{"id":9318,"date":"2026-04-07T08:00:00","date_gmt":"2026-04-07T07:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=9318"},"modified":"2026-03-31T12:01:55","modified_gmt":"2026-03-31T11:01:55","slug":"gwrthdaro-byd-effeithio-pawb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/","title":{"rendered":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r blog yma yn edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro ymhell mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau&#8217;n agosach at adref, a sut i reoli&#8217;r poeni a ddaw gyda hyn.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw gwrthdaro?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwrthdaro yn air a ddefnyddir pan fydd gwledydd neu grwpiau yn anghytuno&#8217;n ddifrifol fel ei fod yn arwain at ymladd. Mae&#8217;n achosi llawer o boen i&#8217;r bobl sydd yn byw drwyddo. Mae llawer o bobl yn colli eu cartref, gelwir hyn yn dadleoli ac mae hynny&#8217;n golygu bod rhaid iddynt symud i lefydd newydd er mwyn cadw&#8217;n ddiogel. Mae llawer o straeon am bobl sydd wedi eu hanafu neu&#8217;n colli eu bywydau hefyd. Gall weld hyn ar y newyddion achosi rhywun i deimlo&#8217;n drist iawn a theimlo fel na allant wneud dim o gylch y peth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Effaith tonnog y gwrthdaro<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall deimlo&#8217;n frawychus iawn clywed am wrthdaro mewn rhannau eraill o&#8217;r byd. Hyd yn oed os yw&#8217;r gwrthdaro yma yn digwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd, gallwn deimlo&#8217;r effeithiau tonnog o hyd. Meddylia am garreg yn cael ei thaflu i mewn i lyn &#8211; mae&#8217;r sblashis yn teithio llawer ymhellach na ble glaniodd y garreg.<\/p>\n\n\n\n<p>Un ffordd y mae hyn yn digwydd yw trwy bwysau ariannol. Dyma pan fydd pethau&#8217;n costio mwy o arian nag yr oeddent cynt, fel ei bod yn anoddach i deuluoedd dalu am yr hyn sydd ei angen arnynt. Efallai byddi di&#8217;n sylwi bod pris tanwydd ar gyfer ceir yn codi, neu fod rhai bwydydd yn y siop yn anoddach i&#8217;w cael.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall y newidiadau yma effeithio ar dy gynlluniau hefyd. Efallai bydd gwyliau yn llawer drutach, neu awyrennau yn cael eu canslo gan nad yw&#8217;n ddiogel hedfan dros rai ardaloedd. Gall hyn fod yn siomedig os oeddet ti&#8217;n edrych ymlaen at wyliau.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd prisiau&#8217;n codi, gall achosi llawer o straen gartref. Efallai y bydd rhieni neu ofalwyr yn poeni mwy am arian, ac efallai y byddi di&#8217;n teimlo&#8217;r tensiwn yma yn y t\u0177. Mae&#8217;n bwysig gwybod bod y teimladau yma&#8217;n ymateb arferol i sefyllfa anodd ledled y byd.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/44-1024x576.jpg\" alt=\"A drop of water into a puddle\" class=\"wp-image-9311\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/44-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/44-300x169.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/44-768x432.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/44.jpg 1512w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Yr effaith ar dy iechyd meddwl<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall diweddariadau cyson am ryfel gael effaith ar dy iechyd meddwl a lles. Gall gweld fideos o ymladd ar gyfryngau cymdeithasol wneud i&#8217;r byd deimlo fel lle anniogel. Efallai dy fod di&#8217;n teimlo&#8217;n bryderus, yn ei gwneud hi&#8217;n anodd canolbwyntio yn yr ysgol neu fwynhau hob\u00efau.<\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau, efallai byddi di&#8217;n teimlo blinder tosturi. Dyma pan fyddi di&#8217;n poeni cymaint am yr hyn sy&#8217;n digwydd i eraill nes dy fod di&#8217;n dechrau teimlo&#8217;n flinedig. Nid yw&#8217;n golygu nad wyt ti&#8217;n berson caredig &#8211; mae&#8217;n golygu bod yr ymennydd angen br\u00eac o&#8217;r wybodaeth drwm. Mae&#8217;n iawn diffodd y newyddion a chanolbwyntio ar fywyd am ychydig. Mae gofalu am dy hun yn helpu ti i aros yn gryf i ofalu am eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darganfod dulliau ymdopi<\/h3>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/03\/09\/pethau-gofidus-yny-newyddion\/\">Mae yna rai pethau gallet ti eu gwneud i deimlo ychydig mwy o reolaeth.<\/a> Yn lle gwirio&#8217;r newyddion drwy&#8217;r dydd, ceisia edrych arno unwaith neu ddwywaith yn unig. Sicrha dy fod di&#8217;n cael dy wybodaeth o ffynonellau dibynadwy, yn hytrach na chyfrifon ar hap ar gyfryngau cymdeithasol yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti eisiau helpu, gallet ti edrych ar elusennau lleol sy&#8217;n anfon cymorth at y bobl sy&#8217;n cael eu heffeithio. Gall cymorth fod yn bethau fel bwyd, dillad, neu feddyginiaeth. Gall gwneud rhywbeth positif helpu ti i beidio teimlo fel nad oes dim gallet ti ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Cofia, nid ti sy&#8217;n gyfrifol am drwsio problemau&#8217;r byd. Mae&#8217;n iawn parhau i wneud y pethau sy&#8217;n gwneud ti&#8217;n hapus, fel gweld ffrindiau neu barhau \u00e2 hob\u00efau. Gall glynu wrth drefn helpu ti i deimlo&#8217;n ddiogel pan fydd pethau&#8217;n teimlo&#8217;n ansicr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall siarad am bryderon gyda ffrind neu oedolyn dibynadwy helpu hefyd. Yn aml, gall rhannu dy deimladau&#8217;n uchel wneud i bethau deimlo ychydig yn ysgafnach. Os wyt ti eisiau sgwrsio ond ddim yn si\u0175r at bwy i droi, siarada \u00e2 Meic!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\">Meic<\/a> yn llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r blog yma yn edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro ymhell mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau&#8217;n agosach at adref, a sut i reoli&#8217;r poeni a ddaw gyda hyn. Beth yw gwrthdaro? Mae gwrthdaro yn air a ddefnyddir pan fydd gwledydd neu grwpiau yn anghytuno&#8217;n ddifrifol fel ei fod yn arwain at [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9310,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1660,1684],"tags":[4967,4966,4951,4957,4958,4973,1858,4969,4970,4961,2986,4010,4968,4971,4972],"class_list":["post-9318","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-corfforol","category-stryglo-gyda-iechyd-meddwl","tag-blinder-tosturi","tag-canslo-gwyliau","tag-compassion-fatigue","tag-coping-mechanisms","tag-coping-strategies","tag-costau-cynyddol","tag-dulliau-ymdopi","tag-effaith-gwrthdaro","tag-effaith-rhyfel","tag-feeling-in-control","tag-gwrthdaro","tag-rhyfel","tag-strategau-ymdopi","tag-teimlo-mewn-rheolaeth","tag-ymladd-mewn-gweldydd-eraill"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau&#039;n agosach at adref, a sut i reoli&#039;r poeni\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau&#039;n agosach at adref, a sut i reoli&#039;r poeni\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-04-07T07:00:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1512\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"850\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb\",\"datePublished\":\"2026-04-07T07:00:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\"},\"wordCount\":736,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg\",\"keywords\":[\"blinder tosturi\",\"canslo gwyliau\",\"compassion fatigue\",\"coping mechanisms\",\"coping strategies\",\"costau cynyddol\",\"dulliau ymdopi\",\"effaith gwrthdaro\",\"effaith rhyfel\",\"feeling in control\",\"gwrthdaro\",\"rhyfel\",\"strategau ymdopi\",\"teimlo mewn rheolaeth\",\"ymladd mewn gweldydd eraill\"],\"articleSection\":[\"Diogelwch Corfforol\",\"Stryglo Gyda Iechyd Meddwl\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\",\"name\":\"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg\",\"datePublished\":\"2026-04-07T07:00:00+00:00\",\"description\":\"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau'n agosach at adref, a sut i reoli'r poeni\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg\",\"width\":1512,\"height\":850,\"caption\":\"Aerial view of the world\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic","description":"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau'n agosach at adref, a sut i reoli'r poeni","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic","og_description":"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau'n agosach at adref, a sut i reoli'r poeni","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-04-07T07:00:00+00:00","og_image":[{"width":1512,"height":850,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb","datePublished":"2026-04-07T07:00:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/"},"wordCount":736,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg","keywords":["blinder tosturi","canslo gwyliau","compassion fatigue","coping mechanisms","coping strategies","costau cynyddol","dulliau ymdopi","effaith gwrthdaro","effaith rhyfel","feeling in control","gwrthdaro","rhyfel","strategau ymdopi","teimlo mewn rheolaeth","ymladd mewn gweldydd eraill"],"articleSection":["Diogelwch Corfforol","Stryglo Gyda Iechyd Meddwl"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/","name":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg","datePublished":"2026-04-07T07:00:00+00:00","description":"Edrych ar y ffyrdd gall rhyfel a gwrthdaro mewn gwlad arall gael effaith ar fywydau'n agosach at adref, a sut i reoli'r poeni","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/43.jpg","width":1512,"height":850,"caption":"Aerial view of the world"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/04\/07\/gwrthdaro-byd-effeithio-pawb\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sut Mae Gwrthdaro o Amgylch y Byd yn Cael Effaith ar Bawb"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9318","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9318"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9318\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9320,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9318\/revisions\/9320"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9310"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9318"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9318"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9318"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}