{"id":9058,"date":"2026-02-09T09:47:40","date_gmt":"2026-02-09T09:47:40","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=9058"},"modified":"2026-02-09T09:47:40","modified_gmt":"2026-02-09T09:47:40","slug":"adnabod-rhagfarn-mewn-ai","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/","title":{"rendered":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Nid yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) mor niwtral ag y byddet ti&#8217;n meddwl bob tro. Mae&#8217;n debycach i ddrych &#8211; yn adlewyrchu&#8217;r wybodaeth a roddwyd iddo pan gafodd ei adeiladu. Pe bai&#8217;r wybodaeth yma&#8217;n unochrog, byddai&#8217;r AI yn unochrog hefyd. Dyma elwir yn rhagfarn AI.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw rhagfarn AI?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dychmyga dy fod di&#8217;n dysgu AI i adnabod beth mae gwyddonydd yn edrych fel. Os byddi di&#8217;n dangos 1,000 o luniau o ddynion mewn cot labordy iddo, bydd y robot yn meddwl mai dim ond dynion all fod yn wyddonwyr yn y pen draw. Os bydd merch mewn cot labordy yn cerdded heibio, efallai na fydd y robot yn sylweddoli ei bod hi&#8217;n wyddonydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma&#8217;n union sut mae rhagfarn AI yn gweithio. Mae AI yn &#8216;dysgu&#8217; o symiau enfawr o ddata o&#8217;r rhyngrwyd. Gan fod y rhyngrwyd yn cynnwys llawer o stereoteipiau hen ffasiwn a syniadau annheg, gall yr AI ddysgu&#8217;r un arferion hynny ar ddamwain.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-1024x576.png\" alt=\"AI Robot with alert\" class=\"wp-image-9039\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/10-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut mae rhagfarn AI yn cael effaith ar gyfryngau cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Efallai dy fod di&#8217;n gweld hyn yn dy fywyd bob dydd heb sylweddoli. Er enghraifft, mae rhai hidlwyr (filters) AI ar gyfryngau cymdeithasol wedi&#8217;u hadeiladu gan ddefnyddio data sy&#8217;n cynnwys un math o liw croen neu si\u00e2p wyneb. Pan fydd pobl sy&#8217;n edrych yn wahanol i hyn yn ceisio defnyddio&#8217;r hidlydd, efallai na fydd yn gweithio cystal, neu efallai y bydd yn ceisio &#8216;trwsio&#8217; eu hwyneb i edrych yn debycach i&#8217;r stereoteip.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyn ddigwydd hefyd gyda&#8217;r cynnwys a argymhellir i ti. Os yw algorithm yn meddwl mai dim ond tiwtorialau colur y mae merched eisiau eu gweld, a dim ond fideos gemau cyfrifiadur y mae bechgyn eisiau eu gweld, bydd yn parhau i wthio&#8217;r pethau hynny. Mae hyn yn creu siambr adlais, dim ond un darn bach o&#8217;r byd rwyt ti&#8217;n ei weld yn seiliedig ar ddyfaliad a wnaeth yr AI amdanat ti.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod rhagfarn AI yn bwysig?<\/h3>\n\n\n\n<p>Defnyddir AI mewn llawer mwy na chyfryngau cymdeithasol yn unig! Mae rhai cwmn\u00efau&#8217;n defnyddio AI i edrych trwy CVs. Pe bai&#8217;r AI hwnnw wedi&#8217;i hyfforddi ar restr o bobl a gafodd eu cyflogi 20 mlynedd yn \u00f4l, gallai anwybyddu ymgeiswyr gwych o wahanol gefndiroedd heddiw yn annheg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae enghreifftiau wedi bod ble mae adnoddau AI a ddefnyddir i ragweld graddau neu awgrymu cyrsiau wedi ffafrio myfyrwyr o ardaloedd cyfoethocach, oherwydd y data a fwydwyd iddo&#8217;n unig.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall hyd yn oed pethau fel adnabod wynebau neu apiau sganio croen fod yn llai cywir i bobl \u00e2 chroen tywyllach os na chawsant eu profi ar amrywiaeth ddigonol o bobl.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-1024x576.png\" alt=\"AI robot in a chatbox function\" class=\"wp-image-9041\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/11-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i adnabod rhagfarn AI<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid i ti stopio defnyddio AI, ond dylet ti ei ddefnyddio gyda llygad beirniadol. Mae hyn yn golygu cwestiynu&#8217;r canlyniadau y mae&#8217;n ei roi i ti. Os wyt ti&#8217;n gofyn i AI &#8216;greu delwedd o berson llwyddiannus&#8217; a dim ond un math o berson y mae&#8217;n ei ddangos i ti, yna gofynna i ti dy hun pam ei fod wedi dewis hynny. Pwy sydd ar goll?<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd AI yn rhoi ateb neu awgrym i ti, cofia mai dim ond rhagfynegiad yn seiliedig ar y gorffennol ydyw. Nid yw&#8217;n deall realiti llawn, amrywiol y byd heddiw. Os yw rhywbeth yn teimlo&#8217;n annheg, yna bydda \u00e2 ffydd yn y teimlad yna a&#8217;i herio.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth ddefnyddio AI, cofia&#8217;r awgrymiadau yma i <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/diogelwch-ar-lein\/\">gadw&#8217;n ddiogel ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) mor niwtral ag y byddet ti&#8217;n meddwl bob tro. Mae&#8217;n debycach i ddrych &#8211; yn adlewyrchu&#8217;r wybodaeth a roddwyd iddo pan gafodd ei adeiladu. Pe bai&#8217;r wybodaeth yma&#8217;n unochrog, byddai&#8217;r AI yn unochrog hefyd. Dyma elwir yn rhagfarn AI. Beth yw rhagfarn AI? Dychmyga dy fod di&#8217;n dysgu AI i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":9038,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1659],"tags":[2432,4823,2433,4826,4795,4824,4825],"class_list":["post-9058","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-ar-lein","tag-ai-cy","tag-ai-bias","tag-artificial-intelligence-cy","tag-cyfyngiadau-ai","tag-deallusrwydd-artiffisial","tag-limitations-of-ai","tag-rhagfarn-ai"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw&#039;r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau&#039;n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw&#039;r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau&#039;n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-02-09T09:47:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1260\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial\",\"datePublished\":\"2026-02-09T09:47:40+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\"},\"wordCount\":588,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png\",\"keywords\":[\"AI\",\"AI Bias\",\"Artificial Intelligence\",\"Cyfyngiadau AI\",\"Deallusrwydd Artiffisial\",\"Limitations of AI\",\"Rhagfarn AI\"],\"articleSection\":[\"Diogelwch Ar-lein\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\",\"name\":\"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png\",\"datePublished\":\"2026-02-09T09:47:40+00:00\",\"description\":\"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw'r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau'n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png\",\"width\":2240,\"height\":1260,\"caption\":\"AI Robot on laptop\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic","description":"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw'r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau'n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic","og_description":"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw'r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau'n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-02-09T09:47:40+00:00","og_image":[{"width":2240,"height":1260,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png","type":"image\/png"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial","datePublished":"2026-02-09T09:47:40+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/"},"wordCount":588,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png","keywords":["AI","AI Bias","Artificial Intelligence","Cyfyngiadau AI","Deallusrwydd Artiffisial","Limitations of AI","Rhagfarn AI"],"articleSection":["Diogelwch Ar-lein"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/","name":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png","datePublished":"2026-02-09T09:47:40+00:00","description":"Mae AI yn dysgu o set ddata, felly os nad yw'r data y dysgodd ohono yn niwtral, bydd yr allbynnau'n rhagfarnllyd. Dyma sut i adnabod rhagfarn AI.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/02\/9.png","width":2240,"height":1260,"caption":"AI Robot on laptop"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/02\/09\/adnabod-rhagfarn-mewn-ai\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Adnabod Rhagfarn Mewn Deallusrwydd Artiffisial"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9058","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9058"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9058\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9062,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9058\/revisions\/9062"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9038"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9058"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9058"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9058"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}