw a sgwrsio pan fyddant angen cyngor (o broblemau perthynas i waith cartref!), ysgwydd i wylo arni neu rywun i wrando arnynt. Yn tyfu i fyny fel person ifanc gydag iselder, hoffwn petai sefydliad fel hyn wedi bodoli i’m helpu i drwy’r cyfnodau anodd. Mae’n debyg bod yna, ond roedd gen i ormod o gywilydd i ymestyn allan atynt.

Wrth dyfu roedd y stigma o gwmpas iechyd meddwl yn fy mygu, ac oherwydd hynny roedd llawer o ffrindiau a theulu yn anymwybodol o’r pethau roeddwn i’n mynd drwyddo. Yn hŷn bellach, dwi’n rhannu fy stori yn aml i #diweddstigma, ond gyda phobl hyfryd fel hyn allan yna, nid oes rhaid i bobl ifanc deimlo’n unig. Dim ond galwad neu neges testun sydd ei angen.

Edrychwch ar dudalen Intagram Meic i gael dolen i’r wefan #gafaelynymeic

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449