{"id":7841,"date":"2018-11-16T10:21:06","date_gmt":"2018-11-16T10:21:06","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2018\/11\/16\/10-cyberbullying-facts-and-tips\/"},"modified":"2025-11-20T16:46:16","modified_gmt":"2025-11-20T16:46:16","slug":"10-ffaith-cymorth-seiberfwlio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/","title":{"rendered":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio"},"content":{"rendered":"<h3>Mae seiberfwlio yn rhywbeth sydd yn cael effaith ar lawer o bobl o bob oedran. Gall fod yn llawer anoddach i ddianc ohono o gymharu \u00e2 bwlio traddodiadol wrth iddo darfu ar dy fywyd adref ar y sgrin fach. Nid oes posib camu i mewn i\u2019r t\u0177 a chau\u2019r drws arno. Am ffeithiau, awgrymiadau a chymorth seiberfwlio edrycha isod. Gall fod yn fuddiol i ti neu rywun ti\u2019n adnabod.<\/h3>\n<h3>1. Gall ddigwydd yn unrhyw le<\/h3>\n<p>Mae seiberfwlio yn fath o fwlio sydd yn digwydd ar-lein neu drwy ff\u00f4n symudol. Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol neu wasanaethau negeseuo fel Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, WhatsApp ayb. yn lleoliadau perffaith i seiberfwl\u00efod. Gall ddigwydd hefyd ar gemau ar-lein, negeseuo sydyn neu e-bost.<\/p>\n<h3>2. Gall ddigwydd i unrhyw un<\/h3>\n<p>Yn \u00f4l adroddiad NSPCC Childline yn 2016 bu cynyddiad o 88% yn y nifer o blant a phobl ifanc yn chwilio am help gyda seiberfwlio dros gyfnod o 5 mlynedd (<a href=\"https:\/\/learning.nspcc.org.uk\/media\/1204\/what-children-are-telling-us-about-bullying-childline-bullying-report-2015-16.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\"><em>What children are telling us about bullying &#8211; adroddiad bwlio Childline 2016<\/em><\/a>).<\/p>\n<p>Gall ddigwydd am unrhyw reswm, o ffans yn ymosod ar bobl sydd ddim yn hoffi&#8217;r un canwr neu fand \u00e2 nhw, i bobl yn gadael sylwadau ar lun bicini mewn ffordd negyddol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bullying-679274_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2032\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/bullying-679274_1920-1024x577.jpg\" alt=\"\" width=\"447\" height=\"252\" \/><\/a><\/p>\n<h3>3. Mae\u2019n dod mewn sawl ffurf<\/h3>\n<p>Mae rhai o&#8217;r problemau cyffredin sydd yn wynebu dioddefwyr ar-lein yn cynnwys pobl yn clebran neu&#8217;n dweud straeon, dwyn manylion personol neu &#8216;Catfishing&#8217;, bygythiadau neu flacmel a fideos a delweddau yn cael eu postio heb ganiat\u00e2d.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r bobl ifanc holwyd ar gyfer yr <a href=\"https:\/\/learning.nspcc.org.uk\/media\/1204\/what-children-are-telling-us-about-bullying-childline-bullying-report-2015-16.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">adroddiad Childline<\/a> wedi disgrifio: &#8220;negeseuon maleisus a niweidiol yn cael ei bostio amdanynt ar eu proffiliau, blogiau, lluniau neu negeseuon ar-lein&#8230; o fwlio a sylw sarhaus&#8230; i ddweud wrth rywun yn ddi-oed i fynd i ladd eu hunain&#8221;.<\/p>\n<p>Mae\u2019n digwydd ar ffonau symudol hefyd, nid yw\u2019n achos syml o allgofnodi er bod llawer o bobl yn meddwl mai dyma\u2019r ateb. Gallwch barhau i dderbyn negeseuon testun, neu alwadau dienw, negeseuon llais ymosodol a manylion personol yn cael ei ddwyn. Mae hyn i gyd yn gyffredin ac, yn fwy nag hynny, yn anghyfreithlon. Gall cyswllt di-baid gyfri fel aflonyddu o dan y <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/ukpga\/1997\/40\/contents\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Ddeddf Aflonyddu 1997.<\/a><\/p>\n<h3>4. Nid i ddieithrion yn unig<\/h3>\n<p>Mae seiberfwlio yn fath o drais, rheolaeth a ph\u0175er mae un person yn ei roi ar rywun arall. Yn aml, mae hyn yn gallu troi&#8217;n drais domestig. Mae <a href=\"https:\/\/www.womensaid.org.uk\/information-support\/what-is-domestic-abuse\/onlinesafety\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Arolwg Diogelwch Ar-lein 2015 Women&#8217;s Aid<\/a> o ddioddefwyr camdriniaeth yn y cartref yn dangos bod 85% o&#8217;r rhai gofynnwyd wedi derbyn camdriniaeth ar-lein gan bartner neu gynbartner. Roedd hanner yn dweud bod y gamdriniaeth yma wedi cynnwys bygythiadau uniongyrchol tuag atynt neu tuag at rywun agos atynt.<\/p>\n<p>Mae newidiadau mewn diwylliant yn arwain at nifer mwy o berthnasau ar-lein a phell. Dyw\u2019r ffaith bod hyn yn digwydd drwy sgrin ddim yn golygu nad yw\u2019n gamdriniaeth \u2013 os wyt ti&#8217;n teimlo\u2019n anghyffyrddus neu\u2019n cynhyrfu am rywbeth mae dy bartner yn ei ddweud, siarada \u00e2 rhywun.<\/p>\n<h3>5. Gallet ti fod yn ddioddefwr ac yn gyflawnwr<\/h3>\n<p>Efallai bod sylw amdanat ar-lein wedi codi cynnwrf, neu dy fod di&#8217;n cael dy harasio ar y Rhyngrwyd, ond wyt ti wedi stopio i feddwl os wyt ti&#8217;n euog hefyd?<\/p>\n<p>Efallai nad wyt ti&#8217;n ystyried dy hun yn seiberfwli ond mae gadael sylwad maleisus yma neu acw yn gallu gwneud mwy o ddifrod nag yr wyt ti&#8217;n ei feddwl. Mewn perygl o swnio fel dy fam, mae\u2019r frawddeg. \u201c<em>Trin eraill fel yr hoffet gael dy drin<\/em>\u201d yn wir yma, pa un ai wyt ti ar-lein neu oddi ar lein!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/helmet-978558_1920.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2039\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/helmet-978558_1920-1024x683.jpg\" alt=\"\" width=\"447\" height=\"298\" \/><\/a><\/p>\n<h3>6. Sut i amddiffyn dy hun<\/h3>\n<p>Cadwa holl wybodaeth breifat i dy hun bob tro. Paid \u00e2 phostio lluniau sydd yn gallu datgelu ble rwyt ti&#8217;n byw, dy gyfeiriad neu fanylion banc. Efallai bod hyn yn amlwg ond byddet ti\u2019n synnu ar faint o bobl sydd yn postio lluniau o docynnau cyngerdd neu gadarnhad archeb gyda rhif banc\/cyfeiriad arno.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cyberaware.gov.uk\/passwords?gclid=EAIaIQobChMImu6t2uSw3gIVSaWaCh3JcAlFEAAYASAAEgL8nPD_BwE\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Dewisa gyfrinair diogel iawn<\/a> a\u2019i ysgrifennu yn rhywle diogel iawn. Dewisa gymysgedd o rifau a llythrennau a phaid anghofio defnyddio priflythyren yn rhywle. Cofia &#8211; paid datgelu dy gyfrinair i neb.<\/p>\n<p>Gosod dy holl gyfrifon i breifat. Ti sydd yn rheoli pwy sydd yn gweld beth a pwy sy&#8217;n cael gadael sylwadau. Mae gan nifer o apiau <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Location-based_service\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">wasanaethau lleoliad<\/a> neu <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Geotagging\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">geotagging.<\/a>\u00a0Os yw\u2019r rhain ymlaen yna bydd pobl yn ymwybodol o dy leoliad pan fyddi di&#8217;n postio. Efallai mai&#8217;r syniad gorau fydda diffodd pob un.<\/p>\n<h3>7. Beth i wneud os wyt ti\u2019n cael dy hacio<\/h3>\n<p>Os wyt ti&#8217;n meddwl bod dy gyfrif wedi\u2019i hacio, newidia&#8217;r cyfrinair yn syth. Os nad wyt ti&#8217;n gallu mewngofnodi, mae gan y mwyafrif o weithredwyr cyfryngau cymdeithasol declyn ailosod cyfrinair (chwilia am y wefan cefnogaeth berthnasol neu\u2019r botwm \u2018help\u2019). Byddi di&#8217;n derbyn cyfrinair newydd drwy e-bost neu ff\u00f4n symudol. Sicrha dy fod di&#8217;n cadw dy fanylion cyswllt yn gyfoes fel y gallant yrru cyfrinair newydd i ti.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/forbidden-151988_1280.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2037\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/forbidden-151988_1280-1024x1018.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"298\" \/><\/a><\/p>\n<h3>8. Sut i&#8217;w stopio<\/h3>\n<p>Rheol rhif un: <span style=\"color: #ff0000;\">ANWYBYDDA&#8217;R TROLIAID!<\/span><\/p>\n<p>Cymera sgrinlun a chadw cofnod o unrhyw gamdriniaeth rwyt ti&#8217;n ei dderbyn &#8211; paid dileu&#8217;r dystiolaeth.<\/p>\n<p>Paid ymateb i unrhyw sylwadau ymosodol. Gall hyn fod yn anodd ond dyma&#8217;r peth gorau yn y pendraw. Mae troliaid (pobl sydd yn dweud pethau negyddol ar-lein am hwyl) wrth eu boddau gyda&#8217;r sylw \u2013 paid rhoi dim ac mae&#8217;n debyg y byddant yn diflannu.<\/p>\n<h3 class=\"p1\">9. Sut i\u2019w adrodd<\/h3>\n<p class=\"p1\">Mae\u2019r mwyafrif o wefannau rhwydweithio cymdeithasol yn gwahardd ymddygiad ymosodol, gan gynnwys bwlio, harasio, dynwared a dwyn manylion personol. Os wyt ti angen gwneud cwyn, edrycha i weld os yw&#8217;r telerau ac amodau wedi&#8217;u torri. Cymera sgrinlun o&#8217;r sylwadau neu&#8217;r llun fel tystiolaeth a chysylltu \u00e2 gweithredwyr y wefan. Gall adrodd bwlio ar Facebook a Twitter yn hawdd wrth glicio ar y tri smotyn neu&#8217;r saeth ar y top ochr dde a rhoi adborth\/adrodd y neges. Edrycha ar y cyngor canlynol gan bob un o&#8217;r apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd:<\/p>\n<ul>\n<li class=\"p1\"><strong>Facebook<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/safety\/bullying\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Canolfan Atal Bwlio<\/a><\/li>\n<li class=\"p1\"><strong>Twitter<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/help.twitter.com\/en\/safety-and-security#abuse\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Tudalennau cymorth camdriniaeth<\/a><\/li>\n<li class=\"p1\"><strong>Snapchat<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/support.snapchat.com\/en-US\/a\/report-abuse-in-app\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Adrodd camdriniaeth ar Snapchat<\/a><\/li>\n<li class=\"p1\"><strong>WhatsApp<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/faq.whatsapp.com\/21197244\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Aros yn Ddiogel ar WhatsApp<\/a><\/li>\n<li class=\"p1\"><strong>Instagram<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/help.instagram.com\/547601325292351\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Adrodd harasio neu fwlio ar Instagram<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Os wyt ti&#8217;n derbyn negeseuon testun ac\/neu alwadau gofidus neu anaddas, adrodda&#8217;r bwlio i\u2019r darparwr rhwydwaith symudol. Mae posib newid dy rif yn hawdd os wyt ti&#8217;n cael dy fwlio&#8217;n barhaol ar dy ff\u00f4n neu mae posib blocio rhifau anghyfarwydd &#8211; mae posib i ti flocio rhifau dy hun ar dy ff\u00f4n hefyd.<\/p>\n<h3 class=\"p1\">10. Mae cymorth ar gael<\/h3>\n<p class=\"p1\">Dweud wrth rywun ti&#8217;n gallu ymddiried ynddyn nhw, fel y gallan nhw helpu ti i ddeall yr hyn sy&#8217;n digwydd. Gyda&#8217;ch gilydd bydd posib penderfynu ar y ffordd orau i ymateb i hyn &#8211; paid dioddef ar ben dy hun!<\/p>\n<p class=\"p1\">Os wyt ti&#8217;n derbyn bygythiadau difrifol neu barhaus yna dylet ti alw&#8217;r heddlu yn syth ar 999. Os nad allant gynnig yr help cywir i ti, gallant dy roi mewn cysylltiad \u00e2\u2019r bobl gywir.<\/p>\n<p class=\"p1\">Galwa Meic. Rydym yma pan fyddi di angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae seiberfwlio yn rhywbeth sydd yn cael effaith ar lawer o bobl o bob oedran. Gall fod yn llawer anoddach i ddianc ohono o gymharu \u00e2 bwlio traddodiadol wrth iddo darfu ar dy fywyd adref ar y sgrin fach. Nid oes posib camu i mewn i\u2019r t\u0177 a chau\u2019r drws arno. Am ffeithiau, awgrymiadau a [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3282,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[55,1646,1659,117,1647,24],"tags":[2902,2906,1698,3158,4356,4321],"class_list":["post-7841","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bullying-harassment","category-bwlio-a-harasio","category-diogelwch-ar-lein","category-discrimination","category-gwahaniaethu","category-online-safety","tag-bwli","tag-bwlio","tag-cyngor","tag-diogelwch-ar-lein","tag-seiberfwli","tag-seiberfwlio"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Os wyt ti&#039;n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os wyt ti&#039;n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2018-11-16T10:21:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-20T16:46:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1920\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1578\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio\",\"datePublished\":\"2018-11-16T10:21:06+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-20T16:46:16+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\"},\"wordCount\":1221,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg\",\"keywords\":[\"bwli\",\"bwlio\",\"cyngor\",\"diogelwch ar-lein\",\"seiberfwli\",\"seiberfwlio\"],\"articleSection\":[\"Bullying &amp; Harassment\",\"Bwlio a Harasio\",\"Diogelwch Ar-lein\",\"Discrimination\",\"Gwahaniaethu\",\"Online Safety\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\",\"name\":\"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg\",\"datePublished\":\"2018-11-16T10:21:06+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-20T16:46:16+00:00\",\"description\":\"Os wyt ti'n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg\",\"width\":1920,\"height\":1578},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic","description":"Os wyt ti'n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic","og_description":"Os wyt ti'n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2018-11-16T10:21:06+00:00","article_modified_time":"2025-11-20T16:46:16+00:00","og_image":[{"width":1920,"height":1578,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio","datePublished":"2018-11-16T10:21:06+00:00","dateModified":"2025-11-20T16:46:16+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/"},"wordCount":1221,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg","keywords":["bwli","bwlio","cyngor","diogelwch ar-lein","seiberfwli","seiberfwlio"],"articleSection":["Bullying &amp; Harassment","Bwlio a Harasio","Diogelwch Ar-lein","Discrimination","Gwahaniaethu","Online Safety"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/","name":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg","datePublished":"2018-11-16T10:21:06+00:00","dateModified":"2025-11-20T16:46:16+00:00","description":"Os wyt ti'n poeni am rywbeth sydd yn digwydd ar-lein (cyfryngau cymdeithasol, gemau, blogiau ayb) yna gwranda ar ein cyngor ar sut i ymdopi gyda seiberfwlio","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/people-3345721_1920.jpg","width":1920,"height":1578},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2018\/11\/16\/10-ffaith-cymorth-seiberfwlio\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"10 Ffaith a Chymorth Seiberfwlio"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7841","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7841"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7841\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7843,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7841\/revisions\/7843"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3282"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7841"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7841"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7841"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}