Hide Page
Phone with blurred and censored screen

AI a’r Gyfraith: Yr Hyn Sydd Angen i Ti Ei Wybod

Mae AI yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i greu delweddau, fideos a synau. Ond dyw’r ffaith bod y dechnoleg yn bodoli ddim yn golygu ei fod yn gyfreithlon i ti ei ddefnyddio sut bynnag yr wyt ti’n dymuno. Mae’r cyfreithiau yn y DU wedi newid mis Ionawr 2026, er mwyn gallu cadw’n gyfoes â rhaglenni AI newydd a sut maen nhw’n cael eu defnyddio.

Deddf Diogelwch Ar-lein 2023

Yn 2023, daeth Deddf Diogelwch Ar-lein yn gyfraith. Mae’n gyfres o reolau ar gyfer cwmnïau technoleg fawr fel TikTok, Instagram, a Snapchat.

Cyn y gyfraith yma, os oedd rhywun yn postio rhywbeth niweidiol, yn aml y defnyddwyr oedd yn gorfod ei riportio a gobeithio y byddai’n cael ei dynnu i lawr. Nawr, mae’r gyfraith yn dweud bod gan y cwmnïau yma “ddyletswydd gofal”. Golygai hyn ei fod yn gyfraith arnynt i sicrhau eu bod yn adeiladu eu apiau mewn ffordd sy’n atal cynnwys anghyfreithlon, fel delweddau rhywiol ffug, rhag dangos yn y lle cyntaf. Os na wnânt hynny, gallant gael dirwy.

Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025

Mae cyfraith Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 wedi creu rheolau newydd am sut mae pobl eu hunain yn defnyddio AI. Mae’r gyfraith bellach yn cwmpasu nid yn unig yr hyn rwyt ti’n rhannu, ond yr hyn rwyt ti’n dewis creu yn y lle cyntaf.

Oherwydd y rheolau yma, nid oes rhaid i’r heddlu aros i ddelwedd gael ei rhannu gyda miloedd o bobl cyn cymryd camau gweithredu. Os yw rhywun yn defnyddio AI i greu delwedd breifat ohonot ti heb dy ganiatâd, gall yr heddlu drin hynny fel trosedd ar unwaith. Mae’r grym ganddynt nawr i ddal y bobl sy’n creu’r delweddau hyn hefyd, nid y rhai sy’n eu postio’n unig.

Police hat

A yw’n anghyfreithlon creu ffugiadau dwfn (deepfakes)?

Ffugiadau dwfn yw pan fydd delwedd neu fideo yn cael ei newid gydag AI fel bod rhywun edrych fel eu bod nhw’n gwneud neu’n dweud rhywbeth nad ydynt. Fel arfer mae’n dibynnu ar yr hyn y mae’r ddelwedd yn ei ddangos cyn penderfynu os yw ffugiadau dwfn yn torri’r gyfraith neu beidio.

Os wyt ti’n creu (neu hyd yn oed yn gofyn i AI greu) delwedd rywiol o oedolyn heb eu caniatâd, rwyt ti’n torri’r gyfraith. Nid yw’n amddiffyniad dweud mai “jôc oedd e'” neu dy fod di’n cadw’r ddelwedd i ti dy hun – y weithred o’i greu (neu ofyn i AI ei greu) yw’r trosedd.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r gyfraith yn llymach fyth i unrhyw un o dan 18 oed. Mae bod yn berchen ar, neu rannu, delweddau rhywiol o blant, wedi bod yn erbyn y gyfraith ers amser maith. Mae’r rheolau bellach yn nodi’n benodol bod delweddau o bobl o dan 18 oed a gynhyrchir gan AI yn “lluniau anghyfreithlon”. Felly, hyd yn oed os nad yw’r llun yn un “go iawn”, mae’n parhau i gael ei drin fel trosedd difrifol iawn.

Gall cael y delweddau yma ar dy ffôn, neu ddefnyddio AI i wneud i lun o ffrind neu gyd-ddisgybl edrych yn rhywiol, arwain at gofnod cyfreithiol parhaol fydd gen ti am oes. Mae’r heddlu’n cymryd hyn o ddifrif iawn fel bod pob person ifanc yn teimlo’n ddiogel ar-lein.

AI Robot

Y ​​gwaharddiad ar raglenni ‘noethni’

Efallai dy fod di wedi gweld neu glywed am apiau neu raglenni ‘noethni’ (nudification) sy’n honni eu bod yn defnyddio AI i “weld trwy” ddillad neu greu lluniau noeth ffug o bobl go iawn. Mae’r llywodraeth wedi gwahardd y rhaglenni yma’n llwyr trwy’r Bil Troseddu a Phlismona.

Mae bellach yn erbyn y gyfraith i gwmnïau werthu’r rhaglenni yma, ac mae’n drosedd i unrhyw un eu defnyddio. Nid “apiau gwirion” yn unig yw’r rhain – mae’r gyfraith yn eu hystyried fel rhaglenni a ddefnyddir i fwlio a phoeni eraill.

Cadw’n ddiogel a dilyn y gyfraith

Y rheol orau yw peidio byth â defnyddio AI i greu delwedd o rywun sydd heb ddweud iawn. Caniatâd yw’r peth pwysicaf yma, ac mae’n golygu bod person wedi cytuno’n glir ac yn deall beth sy’n cael ei greu.

Dylet ti hefyd fod yn ofalus gyda’r hyn rwyt ti’n ei dderbyn. Os bydd rhywun yn anfon delwedd rywiol ffug i ti, paid â’i hanfon at unrhyw un arall. Mae anfon delwedd ffug yr un mor anghyfreithlon â anfon un go iawn, a gall achosi cymaint o niwed i’r person yn y llun.

Wooden gavel and sound block

Angen siarad?

Gall newidiadau cyfreithiol deimlo’n gymhleth, ac efallai bod gen ti gwestiynau am rywbeth rwyt ti wedi’i weld ar-lein neu raglen rwyt ti’n defnyddio. Os wyt ti’n poeni neu os wyt ti’n meddwl bod rhywun yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i dy dargedu neu dy fwlio, nid oes rhaid i ti ddatrys hynny dy hun. Siarada â Meic. Rydym yn darparu cymorth am ddim, dienw a chyfrinachol i unrhyw un 0-25 oed yng Nghymru. Mae ein cynghorwyr yma i wrando a dy helpu i ddeall dy hawliau heb dy farnu.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449