{"id":8033,"date":"2018-05-17T08:00:09","date_gmt":"2018-05-17T07:00:09","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2018\/05\/17\/whats-the-deal-with-self-harming\/"},"modified":"2025-11-21T13:01:50","modified_gmt":"2025-11-21T13:01:50","slug":"dirgelwch-hunan-niweidio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/","title":{"rendered":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 5,500 o bobl yn hunan-niweidio ac yn gorfod aros yn yr ysbyty. Ond mae&#8217;r gwir ffigwr yn llawer mwy gan nad yw pawb yn gorfod aros yn yr ysbyty tra bod eraill ddim yn mynd i&#8217;r uned brys o gwbl. Mae gan y DU un o&#8217;r ffigyrau hunan-niweidio uchaf yn Ewrop ond mae yna lawer o ddiffyg gwybodaeth am y pwnc o hyd. Mae Alun Fletcher o SHARE <a href=\"https:\/\/mhmwales.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">MHM Wales<\/a> wedi ysgrifennu blog arbennig i Meic yn edrych ar hunan-niwed ac yn trafod camddealltwriaethau cyffredin.<\/h3>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Yr wythnos hon rydym yn rhedeg ymgyrch Iechyd Meddwl ar Meic i nodi <a style=\"font-size: 16px;\" href=\"https:\/\/www.mentalhealth.org.uk\/campaigns\/mental-health-awareness-week\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2018<\/a><span style=\"font-size: 16px;\">. Mae hwn yn un o ychydig erthyglau cyhoeddir ar y pwnc yr wythnos hon. Edrycha ar ein <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/erthyglau\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hadran erthyglau<\/a> am fwy.<\/span><\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth ydy hunan-niwed?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae hunan-niwed, neu hunan-anafu, yn derm ymbar\u00e9l ar gyfer unrhyw weithred, arferiad, neu ymddygiad sydd yn achosi niwed i&#8217;r corff. Yn gyffredinol, mae hunan-niweidio yn anafu dy hun yn fwriadol, wrth achosi anaf corfforol, rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus, neu esgeuluso&#8217;r hunan.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl yn hunan-niweidio mewn sawl ffordd wahanol, ond torri&#8217;r croen ydy&#8217;r ffordd fwyaf cyffredin. Gellir ystyried anhwylderau bwyta, camdriniaeth cyffuriau neu alcohol ac esgeuluso&#8217;r hunan fel hunan-niweidio, ond efallai nad yw&#8217;n cael ei ystyried fel hunan-niweidio bwriadol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod pobl yn hunan-niweidio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid oes un ateb i hyn. Mae hunan-niweidio yn ymateb i drallod emosiynol. Gall ddod o deimlo&#8217;n unig neu o arwahaniad cymdeithasol, o gamdriniaeth cynt, anhwylder pryder \u00f4l-drawmatig (PTSD), teimlad o euogrwydd neu fethiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o bobl yn defnyddio hunan-niweidio fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Rhyddhad<\/strong> &#8211; rhyddhau teimladau annioddefol fel galar, dicter, neu dristwch pan wyt ti&#8217;n wynebu pethau anodd, neu mae&#8217;r boen ar y tu mewn yn ormod.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Hunan-gosbi<\/strong> &#8211; &#8216;glanhau&#8217; dy hun o deimladau hunan-gasineb, cywilydd, euogrwydd a budredd.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Teimlo&#8217;n Real<\/strong> &#8211; weithiau mae&#8217;n haws delio gyda&#8217;r boen gorfforol yn hytrach na&#8217;r boen emosiynol. Weithiau mae pobl yn teimlo wedi&#8217;u datgysylltu o&#8217;r byd ac mae hunan-niweidio yn ffordd i gysylltu&#8217;r corff a&#8217;r meddwl.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Rheolaeth<\/strong> &#8211; mae rhai yn credu ei fod yn ffordd o fod mewn rheolaeth o rywbeth, pan nad yw&#8217;n bosib rheoli pethau eraill yn dy fywyd.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/question-mark-2123969_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1517 size-large\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/question-mark-2123969_1920-1024x619.jpg\" alt=\"Question mark for myths and facts for self-harming article\" width=\"1024\" height=\"619\"><\/a><\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Chwedlau a Ffeithiau<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o gamsyniadau am y &#8216;math o bobl sy&#8217;n hunan-niweidio&#8217;. Yma edrychwn ar y chwedlau a&#8217;r ffeithiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>CHWEDL: Dim ond eisiau sylw maen nhw<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>FFAITH: Mae hunan-niweidio yn beth preifat a phersonol fel arfer. Mae pobl sydd yn hunan-niweidio yn dueddol o guddio&#8217;r clwyf, neu yn niweidio llefydd sydd ddim i&#8217;w gweld o ddydd i ddydd. Pan fydd sylw yn cael ei roi i&#8217;r anafiad, yn aml bydd hyn yn negyddol ac yn cynyddu&#8217;r trallod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>CHWEDL: Dim ond merched yn eu harddegau sy&#8217;n hunan-niweidio<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>FFAITH: Er ei fod yn wir fod y mwyafrif o bobl sydd yn datgelu ymddygiad hunan-niweidiol yng Nghymru yn ferched ifanc rhwng 15 a 19 oed, mae&#8217;n effeithio ar fwy nag merched ifanc yn unig. Amcangyfrif bod 11% o dderbyniadau&nbsp;hunan-niwed i&#8217;r ysbyty&nbsp; llynedd yn wrywaidd, a bod cynyddiad yn y nifer o bobl h\u0177n sydd yn hunan-niweidio hefyd, yn enwedig dynion dros 75 oed.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>CHWEDL: Mae pobl yn hunan-niweidio i ffitio neu fod yn c\u0175l<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>FFAITH: Mae unrhyw un sydd yn hunan-niweidio yn gwneud hynny oherwydd anghenion gwaelodol a thrallod emosiynol. Os yw rhywun wedi rhoi tro arno i ffitio gyda ffrindiau yn yr ysgol, nid yw\u2019n debygol iawn y bydd hyn yn parhau. Nid tric parti yw hwn. Os yw rhywun yn parhau i anafu eu hunain, maent angen cymorth a chefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>CHWEDL: Nid yw&#8217;n anafiad drwg felly nid yw&#8217;r broblem yn ddifrifol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>FFAITH: Nid yw&#8217;n bwysig pa mor ddifrifol yw&#8217;r anafiad. Mae&#8217;r ffaith bod rhywun yn hunan-niweidio yn dangos bod angen cymorth a chefnogaeth arnynt. Os wyt ti&#8217;n sylweddoli bod rhywun yn niweidio, yna mae dy ymateb di&#8217;n bwysig iawn. Mae gwrthod yr anafiad yn bychanu&#8217;r person sydd yn teimlo&#8217;n flinedig ac fel bod pawb yn camddeall.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><strong>CHWEDL: Maent yn niweidio am eu bod eisiau lladd eu hunain<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>FFAITH: Er bod yna gysylltiad rhwng tueddiadau hunan-ddinistriol a hunan-niweidio, nid yw person sydd yn hunan-niweidio eisiau cymryd bywyd eu hunain o reidrwydd. Mae&#8217;r mwyafrif yn ei ddefnyddio i ymdopi gyda straen ac yn dal ati yn hytrach nag rhoi diwedd ar fywyd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut mae helpu ffrind sydd yn hunan-niweidio?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyw&#8217;r ffaith dy fod di&#8217;n adnabod rhywun sydd yn hunan-niweidio ddim yn golygu dy fod di&#8217;n gallu datrys eu problemau. Mae angen i ti gydymdeimlo, deall a bod yn amyneddgar. Y peth gorau gallet ti ei wneud ydy bod yna iddyn nhw, gwrando a&#8217;u hannog i chwilio am gefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Paid gwylltio a mynnu eu bod yn stopio. Maent yn defnyddio hunan-niwed fel ffordd o ymdopi, bydda nhw&#8217;n stopio os gallan nhw. Cyniga fynd i&#8217;r doctor neu&#8217;r cwnsler gyda nhw os ydynt yn dymuno.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut wyt ti&#8217;n helpu dy hun?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae siarad am dy broblemau gyda phobl yn gallu helpu. Gall rhannu dy broblemau gynyddu hunan-barch, gwneud i ti deimlo&#8217;n well am dy hun a gwneud bywyd yn fwy pleserus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cynghori a Therapi Siarad yn gallu helpu. Mae cynghorwyr yn cael eu hyfforddi i gynnig amrywiaeth o therap\u00efau siarad. Bydd hyn yn rhoi hunanymwybyddiaeth ac yn caniat\u00e1u i ti ddeall dy hun ac eraill yn well.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae grwpiau cefnogol yn ffordd wych i ddileu&#8217;r stigma o hunan-niweidio. Mae&#8217;n le i ti fynegi dy hun heb gael dy farnu. Byddi di&#8217;n dysgu sut i ymdopi gyda phroblemau mewn ffordd bositif a bydd rhannu gyda phobl eraill yn rhoi gwell dealltwriaeth i ti o dy broblemau, edrych ar wahanol opsiynau, darganfod strategaethau i ymdopi a chynyddu hunanymwybyddiaeth. Yn aml mae pobl yn teimlo&#8217;r gallu i fod yn agored mewn grwpiau cefnogol, er nad ydynt wedi gallu siarad gyda neb am eu problemau cyn hynny. Mae gwybod bod pobl eraill yn profi&#8217;r un pethau yn gallu gwneud ti&#8217;n gryfach wrth i ti wella.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1014\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image-1014x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-8030\" style=\"width:236px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image-1014x1024.jpg 1014w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image-297x300.jpg 297w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image-768x775.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Hi-Res-Image.jpg 1240w\" sizes=\"auto, (max-width: 1014px) 100vw, 1014px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/mhmwales.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">MHM (Mental Health Matters) Wales<\/a> yn cefnogi unrhyw un sydd yn cael ei effeithio gan iechyd meddwl gwael i wella ansawdd eu bywydau. Maent yn bwriadu cefnogi pobl i wneud newidiadau hirdymor yn y pethau sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd yn eu bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae SHARE (Ymwybyddiaeth, Gwellhad ac Addysg Hunan-niwed) yn gr\u0175p cefnogol sy&#8217;n cael ei redeg gan <a href=\"https:\/\/mhmwales.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">MHM Wales<\/a>. Mae&#8217;r gr\u0175p i rai dros 16 oed sydd eisiau torri cylchred hunan-niwed. Maent yn cael trafodaethau agored lle gall pobl siarad yn rhydd am eu profiadau o hunan-niwed mewn amgylchedd cyfeillgar ac agored. Maent yn dysgu strategaethau a thechnegau ymdopi fel nad ydynt yn hunan-niweidio bob tro.<\/p>\n\n\n\n<p>Am wybodaeth bellach am MHM Wales a SHARE cysyllta ar 01656 651 450 neu e-bostia: <a href=\"mailto:admin@mhmwales.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><\/a><a href=\"mailto:admin@mhmwales.org.uk\">admin@mhmwales.org.uk<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Galwa Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth\u00a0i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 5,500 o bobl yn hunan-niweidio ac yn gorfod aros yn yr ysbyty. Ond mae&#8217;r gwir ffigwr yn llawer mwy gan nad yw pawb yn gorfod aros yn yr ysbyty tra bod eraill ddim yn mynd i&#8217;r uned brys o gwbl. Mae gan y DU un o&#8217;r ffigyrau hunan-niweidio uchaf [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3183,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[9,1684],"tags":[4484,4493,4492,1698,4495,4494,4496,4497,4498,4460,4487,4491,4464,3024],"class_list":["post-8033","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-struggling-with-mental-health","category-stryglo-gyda-iechyd-meddwl","tag-blog-cy","tag-blog-gwadd","tag-chwedl","tag-cyngor","tag-ffeithiau","tag-hunan-anafiad","tag-hunan-anafu","tag-hunan-niwed","tag-hunan-niweidio","tag-mhaw2018-cy","tag-mhm-wales-cy","tag-share-cy","tag-wyim2018","tag-wythnos-ymwybyddiaeth-iechyd-meddwl"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae yna lawer nad ydyn ni&#039;n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy&#039;n ffaith a beth sy&#039;n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy&#039;n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae yna lawer nad ydyn ni&#039;n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy&#039;n ffaith a beth sy&#039;n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy&#039;n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-05-17T07:00:09+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-21T13:01:50+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1271\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"Y Gwir Am Hunan-Niweidio\",\"datePublished\":\"2018-05-17T07:00:09+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-21T13:01:50+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\"},\"wordCount\":1240,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg\",\"keywords\":[\"blog\",\"blog gwadd\",\"chwedl\",\"cyngor\",\"ffeithiau\",\"hunan-anafiad\",\"hunan-anafu\",\"hunan-niwed\",\"hunan-niweidio\",\"MHAW2018\",\"MHM Wales\",\"SHARE\",\"WYIM2018\",\"Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl\"],\"articleSection\":[\"Struggling With Mental Health\",\"Stryglo Gyda Iechyd Meddwl\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\",\"name\":\"Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg\",\"datePublished\":\"2018-05-17T07:00:09+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-21T13:01:50+00:00\",\"description\":\"Mae yna lawer nad ydyn ni'n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy'n ffaith a beth sy'n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy'n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1271},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y Gwir Am Hunan-Niweidio\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic","description":"Mae yna lawer nad ydyn ni'n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy'n ffaith a beth sy'n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy'n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic","og_description":"Mae yna lawer nad ydyn ni'n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy'n ffaith a beth sy'n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy'n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2018-05-17T07:00:09+00:00","article_modified_time":"2025-11-21T13:01:50+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1271,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio","datePublished":"2018-05-17T07:00:09+00:00","dateModified":"2025-11-21T13:01:50+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/"},"wordCount":1240,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg","keywords":["blog","blog gwadd","chwedl","cyngor","ffeithiau","hunan-anafiad","hunan-anafu","hunan-niwed","hunan-niweidio","MHAW2018","MHM Wales","SHARE","WYIM2018","Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl"],"articleSection":["Struggling With Mental Health","Stryglo Gyda Iechyd Meddwl"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/","name":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg","datePublished":"2018-05-17T07:00:09+00:00","dateModified":"2025-11-21T13:01:50+00:00","description":"Mae yna lawer nad ydyn ni'n ei ddeall am hunan-niweidio. Pam bod pobl yn gwneud? Beth sy'n ffaith a beth sy'n chwedl? Beth fedri di wneud i helpu ti dy hun neu dy ffrind sy'n hunan-niweidio? Dysga fwy yn ein blog arbennig gan MHM Wales ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bandage-1235337_1920.jpg","width":1920,"height":1271},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/05\/17\/dirgelwch-hunan-niweidio\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y Gwir Am Hunan-Niweidio"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8033","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8033"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8033\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8035,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8033\/revisions\/8035"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3183"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8033"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8033"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8033"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}