{"id":9635,"date":"2026-07-06T16:10:39","date_gmt":"2026-07-06T15:10:39","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=9635"},"modified":"2026-07-23T15:54:18","modified_gmt":"2026-07-23T14:54:18","slug":"diogelwch-gwyliau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/","title":{"rendered":"Cadw&#8217;n Ddiogel Mewn Gwyliau Dros yr Haf"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw&#8217;n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fydd torfeydd mawr a cherddoriaeth wych o dy amgylch, hawdd yw anghofio am bopeth arall. Mae treulio ychydig o amser yn ystyried dy <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/diogelwch-corfforol\/#accordion\">ddiogelwch<\/a> cyn i ti gyrraedd yn golygu gallet ti ganolbwyntio&#8217;n gyfan gwbl ar gael hwyl heb unrhyw straen.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y system &#8216;bydi&#8217;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwyliau yn enfawr, yn swnllyd, ac yn brysur iawn fel arfer. Mae&#8217;n hawdd colli ffrindiau&#8217;n sydyn iawn, a gall signal ff\u00f4n fod yn anobeithiol pan fydd miloedd o bobl yn ceisio defnyddio&#8217;u ffonau yn yr un lle ar yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae defnyddio system &#8216;bydi&#8217; yn ffordd hawdd i sicrhau nad yw neb yn mynd ar goll. Dewisa ffrind fel bod gen ti rywun sydd yn cadw llygaid arnat ti drwy&#8217;r adeg. Os oes un ohonoch chi angen mynd i&#8217;r toiled neu i n\u00f4l diod, ewch gyda&#8217;ch gilydd fel nad oes neb yn crwydro&#8217;r cae ar ben eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n syniad da i ddewis pwynt cyfarfod cyn gynted ag yr wyt ti wedi cyrraedd hefyd. Dewisa rywbeth cofiadwy fydd ddim yn symud, fel stondin fwyd penodol neu faner liwgar. Os yw batri dy ff\u00f4n yn marw neu rydych chi&#8217;n cael eich gwahanu, byddwch yn gwybod yn union ble i fynd i weld eich gilydd eto.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-1024x576.jpg\" alt=\"Person applying suncream at a festival\" class=\"wp-image-9621\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/22-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Eli haul a d\u0175r<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae treulio trwy&#8217;r dydd yn dawnsio ac yn cerdded rhwng llwyfannau yn defnyddio llawer iawn o egni. Os yw&#8217;r tywydd yn boeth, mae&#8217;r haul yn gallu gadael ei farc yn sydyn iawn, hyd yn oed os yw&#8217;n teimlo ychydig yn gymylog neu&#8217;n wyntog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n syniad da rhoi SPF ffactor uchel ymlaen cyn i ti fentro allan, ac mae&#8217;n ddoeth cadw botel fach yn dy fag er mwyn cael rhoi mwy ymlaen yn ystod y dydd. Mae llosgi neu ddioddef o str\u00f4c gwres yn gallu difetha&#8217;r \u0175yl gyfan!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r un mor bwysig i sicrhau dy fod di&#8217;n yfed digon. Mae gan y mwyafrif o wyliau dapiau d\u0175r wedi&#8217;u gwasgaru o gwmpas y safle, felly bydd dod \u00e2 photel dd\u0175r i&#8217;w ailenwi yn golygu gallet ti yfed d\u0175r yn aml heb orfod gwario ffortiwn ar ddiodydd. Os wyt ti&#8217;n dewis yfed alcohol, ceisia newid dy ddiod i dd\u0175r bob yn ail er mwyn cadw balans y corff a chadw&#8217;n iach.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-1024x576.jpg\" alt=\"Food truck food at a festival\" class=\"wp-image-9623\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/23-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pryd o fwyd iawn a gwersyll glan<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er pa mor ddeniadol yw byw ar sglodion a snacs am dri diwrnod yn olynol, mae&#8217;r corff angen tanwydd iawn i gadw&#8217;n iach. Mae methu prydau yn gallu arwain at deimlo&#8217;n benysgafn, yn flinedig ac yn s\u00e2l. Ceisia fwyta o leiaf un pryd iawn y dydd er mwyn cadw lefelau egni yn sefydlog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti&#8217;n gwersylla, y babell yw dy gartref am y cyfnod. Cadwa bethau gwerthfawr, fel ff\u00f4n, arian, goriadau, yng ngwaelod y sach gysgu tra byddi di&#8217;n cysgu, yn hytrach na&#8217;u gadael yn agos i ddrws y babell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fyddi di&#8217;n coginio bwyd dy hun mewn gwersyll, sicrha bod unrhyw gig wedi ei goginio drwyddo yn iawn. Dewis doeth hefyd yw cadw botel o hylif diheintio dwylo yn dy boced. Mae defnyddio hwn cyn bwyta ac ar \u00f4l defnyddio toiledau&#8217;r \u0175yl yn ffordd syml i osgoi cael stumog ddrwg.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-1024x576.jpg\" alt=\"Pint of beer on a picnic table at a festival\" class=\"wp-image-9698\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Meic-In-blog-graphics-14-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Alcohol a chyffuriau<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr opsiwn fwyaf diogel bob tro yw peidio cymryd unrhyw sylweddau anhysbys neu anghyfreithlon. Ond, os wyt ti neu ffrind yn dewis yfed neu gymryd rhywbeth, mae cael gwybodaeth ddibynadwy yn helpu i&#8217;ch cadw&#8217;n ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig cofio bod cario sylweddau anghyfreithlon i dy hun, neu eu cadw i ffrind, yn erbyn y gyfraith a gall arwain at rain yn cael eu cymryd oddi wrthyt ti, cael dy daflu o&#8217;r safle, neu ddod \u00e2 heddlu i mewn. Mae cario symiau mwy, neu rannu gyda ffrindiau (hyd yn oed os nad wyt ti&#8217;n gwerthu am arian), yn gallu cael ei ystyried fel bwriad i gyflenwi yn llygaid y gyfraith, ac mae hyn yn arwain at ganlyniadau llawer mwy difrifol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Paid byth gadael ffrind ar ben ei hun, yn enwedig os ydynt yn ymddangos yn ddryslyd, yn anarferol ddistaw, neu&#8217;n s\u00e2l. Gofalwch am eich gilydd, yn enwedig yn y nos neu wrth gerdded rhwng llwyfannau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydda&#8217;n ymwybodol o&#8217;r arwyddion rhybudd yma:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dryswch, siarad yn aneglur, neu&#8217;n gwbl ddiymateb<\/li>\n\n\n\n<li>Gorboethi difrifol, croen poeth\/sych, neu chwysu na ellir ei reoli<\/li>\n\n\n\n<li>Ffitian, cyhyrau stiff, neu lewygu&#8217;n sydyn<\/li>\n\n\n\n<li>Chwydu parhaus neu&#8217;n cael trafferth anadlu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna d\u00eem meddygol arbennig ar y safle ymhob g\u0175yl. Maent yno i helpu heb farnu. Dy iechyd sydd yn bwysig iddyn nhw &#8211; nid i gael rhywun i drafferthion gyda&#8217;r heddlu neu&#8217;r staff diogelwch. Os wyt ti neu ffrind angen cymorth meddygol, siarada a&#8217;r staff diogelwch neu cer i&#8217;r babell feddygol yn syth. Mae bod yn onest gyda&#8217;r t\u00eem meddygol am yr union yr hyn mae rhywun wedi&#8217;i gymryd neu yfed yn golygu y gallant roi&#8217;r gofal cywir yn sydyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-1024x576.jpg\" alt=\"First aid kit on grass\" class=\"wp-image-9625\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/24-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwrando ar dy reddf a gofyn am help<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r mwyafrif o bobl mewn gwyliau yno i gael hwyl dda yn unig, ond mae&#8217;n bwysig iawn i ti aros yn wyliadwrus o&#8217;r pethau sydd yn digwydd o&#8217;th gwmpas. Cadwa olwg ar dy ddiod fel nad oes neb yn rhoi unrhyw beth ynddo, a phaid byth derbyn diod gan rywun diarth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti mewn sefyllfa ble mae person yn gwneud i ti deimlo&#8217;n anghyfforddus, gwranda ar dy reddf a symud i ffwrdd yn syth. Nid oes rhaid i ti aros yn rhywle sydd ddim yn teimlo&#8217;n iawn er mwyn bod yn gwrtais.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal \u00e2 thimau meddygol, mae gan rhai gwyliau babelli les a gofodau cymorth arbennig. Mae&#8217;r rhain fel arfer yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a staff cefnogol hyfforddedig, fel gweithwyr ieuenctid. Maent yn ofodau diogel, distaw, i ti fynd iddynt os yw pethau&#8217;n teimlo&#8217;n ormod, rwyt ti&#8217;n bryderus, wedi blino&#8217;n l\u00e2n, neu angen rhywle distaw i eistedd a siarad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti&#8217;n mynd draw i \u0175yl dros yr haf ac eisiau siarad gyda rhywun am sut i baratoi, neu os wyt ti&#8217;n teimlo&#8217;n bryderus am fynd, mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\">Meic<\/a> yma i ti bob tro. Mae ein cynghorwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol, am ddim, bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw&#8217;n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau. Pan fydd torfeydd mawr a cherddoriaeth wych o dy amgylch, hawdd yw anghofio am bopeth arall. Mae treulio ychydig o amser yn ystyried dy ddiogelwch cyn i ti gyrraedd yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9620,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1660],"tags":[3910,3915,5258,5256,5260,5261,5257,5229,5259,5226,5227,5228],"class_list":["post-9635","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-corfforol","tag-aros-yn-ddiogel","tag-cadwn-ddiogel","tag-cadwn-ddiogel-mewn-gwyliau","tag-diogelwch-gwyliau","tag-diogelwch-gwyliau-dros-yr-haf","tag-dioglewch-gwyliau-cerddoriaeth","tag-dioglewch-mewn-gwyliau","tag-festival-safety","tag-gwyl-gerddoriaeth","tag-safety-at-festivals","tag-staying-safe-at-festivals","tag-staying-safe-at-festivals-this-summer"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Diogelwch Gwyliau<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw&#039;n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diogelwch Gwyliau\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw&#039;n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-07-06T15:10:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-07-23T14:54:18+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1260\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Cadw&#8217;n Ddiogel Mewn Gwyliau Dros yr Haf\",\"datePublished\":\"2026-07-06T15:10:39+00:00\",\"dateModified\":\"2026-07-23T14:54:18+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\"},\"wordCount\":1103,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg\",\"keywords\":[\"aros yn ddiogel\",\"cadw'n ddiogel\",\"cadw'n ddiogel mewn gwyliau\",\"Diogelwch Gwyliau\",\"Diogelwch gwyliau dros yr haf\",\"dioglewch gwyliau cerddoriaeth\",\"Dioglewch mewn gwyliau\",\"Festival Safety\",\"g\u0175yl gerddoriaeth\",\"Safety at Festivals\",\"Staying Safe at Festivals\",\"Staying Safe at Festivals This Summer\"],\"articleSection\":[\"Diogelwch Corfforol\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\",\"name\":\"Diogelwch Gwyliau\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg\",\"datePublished\":\"2026-07-06T15:10:39+00:00\",\"dateModified\":\"2026-07-23T14:54:18+00:00\",\"description\":\"Mae'r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw'n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg\",\"width\":2240,\"height\":1260,\"caption\":\"Groups of teens posing for a group photo at a festival\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cadw&#8217;n Ddiogel Mewn Gwyliau Dros yr Haf\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diogelwch Gwyliau","description":"Mae'r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw'n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diogelwch Gwyliau","og_description":"Mae'r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw'n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-07-06T15:10:39+00:00","article_modified_time":"2026-07-23T14:54:18+00:00","og_image":[{"width":2240,"height":1260,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Cadw&#8217;n Ddiogel Mewn Gwyliau Dros yr Haf","datePublished":"2026-07-06T15:10:39+00:00","dateModified":"2026-07-23T14:54:18+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/"},"wordCount":1103,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg","keywords":["aros yn ddiogel","cadw'n ddiogel","cadw'n ddiogel mewn gwyliau","Diogelwch Gwyliau","Diogelwch gwyliau dros yr haf","dioglewch gwyliau cerddoriaeth","Dioglewch mewn gwyliau","Festival Safety","g\u0175yl gerddoriaeth","Safety at Festivals","Staying Safe at Festivals","Staying Safe at Festivals This Summer"],"articleSection":["Diogelwch Corfforol"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/","name":"Diogelwch Gwyliau","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg","datePublished":"2026-07-06T15:10:39+00:00","dateModified":"2026-07-23T14:54:18+00:00","description":"Mae'r Haf yn gyfnod llawn gwyliau gwahanol! Dyma gyngor er mwyn cael amser da wrth gadw'n ddiogel a gofalu am dy hun a dy ffrindiau.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/21.jpg","width":2240,"height":1260,"caption":"Groups of teens posing for a group photo at a festival"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/07\/06\/diogelwch-gwyliau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cadw&#8217;n Ddiogel Mewn Gwyliau Dros yr Haf"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9635"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9720,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9635\/revisions\/9720"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9620"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9635"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9635"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9635"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}