{"id":7896,"date":"2018-09-06T09:01:37","date_gmt":"2018-09-06T08:01:37","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2018\/09\/06\/hpv-whats-it-all-about\/"},"modified":"2025-11-20T17:50:33","modified_gmt":"2025-11-20T17:50:33","slug":"beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/","title":{"rendered":"Beth Yn Y Byd Ydy&#8217;r Brechiad HPV?"},"content":{"rendered":"<p style=\"text-align: center;\"><span style=\"color: #800080;\">\u00a0<\/span><\/p>\n<h3>Imiwneiddio! Pigiad! Dydy brechiadau sydd yn amddiffyn ti rhag salwch ddim yn dod i ben pan wyt ti&#8217;n fabi. Mae brechiadau yn bwysig iawn i bobl ifanc ac oedolion hefyd, yn dy gadw&#8217;n ddiogel ac yn iach. Mae&#8217;r HPV yn un o&#8217;r rhain.<\/h3>\n<h3><\/h3>\n<h3>Ydy hwn rhywbeth i wneud \u00e2 chanser?<\/h3>\n<p>Ydy. Mae&#8217;r brechiad HPV yn amddiffyn yn erbyn canser serfigol. Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.cancerresearchuk.org\/about-cancer\/causes-of-cancer\/infections-hpv-and-cancer\/hpv-and-cancer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ymchwil Canser y DU<\/a> dyma&#8217;r ail ganser fwyaf cyffredin mewn merched dan 35 oed, gyda 8 merch yn derbyn diagnosis bob dydd, bron i 3,000 y flwyddyn. Amcangyfrif y gellir achub tua 400 o&#8217;r bywydau yma bob blwyddyn gyda&#8217;r brechiad HPV, yn amddiffyn yn erbyn canser serfigol am o leiaf 20 mlynedd.<\/p>\n<h3>Beth ydy ystyr HPV?<\/h3>\n<p>Firws Papiloma Dynol (HPV) ydy&#8217;r enw rhoddir i deulu o firysau. Mae yna 100 o firysau gwahanol yn y teulu yma. Risg isel yw&#8217;r rhai ohonynt sydd yn achosi pethau fel dafad neu ferwca. Ond mae mathau eraill yn risg uchel (40 yn effeithio&#8217;r ardal genitalia) ac yn gallu achosi salwch difrifol fel canser y fagina, canser y fwlfa, canser yr anws, canser y pidyn a chanser serfigol wrth gwrs. Yn aml nid yw&#8217;r haint HPV yn achosi unrhyw symptomau, felly mae pobl yn anymwybodol eu bod yn wael am gyfnod hir.<\/p>\n<h3>Sut mae dal yr haint HPV?<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r haint HPV yn GYFFREDIN iawn ac yn gallu cael ei ledaenu drwy weithgaredd rhywiol. Mae&#8217;n debyg bydd bron i hanner y boblogaeth yn dal yr haint HPV yn eu bywyd ryw dro. Ond, fel arfer, mae&#8217;r system imiwnedd yn gallu brwydro&#8217;r haint, felly nid yw&#8217;n achosi unrhyw niwed. Ond weithiau mae&#8217;r haint yn gallu meddiannu&#8217;r system imiwnedd ac achosi problemau iechyd difrifol.<\/p>\n<h3><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/condoms-3112008_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-986 size-large\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/condoms-3112008_1920-1024x683.jpg\" alt=\"Condoms safe sex for HPV article\" width=\"1024\" height=\"683\" \/><\/a><\/h3>\n<h3>Dwi ddim yn cael rhyw, felly pam bod rhaid i mi ei gael yn 13 oed?<\/h3>\n<p>Mae&#8217;n wir nad yw&#8217;r mwyafrif o enethod yn cael rhyw nes yn 16 oed. Ond, mae&#8217;n bwysig dy fod di wedi amddiffyn, a bod hyn yn ddigon buan.<\/p>\n<p>Blynyddoedd cynnar dy arddegau yw&#8217;r amser gorau i hyn. Ffordd arall i amddiffyn rhag HPV ydy wrth ymarfer rhyw ddiogel gan <a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/sitesplus\/888\/tudalen\/60022\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ddefnyddio condomau<\/a>; bydd hyn yn dy amddiffyn rhag clefydau cysylltiad rhywiol (STI&#8217;s) eraill hefyd. Ond mae&#8217;n bwysig cofio nad yw condomau yn gorchuddio&#8217;r holl ardal genitalia, ac yn aml bydd cyswllt rhywiol wedi dechrau cyn rhoi&#8217;r condom ymlaen. Er ei bod yn syniad da defnyddio condom BOB TRO, nid all gwarantu ei fod yn atal HPV.<\/p>\n<h3>Dylai pob geneth gael y brechiad?<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r brechiad yn rhan o <a href=\"http:\/\/www.nhsdirect.wales.nhs.uk\/pdfs\/routine%20childhood%20immunisation%20schedule%20-%20welsh_%20pdf.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Raglen Imwineiddio Plant Cymru y GIG<\/a>, ac felly&#8217;n cael ei gynnig i holl enethod ysgol uwchradd 12\/13 oed yng Nghymru, yn ystod blwyddyn 8 fel arfer. Mae&#8217;n frechiad diogel iawn ac felly mae&#8217;r mwyafrif o enethod ifanc yn gallu ei gael. Ond mae yna rai cyflyrau iechyd gallai atal rhywun rhag derbyn y brechiad, fel system imiwnedd gwan neu gyflyrau sy&#8217;n gwneud i rywun waedu mwy fel Thrombocytopenia. Os ydynt wedi cael adwaith alergaidd difrifol i ddos blaenorol HPV neu unrhyw un o&#8217;i gynhwysion, bydd angen rhagofal arbennig. Os yw person ifanc yn feichiog, mae posib derbyn y brechiad, ond gyda mwy o ofal.<\/p>\n<h3>Beth os fyddaf yn s\u00e2l neu&#8217;n dioddef gyda phoen mislif ar ddiwrnod y brechiad?<\/h3>\n<p>Nid yw dioddef o annwyd neu boen mislif yn rheswm i oedi&#8217;r brechiad HPV. Ond, os oes gen ti salwch mwy difrifol, gyda thymheredd uchel, yna mae&#8217;n debyg dylid gohirio. Mae perygl y gall drysu rhwng symptomau&#8217;r salwch ac unrhyw \u00f4l-effaith o&#8217;r brechiad, a gall hyn arwain at ddiagnosis anghywir os oes rhaid mynd i&#8217;r doctor.<\/p>\n<h3>Beth os ydw i&#8217;n cymryd meddyginiaeth neu wedi cael brechiad arall yn ddiweddar?<\/h3>\n<p>Y peth callaf fydda i ddweud wrth y doctor neu&#8217;r nyrs sydd yn rhoi&#8217;r brechiad. Ni fydd y mwyafrif o feddyginiaeth na brechiadau yn achosi unrhyw broblemau.<\/p>\n<h3>Un pigiad ydy&#8217;r HPV?<\/h3>\n<p>Nage, dau, sy&#8217;n cael eu rhoi ar wah\u00e2n dros gyfnod o 6 i 24 mis. Mae&#8217;r brechlyn yn cael ei roi yng nghyhyr top dy fraich. Er mwyn i ti gael amddiffyniad llwyr mae&#8217;n rhaid i ti gael y ddau bigiad . Derbynnir y cyntaf ym mis Hydref blwyddyn 8 fel arfer a&#8217;r ail tua 6-24 mis wedyn. Mae&#8217;n ddibynnol ar argaeledd y nyrsys ysgol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/fever-310721_1280.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-987 size-large\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/fever-310721_1280-1024x591.png\" alt=\"feeling sick for HPV article\" width=\"1024\" height=\"591\" \/><\/a><\/p>\n<h3>Beth os ydw i adref yn s\u00e2l ar y diwrnod?<\/h3>\n<p>Paid poeni. Os wyt ti&#8217;n methu unrhyw un o&#8217;r brechiadau yna gwna apwyntiad gyda&#8217;r doctor. Dylid gwneud hyn mor agos i&#8217;r dyddiad gwreiddiol \u00e2 phosib, a hefyd mor ifanc \u00e2 phosib. Os wyt ti&#8217;n 15 oed yna bydd rhaid cael 3 pigiad ac os wyt ti&#8217;n 18 yna dyw&#8217;r brechiad ddim ar gael am ddim gan y GIG bellach.<\/p>\n<h3>Os ydw i&#8217;n cael yr HPV oes rhaid i mi fynd am brawf Smear?<\/h3>\n<p>Oes, mae&#8217;r prawf sgrinio serfigol (smear) yn digwydd bob 3-5 mlynedd rhwng 25 a 64 oed. Smear ydy pan fydd nyrs neu ddoctor yn edrych ar wddf y groth i weld os oes unrhyw gelloedd annormal cyn iddynt droi&#8217;n ganser. Mae datgeliad a thriniaeth gynnar o annormaledd serfigol yn gallu atal tri chwarter o ganserau serfigol. Nid yw&#8217;r brechiad HPV yn amddiffyn yn erbyn pob teip o&#8217;r firws HPV, felly mae cael prawf sgrinio serfigol yn hanfodol i ganfod newidiadau celloedd yng ngheg y groth a allai fod yn ganseraidd yn fuan.<\/p>\n<h3>Pwy sydd yn penderfynu os wyf yn cael y brechiad?<\/h3>\n<p>Dy benderfyniad di yw hwn. Er bod rhaid i riant\/gofalwr arwyddo ffurflen caniat\u00e2d o flaen llaw, ti sydd a&#8217;r gair olaf. Os nad ydyn nhw&#8217;n cytuno, ond rwyt ti eisiau&#8217;r bigiad, yna dy benderfyniad di sydd yn cyfrif. Os hoffet ti wybodaeth bellach cyn gwneud penderfyniad gallet ti siarad ag oedolyn ti&#8217;n ymddiried ynddynt, darllen taflen <a href=\"http:\/\/www.nhsdirect.wales.nhs.uk\/pdfs\/WGEich.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Eich Canllaw i&#8217;r Brechiad HPV<\/a> neu siarad gyda&#8217;r doctor neu&#8217;r nyrs. Mae&#8217;n bwysig gwneud y penderfyniad cywir i ti.<\/p>\n<h3>Galwa Meic<\/h3>\n<p class=\"p1\">Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.<\/p>\n<p>Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u00a0 Imiwneiddio! Pigiad! Dydy brechiadau sydd yn amddiffyn ti rhag salwch ddim yn dod i ben pan wyt ti&#8217;n fabi. Mae brechiadau yn bwysig iawn i bobl ifanc ac oedolion hefyd, yn dy gadw&#8217;n ddiogel ac yn iach. Mae&#8217;r HPV yn un o&#8217;r rhain. Ydy hwn rhywbeth i wneud \u00e2 chanser? Ydy. Mae&#8217;r brechiad HPV [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3234,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1674,85],"tags":[4288,4405,4151,3965,4406,4407,1886,4325,4341,4408,4402],"class_list":["post-7896","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cadwn-iach","category-keeping-healthy","tag-blwyddyn-8","tag-brechiad","tag-canser","tag-firws","tag-gig","tag-gwasanaeth-iechyd","tag-gwybodaeth","tag-hpv-cy","tag-imiwneiddio-cy","tag-pigiad","tag-smear-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Beth Yn Y Byd Ydy&#039;r Brechiad HPV? - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae&#039;n frechiad sy&#039;n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth Yn Y Byd Ydy&#039;r Brechiad HPV? - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae&#039;n frechiad sy&#039;n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-09-06T08:01:37+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-20T17:50:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1080\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"Beth Yn Y Byd Ydy&#8217;r Brechiad HPV?\",\"datePublished\":\"2018-09-06T08:01:37+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-20T17:50:33+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\"},\"wordCount\":1064,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg\",\"keywords\":[\"blwyddyn 8\",\"brechiad\",\"canser\",\"firws\",\"GIG\",\"Gwasanaeth Iechyd\",\"gwybodaeth\",\"HPV\",\"imiwneiddio\",\"pigiad\",\"smear\"],\"articleSection\":[\"Cadw'n Iach\",\"Keeping Healthy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\",\"name\":\"Beth Yn Y Byd Ydy'r Brechiad HPV? - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg\",\"datePublished\":\"2018-09-06T08:01:37+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-20T17:50:33+00:00\",\"description\":\"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae'n frechiad sy'n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1080},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth Yn Y Byd Ydy&#8217;r Brechiad HPV?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth Yn Y Byd Ydy'r Brechiad HPV? - Meic","description":"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae'n frechiad sy'n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth Yn Y Byd Ydy'r Brechiad HPV? - Meic","og_description":"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae'n frechiad sy'n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2018-09-06T08:01:37+00:00","article_modified_time":"2025-11-20T17:50:33+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1080,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"Beth Yn Y Byd Ydy&#8217;r Brechiad HPV?","datePublished":"2018-09-06T08:01:37+00:00","dateModified":"2025-11-20T17:50:33+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/"},"wordCount":1064,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg","keywords":["blwyddyn 8","brechiad","canser","firws","GIG","Gwasanaeth Iechyd","gwybodaeth","HPV","imiwneiddio","pigiad","smear"],"articleSection":["Cadw'n Iach","Keeping Healthy"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/","name":"Beth Yn Y Byd Ydy'r Brechiad HPV? - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg","datePublished":"2018-09-06T08:01:37+00:00","dateModified":"2025-11-20T17:50:33+00:00","description":"Wyt ti wedi clywed am y brechiad HPV? Mae'n frechiad sy'n cael ei gynnig i bob merch ym Mlwyddyn 8. Eisiau gwybod mwy amdano? Darllena ganllaw Meic.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/injection-830904_1920.jpg","width":1920,"height":1080},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/09\/06\/beth-yn-y-byd-ydyr-brechiad-hpv\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth Yn Y Byd Ydy&#8217;r Brechiad HPV?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7896","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7896"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7896\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7898,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7896\/revisions\/7898"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3234"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7896"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7896"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7896"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}