{"id":9488,"date":"2026-06-01T10:59:46","date_gmt":"2026-06-01T09:59:46","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=9488"},"modified":"2026-06-01T10:59:46","modified_gmt":"2026-06-01T09:59:46","slug":"dathlu-y-iaith-gymraeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/","title":{"rendered":"Dulliau Dathlu&#8217;r Iaith Gymraeg"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau i ti, pa un ai wyt ti&#8217;n siarad yr iaith yn rhugl neu&#8217;n cychwyn arni.<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cymraeg yw un o&#8217;r ieithoedd hynaf yn Ewrop, yn rhannu gwreiddiau gydag ieithoedd Celtaidd eraill, fel Cernyweg.\u00a0 Ond nid mewn dosbarth neu yn y cartref mae Cymraeg yn bodoli yn unig. O wyliau mawr yr haf i ddram\u00e2u Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr, mae sawl ffordd i brofi a dathlu&#8217;r iaith yn ein bywydau bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwrando ar Fiwsig Cymraeg<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cynyddiad enfawr wedi bod mewn cerddoriaeth pop, roc ac indi Cymraeg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda llawer iawn o fandiau newydd yn ymddangos ledled y wlad. Gellir darganfod rhestr chwarae ar lwyfannau ffrydio fel <a href=\"https:\/\/open.spotify.com\/playlist\/3eQWTVqtktAQ5ALltHFZcQ\">Spotify<\/a> a YouTube yn hawdd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I gadw&#8217;n ddiweddar, gallet ti ddilyn &#8216;<a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/miwsig_\/\">Miwsig<\/a>&#8216; ar gyfryngau cymdeithasol. Mae&#8217;n cael ei redeg gan S4C ac mae&#8217;n wych i rannu cerddoriaeth newydd ac argymhellion rhestrau chwarae. Os wyt ti angen esgus i ddiweddaru dy restr chwarae yna mae Dydd Miwsig Cymru yn berffaith. Cyfle i ddathlu bob math o fiwsig, o hip-hop i ganeuon indi, a dangos pa mor amrywiol yw&#8217;r s\u00een miwsig Cymraeg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae lleoliadau cerddoriaeth byw fel <a href=\"https:\/\/clwb.net\/cy\/\">Clwb Ifor Bach<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.porterscardiff.org\/\">Porters<\/a> yng Nghaerdydd yn aml yn cynnal gigs miwsig Cymraeg eu hiaith.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"945\" height=\"531\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/79.jpg\" alt=\"Festival with Welsh language artist on stage\" class=\"wp-image-9470\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/79.jpg 945w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/79-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/79-768x432.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 945px) 100vw, 945px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwylio sioeau a ffilmiau Cymraeg<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes well gen ti wylio&#8217;r teledu, yna <a href=\"https:\/\/www.s4c.cymru\/cy\">S4C<\/a> yw&#8217;r lle gorau i edrych. Efallai byddi di&#8217;n adnabod rhai o&#8217;r sioeau a gafodd eu ffilmio yn agos i ti. Mae sawl drama gyffrous wedi&#8217;u ffilmio yn Gymraeg a Saesneg, sydd yn eu gwneud yn berffaith ar gyfer unrhyw lefel iaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o&#8217;r rhain yw <em>Un Bore Mercher (Keeping Faith)<\/em>, sioe gyffro a gafodd clod rhyngwladol. Mae&#8217;n stori gyffrous am \u0175r sydd wedi mynd ar goll, ac enillodd sawl gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys Actores Orau i Eve Myles.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dram\u00e2u trosedd eraill fel <em>Y Gwyll (Hinterland) <\/em>a <em>Craith (Hidden) <\/em>hefyd wedi ennill gwobrau mawr am eu stori dywyll a chyffrous.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac mae gen ti <em>Dal y Mellt <\/em>hefyd, sioe llawn cyffro a oedd y ddrama iaith Gymraeg cyntaf i gael ei ffrydio ar Netflix.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes well gen ti deledu realiti, yna beth am <em>Y Llais<\/em>, sef fersiwn Cymraeg <em>The Voice<\/em> gyda Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd, Branwen Lewis a Aleighcia Scott.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darllen a dysgu ar-lein<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti eisiau ymarfer dy sgiliau, gallet ti geisio lawrlwytho ap iaith fel Duolingo ar gyfer gemau byr, dyddiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna grwpiau anffurfiol ledled Cymru hefyd, yn aml yn cael eu trefnu gan <a href=\"https:\/\/mentrauiaith.cymru\/amdanom-ni\/ein-gwaith\/\">Fentrau Iaith<\/a>, lle gall pobl o bob lefel gyfarfod am sgwrs braf dros goffi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae darllen ar-lein hefyd yn ffordd wych i ymarfer yn amser dy hun. Gallet ti sgrolio trwy wefannau newyddion Cymraeg fel <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\">BBC Cymru Fyw<\/a>. Mae darllen erthyglau byr yn gallu helpu ti i weld sut mae brawddegau go iawn yn cael eu rhoi at ei gilydd, ac mae&#8217;n ffordd dda i ddysgu geiriau newydd heb unrhyw bwysau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn oed yma ar <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\">Meic<\/a>, mae posib newid rhwng y Gymraeg ar Saesneg. Mae darllen yr erthygl Cymraeg ar wefan rwyt ti&#8217;n adnabod ac yn ymddiried ynddi yn ffordd dda o ymarfer heb unrhyw straen. Os yw tudalen cyfan o Gymraeg yn teimlo&#8217;n ormod ar y cychwyn, yna paid poeni. Os wyt ti&#8217;n teimlo rhwystredigaeth, mae&#8217;r botwm Saesneg yno ar y top sy&#8217;n golygu gallet ti newid yn \u00f4l ac ymlaen i wirio dy ddealltwriaeth yn syth.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/80-1024x576.jpg\" alt=\"Cymraeg badge and lanyard\" class=\"wp-image-9472\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/80-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/80-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/80-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/80.jpg 1323w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y cam nesaf mewn addysg<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti&#8217;n astudio mewn coleg neu brifysgol ar hyn o bryd, neu&#8217;n bwriadu mynd yn fuan, gallet ti edrych ar wneud rhan o dy gwrs yng Nghymraeg. Mae sefydliad <a href=\"https:\/\/colegcymraeg.ac.uk\/en\/\">Coleg Cymraeg Cenedlaethol <\/a>yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion ledled Cymru i greu&#8217;r cyfleoedd yma.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes rhaid i ti wneud y radd neu&#8217;r cwrs cyfan yng Nghymraeg os nad wyt ti eisiau. Yn aml gallet ti ddewis un neu ddau fodiwl, neu ysgrifennu dy aseiniadau yng Nghymraeg efallai. Mae gwneud hyn yn ffordd dda i gadw dy sgiliau iaith. Mae hefyd yn gallu rhoi hwb mawr i dy hyder ac yn edrych yn wych ar dy CV wrth chwilio am waith.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Profiad o wyliau Cymraeg<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti eisiau profi&#8217;r iaith yn fyw, mae Cymru yn cynnal sawl digwyddiad gwych bob haf. Yr un mwyaf yw&#8217;r <a href=\"https:\/\/eisteddfod.cymru\/\">Eisteddfod Genedlaethol.<\/a> Mae&#8217;r \u0175yl enfawr yma yn teithio i leoliad newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae&#8217;n cynnwys gigs awyr agored gyda bandiau Cymraeg, perfformiadau drama, stondinau bwyd a nwyddau Cymru, yn ogystal \u00e2&#8217;r holl gystadlu. Mae&#8217;n agored i bawb, ta waeth faint o Gymraeg sydd gen ti.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti&#8217;n 16 neu&#8217;n h\u0177n, gallet ti edrych ar <a href=\"https:\/\/maesb.com\/\">Maes B<\/a>. Mae hwn yn adran arbennig o&#8217;r Eisteddfod ble mae pobl ifanc yn mynd i wersylla a gwylio gigs miwsig hwyr y nos. Gall gwyliau fod yn ddrud weithiau, ond gallet ti wirfoddoli y tu \u00f4l i lenni\u2019r Eisteddfod i gael tocyn am ddim.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Opsiwn gwych arall yw <a href=\"https:\/\/tafwyl.org\/\">Tafwyl<\/a>, sydd yn \u0175yl am ddim ym Mharc Bute Caerdydd bob blwyddyn. Tra bod hwn yn canolbwyntio ar gerddoriaeth byw, mae&#8217;n cynnal nosweithiau meic agored, podlediadau byw, gweithdai, a sesiynau holi ac ateb gyda gwesteion arbennig hefyd.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-1024x576.jpg\" alt=\"Eisteddfod festival\" class=\"wp-image-9478\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/Meic-In-blog-graphics-14-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cysylltu \u00e2&#8217;r ardal leol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oes rhaid i ti ddisgwyl am \u0175yl yn yr haf i gymryd rhan. Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.urdd.cymru\/cy\/\">Urdd<\/a> yn cynnal clybiau, cylchgronau, a chanolfannau gweithgareddau ledled Cymru. Maent yn cynnig llawer o gyfleoedd gwirfoddoli lleol, a gall hyn fod yn ffordd wych i gyfarfod pobl newydd a rhoi tro ar rywbeth gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallet ti edrych am fusnesau Cymraeg annibynnol yn dy gymuned, fel siopau coffi neu frandiau dillad lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fyddi di allan, cadwa lygaid am staff yn gwisgo&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.comisiynyddygymraeg.cymru\/defnyddio-r-gymraeg\/iaith-gwaith\">bathodyn siarad Cymraeg oren.<\/a> Mae&#8217;r bathodyn yma yn rhan o ymgyrch i ddangos yn union pwy allet ti sgwrsio \u00e2 nhw yn Gymraeg, pa un ai wyt ti eisiau ymarfer neu ddweud shwmae yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cyfryngau cymdeithasol yn llawn pobl yn rhannu&#8217;r Gymraeg mewn ffordd hwylus, hamddenol. Gallet ti ddilyn pobl fel Joe le Potato, Doctor Cymraeg neu sianel Hansh ar TikTok ac Instagram. Maent yn creu fideos byr sy&#8217;n gwneud i&#8217;r Gymraeg deimlo&#8217;n fodern ac yn hawdd ei ddeall.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sgwrsia gyda ni yn Meic<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yma i gefnogi ti ym mha bynnag iaith sydd yn teimlo fwyaf cyfforddus i ti. Mae Meic ar gael yn Saesneg ac yng Nghymraeg, felly gallet ti ddewis pa iaith sydd yn well gen ti pan fyddi di&#8217;n cysylltu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein cynghorwyr cyfeillgar yn gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth eiriolaeth gyfrinachol gydag unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Y tro nesaf mae gen ti rywbeth rwyt ti eisiau siarad amdano, ac rwyt ti eisiau ymarfer dy Gymraeg ar yr un pryd, yna cysyllta \u00e2 Meic.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pob hwyl!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau i ti, pa un ai wyt ti&#8217;n siarad yr iaith yn rhugl neu&#8217;n cychwyn arni. Cymraeg yw un o&#8217;r ieithoedd hynaf yn Ewrop, yn rhannu gwreiddiau gydag ieithoedd Celtaidd eraill, fel Cernyweg.\u00a0 Ond nid mewn dosbarth neu yn y cartref mae Cymraeg [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9469,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1669],"tags":[5110,5105,5111,1435,5125,4631,5126,5127,5112,5109,5107,5114,5121,5108,5113,5123,5106],"class_list":["post-9488","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diwylliant","tag-bbc-cymru-fyw","tag-celebrate-welsh-language","tag-coleg-cymraeg-cenedlaethol","tag-cymraeg","tag-dathlur-iaith-gymraeg","tag-eisteddfod","tag-eisteddfod-genedlaethol","tag-iaith-gymraeg","tag-maes-b","tag-mentrau-iaith","tag-miwsig","tag-national-eisteddfod","tag-s4c","tag-tafwyl","tag-welsh-language"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Dulliau Dathlu&#039;r Iaith Gymraeg - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti&#039;n siarad yn rhugl neu&#039;n cychwyn arni\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dulliau Dathlu&#039;r Iaith Gymraeg - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti&#039;n siarad yn rhugl neu&#039;n cychwyn arni\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-06-01T09:59:46+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1323\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"744\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Dulliau Dathlu&#8217;r Iaith Gymraeg\",\"datePublished\":\"2026-06-01T09:59:46+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\"},\"wordCount\":1162,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg\",\"keywords\":[\"BBC Cymru Fyw\",\"Celebrate Welsh Language\",\"Coleg Cymraeg Cenedlaethol\",\"Cymraeg\",\"dathlu'r iaith gymraeg\",\"eisteddfod\",\"eisteddfod genedlaethol\",\"iaith gymraeg\",\"Maes B\",\"Mentrau Iaith\",\"Miwsig\",\"National Eisteddfod\",\"National Eisteddfod\",\"s4c\",\"Tafwyl\",\"Tafwyl\",\"Welsh Language\"],\"articleSection\":[\"Diwylliant\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\",\"name\":\"Dulliau Dathlu'r Iaith Gymraeg - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg\",\"datePublished\":\"2026-06-01T09:59:46+00:00\",\"description\":\"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti'n siarad yn rhugl neu'n cychwyn arni\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg\",\"width\":1323,\"height\":744,\"caption\":\"Cymraeg orange badge\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dulliau Dathlu&#8217;r Iaith Gymraeg\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dulliau Dathlu'r Iaith Gymraeg - Meic","description":"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti'n siarad yn rhugl neu'n cychwyn arni","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dulliau Dathlu'r Iaith Gymraeg - Meic","og_description":"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti'n siarad yn rhugl neu'n cychwyn arni","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-06-01T09:59:46+00:00","og_image":[{"width":1323,"height":744,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Dulliau Dathlu&#8217;r Iaith Gymraeg","datePublished":"2026-06-01T09:59:46+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/"},"wordCount":1162,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg","keywords":["BBC Cymru Fyw","Celebrate Welsh Language","Coleg Cymraeg Cenedlaethol","Cymraeg","dathlu'r iaith gymraeg","eisteddfod","eisteddfod genedlaethol","iaith gymraeg","Maes B","Mentrau Iaith","Miwsig","National Eisteddfod","National Eisteddfod","s4c","Tafwyl","Tafwyl","Welsh Language"],"articleSection":["Diwylliant"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/","name":"Dulliau Dathlu'r Iaith Gymraeg - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg","datePublished":"2026-06-01T09:59:46+00:00","description":"Mae defnyddio Cymraeg yn gallu agor byd newydd o gerddoriaeth, sioeau, a gwyliau, pa un ai wyt ti'n siarad yn rhugl neu'n cychwyn arni","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/78.jpg","width":1323,"height":744,"caption":"Cymraeg orange badge"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/06\/01\/dathlu-y-iaith-gymraeg\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dulliau Dathlu&#8217;r Iaith Gymraeg"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9488","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9488"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9488\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9492,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9488\/revisions\/9492"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9488"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9488"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9488"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}