Hide Page
Teen girl revising alone in bedroom surrounding by revision notes

Cyngor Adolygu Da ar Gyfer Niwroamrywiaeth

Gall adolygu deimlo’n heriol iawn weithiau. Efallai bod cychwyn tasgau yn anodd i ti, neu fod pethau’n tynnu dy sylw yn aml. Mae ‘swyddogaeth weithredol’ yn rhywbeth mae llawer o bobl niwroamrywiol yn gallu profi.

Bydd y blog yma’n cynnig cyngor adolygu cyfeillgar i niwroamrywiaeth er mwyn helpu ti i baratoi ar gyfer arholiadau.

Defnyddio symudiad i ganolbwyntio

I rai pobl, gall fod yn anoddach meddwl os wyt ti’n eistedd yn llonydd wrth ddesg. Os wyt ti’n teimlo’n aflonydd, rho dro ar ddysgu cinesthetig. Dyma pan fyddi di’n dysgu’n well wrth symud dy gorff. Ceisia ddarllen dy nodiadau wrth i ti gerdded o amgylch yr ystafell.

Gallet ti hefyd ddefnyddio tegan ‘fidget’ i gadw’r dwylo’n brysur wrth wrando ar recordiad. Mae rhai pobl yn meddwl bod gwybodaeth yn glynu’n well wrth iddynt adrodd ffeithiau wrth neidio ar drampolîn neu daflu pêl. Paid teimlo fel bod rhaid i ti eistedd yn llonydd i dal fod yn ‘gweithio’. Os yw dy ymennydd yn dysgu’n well wrth i ti symud, yna gwna hynny!

Amserydd gweledol a thalpiau

Un o’r rhwystrau mwyaf yw pa mor hir mae tasg yn ymddangos. Os wyt ti o’r gred bod angen adolygu am dair awr, yna efallai bydd hyn yn gyfyngedig i ti. Gallet ti rannu tasg enfawr yn dalpiau llai sy’n haws ymdrin â nhw. Yn hytrach nag dweud “Dwi am adolygu hanes,” ceisia ddweud “dwi am ddarllen dau dudalen, gan ganolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd”.

Gall defnyddio amserydd gweledol helpu hefyd. Cloc yw hwn sy’n dangos faint o amser sydd wedi pasio a faint o amser sy’n weddill. Mae’r syniad o ’20 munud’ yn rhywbeth gweledol wedyn. Mae sawl un yn ei chael yn haws i ganolbwyntio os ydynt yn gwybod faint o amser sydd ar ôl.

Two teens revising together in bedroom

Dyblu cyrff

Wyt ti wedi sylweddoli dy fod di’n gallu gwneud mwy pan fydd rhywun arall yn yr ystafell efo ti? Gelwir hyn yn dyblu cyrff. Nid oes rhaid i chi fod yn gweithio ar yr un prosiect â’ch gilydd. Mae’n golygu bod person arall yn agos tra bydd y ddau ohonoch yn gwneud gwaith eich hunain. Mae posib gwneud hyn gyda ffrind yn y llyfrgell neu dros alwad fideo hyd yn oed.

I sawl un, mae cael person arall yno yn angor iddynt. Mae’n helpu ti i fod yn gyfrifol gan dy fod di’n teimlo fel y gallet ti aros gyda’r dasg heb athro yn gwylio ti. Os wyt ti’n teimlo’n unig wrth adolygu, gall dyblu cyrff droi’r holl broses yn rhywbeth llawer mwy cymdeithasol.

Newid dy synau

Weithiau’r ystafell rwyt ti ynddi yw’r broblem. Mae distawrwydd llwyr yn gallu bod yn rhy uchel i rai pobl, ac yn gallu tynnu sylw.

Os yw hwn yn swnio fel ti, rho dro ar sŵn brown. Sŵn dwfn, isel yw hwn fel awyren yn rymblan neu raeadr bell. Gall guddio synau bach sy’n gallu tynnu sylw, fel sosbenni yn taro neu bobl yn symud o gwmpas.

Gallet ti hefyd drïo traciau sain gemau cyfrifiadur, sydd wedi’u cynllunio i gadw chwaraewyr yn canolbwyntio heb dynnu sylw.

Teen boy revising with headphones on

Recordio a gwrando

Os yw edrych ar dudalen llawn testun yn teimlo’n ormod, beth am geisio defnyddio dy lais. Gallet ti recordio dy hun yn darllen nodiadau’n uchel ar dy ffôn. Yna, gallet ti wrando yn ôl wrth i ti fynd am dro neu wneud hobi. Mae hwn yn ffordd wych i adolygu heb i ti orfod eistedd a syllu ar sgrin.

Gallet ti hefyd roi tro ar offer testun i lafar. Apiau yw’r rhain sy’n darllen nodiadau digidol neu lyfrau testun yn uchel. Mae clywed y geiriau fel rwyt ti’n gweld nhw ar y sgrin yn gallu helpu’r ymennydd i brosesu’r wybodaeth yn fwy sydyn.

Bydda’n garedig i dy hun

Y darn o gyngor pwysicaf yw gwrando ar dy gorff a dy feddwl. Os wyt ti’n teimlo straen neu wedi ypsetio, stopia a gorffwys am ychydig.

Mae adolygu yn waith caled, ac mae’r ymennydd yn defnyddio llawer o ynni i ganolbwyntio. Sicrha dy fod di’n bwyta digon ac yn yfed digon o ddŵr. Gall snac fach helpu i gadw ynni’n sefydlog fel y gallet ti ganolbwyntio yn hirach.

Os yw ffordd benodol o weithio ddim yn helpu heddiw, yna mae hynny’n iawn. Gallet ti roi tro ar un gwahanol yfory. Mae ymennydd pawb yn wahanol, a darganfod rhythm dy hun yw’r ffordd orau i deimlo’n falch o dy waith.

Gofyn am gymorth

Os wyt ti’n stryglo gydag adolygu, cofia nad wyt ti ar ben dy hun. Mae yna lawer o bwysau cyn arholiadau, ac mae siarad am hyn yn gallu helpu rhywun i deimlo’n well. Sgwrsia gydag athrawon, ffrindiau, neu deulu i gael cymorth.

Gall Meic helpu hefyd. Siarada gyda’n cynghorwyr cyfeillgar ar linell gymorth Meic am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim sydd ddim yn barnu.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449