Hide Page

Awgrymiadau i Helpu Gyda Dysgu o Bell

Os wyt ti’n ddisgybl ysgol neu brifysgol yna mae’r cyfnod clo diweddaraf yn golygu bod rhaid i ti ddysgu o adref unwaith eto. Rydym yn ymwybodol bod hyn yn anodd i lawer ohonoch y tro diwethaf ond y gobaith yw y bydd pethau’n haws y tro yma. Mae Meic yma i helpu.

Nid yw pethau’n newydd bellach ac fe ddylai ysgolion fod wedi’u cyfarparu’n well i ymdopi gyda dysgu o bell gan gynnig gwersi byw a chynnig mwy o gefnogaeth. Rydym wedi rhoi ychydig o gyngor at ei gilydd i ddysgu o adref.

Teenage girl sat in front of computer taking notes for remote learning tips article

1. Gofod gweithio

Ceisia ddod o hyd i fan distaw yn y cartref, dewis lle gyda’r tebygrwydd lleiaf o rywun yn tarfu arnat. Mae dysgu yn anodd os oes pethau yn tynnu sylw gan ei bod yn anodd canolbwyntio.

Efallai bod eistedd o flaen y teledu yn yr ystafell fyw yn teimlo’n gyfforddus, ond mae’n debyg ei fod yn ystafell brysur gyda llawer o bethau i dynnu sylw – o bobl yn siarad, i’r teledu ei hun. Ni fydd llawer yn cael ei wneud yma o ran dysgu!

Ceisia osgoi astudio yn y lle rwyt ti’n cysgu, os yw’n bosib. Mae’n helpu i wahanu astudio o rannau eraill dy fywyd. Gallet ti weithio wrth fwrdd y gegin neu gornel fach o’r ystafell gysgu. Os oes rhaid i ti astudio ar dy wely, yna ceisia gau’r gofod i lawr wedyn wrth gadw’r holl lyfrau ac eitemau astudio i ffwrdd nes bydd eu hangen eto.

Mae ystafell flêr yn tynnu sylw. Nid yw’n bosib dod o hyd i bethau ac mae’n rhoi cychwyn drwg i ti. Sicrha dy fod di wedi paratoi am yr hyn sydd i ddod gyda’r dysgu. Glanha a threfna dy ofod astudio a sicrhau bod popeth rwyt ti angen wrth law, fel beiro, papur, cyfrifiannell ayb.

Ruled paper with hand holding pen ready to write

2. Cynllunio tasgau

Bydd cynllun yn helpu ti i gyflawni pethau. Creu rhestr tasgau  neu amserlen i gadw trac ar yr hyn sydd angen ei wneud ac erbyn pryd.

Cynllunia bob darn o waith i sicrhau bod gen ti ddigon o amser i gwblhau pethau. Edrycha ar bob tasg a meddwl beth sydd ei angen i’w gwblhau. Meddylia faint o amser sydd ei angen a gosod targedau. Sicrha bod y rhain yn gyraeddadwy, neu byddi di’n rhoi mwy o straen arnat ti dy hun os nad yw’n bosib cwblhau pethau yn yr amser rwyt ti wedi’i benodi. Sicrha bod yr hyn rwyt ti’n ei wneud yn berthnasol. Wyt ti’n blaenoriaethu’r tasgau sydd angen bod i mewn gyntaf? Neu wyt ti’n oedi ac yn gwneud y pethau rwyt ti’n ei fwynhau gan fod hynny’n haws?

Mae cael cynllun, a gallu ticio pethau o’r rhestr, yn rhoi synnwyr o gyflawniad i ti. Edrycha ar gyngor rheoli amser hawdd y GIG.

Water being poured into a clear glass

3. Bwyta ac yfed

Sicrha dy fod di’n bwyta’n dda. Maen nhw’n dweud mai brecwast yw’r pryd pwysicaf – mae cael rhywbeth yn dy stumog yn dy helpu i ganolbwyntio ar dy waith yn hytrach na chanolbwyntio ar y ffaith dy fod di’n llwglyd. Yn ddelfrydol dylet ti fwyta snacs a phrydau iach gan fod hyn yn helpu’r ymennydd i ganolbwyntio, ond mae sicrhau dy fod di wedi bwyta rhywbeth yn gychwyn da.

Cadwa ddiod wrth law, dŵr neu sudd gyda dŵr yn ddelfrydol. Mae cadw’n hydradol yn dda i helpu ffocysu dy allu i ganolbwyntio, i’r cof a gyda sgiliau datrys problemau.

Mobile phone with chain wrapped around it with number dials to unlock for remote learning tips article

4. Dim tynnu sylw

Cadwa’r dyfeisiau electroneg yn ddigon pell. Mae’n rhy hawdd edrych ar y ffôn neu dabled yn ‘sydyn’, a dyna ble rwyt ti awr wedyn yn sgrolio drwy gyfryngau cymdeithasol neu’n gaeth i gylch o fideos TikTok. Dyfeisiau yw’r peth gwaethaf i wastraffu amser pan ddylet ti fod yn astudio. Os wyt ti’n ei chael yn anodd peidio cyffwrdd yn y dyfeisiau, mae’n amser i ti gyfaddef hyn a symud y temtasiwn. Gofyn i riant ei gadw neu adael mewn ystafell wahanol. Canolbwyntia ar y gwaith sydd gen ti i wneud.

pair of bud earphones on yellow background with musical notes around them for remote learning tips article

5. Gwrando ar gerddoriaeth

Gall cerddoriaeth fod yn help mawr wrth astudio ac mae’n gallu bod yn fuddiol i’r ymennydd. Ond mae’n bwysig dewis y math cywir o gerddoriaeth fydd ddim yn tynnu sylw neu’n creu gofod gwaith gorwyllt.

close up of foot wearing a trainer pushing down on a bike pedal for remote learning tips article

6. Cymryd egwyl

Dylet ti gymryd egwyl reolaidd i orffwys oddi wrth yr holl waith. Gall hyn gynnwys ymarfer y corff wrth fynd am dro, ar feic neu i redeg. Cynllunia pob egwyl. Ni fyddi di’n methu egwyl fel yna (nac yn cymryd gormod o rai bach) a bydd gen ti rywbeth i edrych ymlaen ato.

Speech bubble, blank, on an orange background for remote learning tips article

7. Dweud beth rwyt ti ei angen

Dweud wrth bobl yn union beth rwyt ti ei angen. Os wyt ti angen distawrwydd, dweud wrthynt. Os wyt ti angen cefnogaeth, gofynna amdano. Weithiau gall fod yn anodd sylweddoli pan fydd rhywun yn cael trafferth ymdopi, felly paid cadw pethau i ti dy hun. Bydda’n gadarn a dweud wrth bobl yr hyn rwyt ti ei angen.

Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad, yna mae cynghorwyr Meic yma i ti rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.

Cysyllta â Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449