{"id":8079,"date":"2018-02-28T11:14:44","date_gmt":"2018-02-28T11:14:44","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2018\/02\/28\/get-parents-let-you-go-out-with-friends\/"},"modified":"2025-11-25T14:47:10","modified_gmt":"2025-11-25T14:47:10","slug":"caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/","title":{"rendered":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwyn cyffredin gan bobl ifanc ydy rhieni ddim yn gadael iddynt fynd allan i gymdeithasu. Gall fod yn anodd gweld dy ffrindiau yn cael mynd i&#8217;r parc, neu&#8217;n mynd i&#8217;r dref, a tithau\u2019n gorfod dweud na bob tro.<\/h2>\n\n\n\n<p>Wyt ti&#8217;n meddwl bod dy rieni yn bod yn afresymol? A sut fedri di eu perswadio i adael i ti fynd?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam peidio gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae rhieni yn gallu gwneud joban dda iawn o boeni amdanat ti! Efallai eu bod wedi clywed am rywbeth drwg yn digwydd i rywun arall. Gall fod yn anodd iddynt beidio canolbwyntio ar y pethau drwg a phoeni bydd yr un peth yn digwydd i ti.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai bod rhywbeth wedi tynnu sylw ar y newyddion am yr holl drafferthion sydd yn gysylltiedig \u00e2 phobl ifanc. Gall fod yn anodd peidio dychmygu ti yn cael i drafferthion tebyg. Mae rhai rhieni hefyd yn cael trafferth derbyn bod eu plant yn tyfu yn oedolion ifanc.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae cymdeithasu&#8217;n dda<\/h3>\n\n\n\n<p>Beth bynnag yw rheswm dy rieni, mae&#8217;r canlyniadau&#8217;r un peth, chei di ddim mynd allan i gymdeithasu gyda dy ffrindiau. Ond mae cael gwneud hyn yn bwysig iawn i rywun o dy oedran di, am sawl rheswm:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Teimlo&#8217;n rhan o rywbeth, synnwyr o berthyn<\/li>\n\n\n\n<li>Gall gynyddu hyder<\/li>\n\n\n\n<li>Gall fod yn gysurus gan fod ti a dy ffrindiau yn cael profiadau tebyg.<\/li>\n\n\n\n<li>Caniat\u00e1u i ti ddysgu pethau gan dy ffrindiau<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill profiad o ddod ymlaen \u00e2 phobl o ryw wahanol fel ffrindiau<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfle i arbrofi gyda rolau, syniadau, gwerthoedd a hunaniaeth wahanol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfle i ffurfio perthnasau rhamantus<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol pwysig &#8211; sensitifrwydd i deimladau, syniadau a llesiant eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Dysgu sut i fod yn deg a sut i ymddiried mewn eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill sgiliau ymarferol fel darllen amserlen bws, rheoli amser neu gyllidebu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat-1024x683.jpg\" alt=\"Four young men sat on the edge of a pavement One with a beanie, one with dreads, one with bucket hat an d one with baseball cap and sunglasses sipping through a straw.\" class=\"wp-image-8075\" style=\"width:498px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat-300x200.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat-768x512.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/4-young-men-sat.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut i newid meddwl dy rieni?<\/h2>\n\n\n\n<p>Felly wrth feddwl am yr holl resymau pam bod cael yr annibyniaeth yma yn dda, sut fedri di newid meddwl dy rieni? Mae hyn yn bosib, ond bydd rhaid cynllunio&#8217;n ofalus. Beth am roi tro ar yr awgrymiadau dilynol?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dewis yr amser cywir<\/h3>\n\n\n\n<p>Gofynna i dy rieni pan fydd ganddynt amser i siarad. Neu os wyt ti&#8217;n gwybod eu bod yn ymlacio ar bnawn Sul, yna dewisa\u2019r amser yma i siarad \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Paid disgwyl tan y funud ddiwethaf i ofyn iddynt, ta waeth pa mor ofnus wyt ti o glywed na. Mae rhieni yn hoffi gallu trefnu a pharatoi, yn enwedig os oes angen arian neu lifft.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddi di&#8217;n penderfynu gofyn, sicrha eu bod mewn tymer dda. Os wyt ti&#8217;n synhwyro eu bod dan straen neu wedi blino, paid gofyn. Os wyt ti mewn trafferth yn barod am rywbeth arall, paid gofyn. Amser da i ofyn bydda ar \u00f4l i ti greu argraff gyda dy aeddfedrwydd neu wrth helpu. Efallai byddant yn fwy tebygol o ddweud ia os ydynt yn gweld yr oedolyn ifanc ac nid y plentyn ifanc.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bydda&#8217;n feddylgar<\/h3>\n\n\n\n<p>Unwaith i ti ofyn, paid swnian am ateb. Bydda&#8217;n amyneddgar. Os wyt ti&#8217;n eu blino&#8217;n gofyn yna byddant yn llai tebygol o gytuno. Rho amser iddynt feddwl am dy gais.<\/p>\n\n\n\n<p>Gweithia gydag amserlen dy deulu&#8217;r gorau y gallet. Ceisia gydlynu dy gynlluniau gyda rhai dy rieni, nid yn eu herbyn. Gwna pethau&#8217;n hawdd iddynt ddweud ia. Ceisia beidio colli digwyddiadau teuluol er mwyn treulio amser gyda dy ffrindiau bob tro.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bydda&#8217;n barod ac yn onest<\/h3>\n\n\n\n<p>Sicrha bod yr holl fanylion yn barod gen ti &#8211; ble, pryd, pwy, beth, hyd yn oed pam efallai. Mae cael mwy o wybodaeth yn golygu y byddant yn debygol o fod yn hapusach.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydda&#8217;n onest. Os ydynt yn dy ddal yn dweud celwydd &#8211; ac maent yn sicr o wneud hynny &#8211; byddant yn cael ffydd ynddot ti yn anodd wedyn.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat-1024x683.jpg\" alt=\"Two girls sat on the floor, backs pressed up against a low wall. Both look at each other laughing and smiling.\" class=\"wp-image-8077\" style=\"width:500px\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat-300x200.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat-768x512.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/02\/two-young-girls-sat.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/girls-470679_1920.jpg\"><\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Tactegau<\/h3>\n\n\n\n<p>Cychwynna&#8217;n fach. Gofynna a chei di fynd i d\u0177 ffrind am y prynhawn, cyn symud ymlaen at fynd i&#8217;r dref neu ar noson allan i&#8217;r sinema. Os bydd dy rieni yn fwy cyfforddus gyda thi yn mynd allan, yna byddant yn fwy tebygol o ddweud ia yn fwy aml.<\/p>\n\n\n\n<p>Dweud wrth dy rieni beth maen nhw eisiau ac angen ei glywed. Cariad yw&#8217;r prif reswm iddynt fod eisiau dweud na, a&#8217;r teimlad dy fod di&#8217;n fwy diogel gartref gyda nhw. Tawela eu meddwl wrth ddweud bod y lle ti&#8217;n mynd yn le diogel, bod y cwmni yn weddus ac nad oes gen ti unrhyw fwriad gwneud unrhyw beth anghyfreithlon na pheryglus. Dweud wrthynt dy fod yn fodlon gyrru neges testun bob awr pan fyddi di&#8217;n mynd am y tro cyntaf. Bydd hyn yn eu cysuro. Bydd y pethau bach yma yn ei wneud yn llawer haws i dy rieni, ac i ti yn ei dro.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwa&#8217;n dawel wrth drafod dy gynlluniau. Nid fydd dy rieni eisiau gadael i blentyn sydd yn strancio fynd allan. Mae oedolyn ifanc aeddfed yn fwy tebygol o berswadio rhieni. Os nad wyt ti&#8217;n cael yr ateb rwyt ti eisiau yn syth, yna paid difetha pethau wrth fynnu, bygwth neu golli tymer.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Derbynia&#8217;r peth a bydda&#8217;n rhagweithiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Er ei bod yn anodd weithiau, bydd rhaid i ti dderbyn &#8220;na&#8221; y tro hyn er mwyn bod yn fuddugol y tro nesaf. Hyd yn oed os yw dy rieni yn dweud na, gallet ti barhau i fuddio wrth ymateb mewn ffordd aeddfed. Diolcha iddynt am wrando a phaid gwylltio nac gwaeddi. Cofia, oedolyn ifanc aeddfed ac nid plentyn bach yn strancio! Dylai dy ymateb aeddfed greu argraff arnynt ac efallai byddant yn newid eu meddwl neu&#8217;n dweud ia y tro nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oedd amodau i ti gael mynd (fel twtio&#8217;r ystafell wely\/gwneud gwaith cartref) sicrha dy fod di&#8217;n gwneud. Paid rhoi rheswm iddynt newid eu meddwl. Ti ddim eisiau sbwylio pethau i ti dy hun.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw&#8217;n bosib, gad i dy rieni gyfarfod y ffrindiau rwyt ti eisiau mynd allan \u00e2 nhw, neu siarad gyda&#8217;r oedolion fyddet ti&#8217;n aros yn eu tai. Efallai bydd hyn yn helpu i dawelu meddwl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bydda&#8217;n ddiolchgar a deall<\/h3>\n\n\n\n<p>Dangos dy fod di&#8217;n ddiolchgar. Dweud diolch i dy rieni os ydynt yn gadael i ti fynd a phaid gwneud unrhyw beth i siomi dy hun. Os wyt ti&#8217;n cael dy ddal yn gwneud rhywbeth na ddylet ti, y tebygrwydd ydy mai &#8220;na&#8221; fydd yr ateb tro nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydynt yn dweud &#8220;na&#8221;, er pa mor anodd y bydd, ceisia ddeall y rhesymau. Cofia beidio gorymateb ond paid rhoi&#8217;r ffidl yn y to. Gofynna eto y tro nesaf bydd ffrindiau yn mynd. Defnyddia&#8217;r rhestr &#8216;Mae cymdeithasu&#8217;n dda&#8217; uchod a dweud pam bod cymdeithasu gyda ffrindiau yn bwysig. Efallai bydd yr ateb yn wahanol y tro nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Galwa Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n meddwl bod penderfyniadau dy rieni yn annheg ac eisiau siarad gyda rhywun am hyn, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth\u00a0i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta am ddim.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cwyn cyffredin gan bobl ifanc ydy rhieni ddim yn gadael iddynt fynd allan i gymdeithasu. Gall fod yn anodd gweld dy ffrindiau yn cael mynd i&#8217;r parc, neu&#8217;n mynd i&#8217;r dref, a tithau\u2019n gorfod dweud na bob tro. Wyt ti&#8217;n meddwl bod dy rieni yn bod yn afresymol? A sut fedri di eu perswadio i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3157,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1663,1666],"tags":[4513,1698,2246,4514,1707,4516,2981,4517,2989],"class_list":["post-8079","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-ffrindiau","category-teulu","tag-convince-cy","tag-cyngor","tag-ffrindiau","tag-going-out-cy","tag-meic-2","tag-mynd-allan","tag-parents-cy","tag-perswadio","tag-rhieni"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i&#039;w perswadio i adael i ti fynd?\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i&#039;w perswadio i adael i ti fynd?\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-02-28T11:14:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-25T14:47:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1280\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau\",\"datePublished\":\"2018-02-28T11:14:44+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-25T14:47:10+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\"},\"wordCount\":1215,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg\",\"keywords\":[\"convince\",\"cyngor\",\"Ffrindiau\",\"going out\",\"meic\",\"mynd allan\",\"parents\",\"perswadio\",\"rhieni\"],\"articleSection\":[\"Ffrindiau\",\"Teulu\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\",\"name\":\"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg\",\"datePublished\":\"2018-02-28T11:14:44+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-25T14:47:10+00:00\",\"description\":\"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i'w perswadio i adael i ti fynd?\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1280},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic","description":"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i'w perswadio i adael i ti fynd?","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic","og_description":"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i'w perswadio i adael i ti fynd?","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2018-02-28T11:14:44+00:00","article_modified_time":"2025-11-25T14:47:10+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1280,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau","datePublished":"2018-02-28T11:14:44+00:00","dateModified":"2025-11-25T14:47:10+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/"},"wordCount":1215,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg","keywords":["convince","cyngor","Ffrindiau","going out","meic","mynd allan","parents","perswadio","rhieni"],"articleSection":["Ffrindiau","Teulu"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/","name":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg","datePublished":"2018-02-28T11:14:44+00:00","dateModified":"2025-11-25T14:47:10+00:00","description":"Cael trafferth gyda rhieni ddim yn gadael i ti fynd allan gyda ffrindiau? Efallai bod ffyrdd i'w perswadio i adael i ti fynd?","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/aids-1886383_1920.jpg","width":1920,"height":1280},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/02\/28\/caniatad-rhieni-allan-gyda-ffrindiau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Caniat\u00e2d Rhieni i Fynd Allan Gyda Ffrindiau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8079","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8079"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8079\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8083,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8079\/revisions\/8083"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3157"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8079"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8079"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8079"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}