{"id":7738,"date":"2020-02-11T13:52:05","date_gmt":"2020-02-11T13:52:05","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2020\/02\/11\/self-defence-online-top-tips\/"},"modified":"2025-11-19T12:40:51","modified_gmt":"2025-11-19T12:40:51","slug":"cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/","title":{"rendered":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019r byd ar-lein yn gallu bod yn llawn pethau positif a negyddol. Ond pwy sydd eisiau\u2019r negyddol? NEB!<\/h2>\n\n\n\n<p>Wrth ddilyn y cyngor cyflym yn y blog gwadd yma, gallet ti amddiffyn dy hun rhag perygl yn y gobaith y cei di brofiad llawer hapusach wrth ddefnyddio\u2019r Rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.<br><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Edrycha ar dy breifatrwydd<\/h3>\n\n\n\n<p>Dim ond 15 munud sydd ei angen i fynd drwy dy osodiadau cyfryngau cymdeithasol a gwirio dy breifatrwydd. Mi fetia\u2019i bod rhai o\u2019r bobl sydd yn darllen hwn yn meddwl \u201cdoes gen i ddim amynedd\u201d neu \u201cdoes \u2018na ddim pwynt\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>OND MAE YNA BWYNT!<\/p>\n\n\n\n<p>Wyt ti wedi meddwl pa mor hawdd yw hi i bobl ddiarth weld dy broffil? Beth am y dilynwyr sydd gen ti, y rhai dwyt ti ddim yn adnabod? Y cais ffrind rwyt ti wedi anwybyddu?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae posib edrych pwy sydd yn gallu gweld beth \u2013 o\u2019r pethau ti\u2019n postio, manylion personol, sylwadau a\u2019r pethau ti wedi hoffi \u2013 wrth fynd i\u2019r gosodiadau yn dy apiau. Y peth mwyaf diogel ydy gosod popeth i \u2018ffrindiau yn unig\u2019, fel dy fod di\u2019n gwybod pwy sydd yn gallu gweld dy gynnwys, a bydd yn osgoi beirniadaeth y rhai negyddol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gosodiadau &gt; Preifatrwydd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma esiamplau ar gyfer\u00a0<a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/meic.cymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Facebook<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/twitter.com\/meiccymru\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Twitter<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/meiccymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Instagram<\/a>\u00a0a Snapchat:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-4 wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"2816\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Caitlin-blog2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2816\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"2819\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Caitlyn-blog2-6.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2819\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"2818\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Caitlyn-blog2-4.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2818\"\/><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" data-id=\"2817\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Caitlyn-blog2-2-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2817\"\/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diffodd gosodiadau lleoliad<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae rhagosodiadau yn golygu bod dy leoliad yn cael ei ddangos yn awtomatig mewn apiau fel Snapchat, Instagram, Twitter neu Facebook. Ond nid oes angen i ti gadw dy \u2018leoliad\u2019 ymlaen drwy\u2019r adeg.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw dy leoliad yn agored i unrhyw un weld pan fyddi di\u2019n postio unryw beth, yna rwyt ti\u2019n gadael dy hun yn agored ac yn fregus.<\/p>\n\n\n\n<p>Fy nghyngor i yw, os wyt ti eisiau postio rhywbeth am y lleoliad rwyt ti ynddi, disgwyl nes i ti adael ac yna tagio\u2019r lleoliad. Mae posib gwneud hyn wrth chwilio am y lleoliad wedyn, yn hytrach nag hynny\u2019n digwydd yn awtomatig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae diffodd y gosodiadau lleoliad ar gyfer apiau yn hawdd iawn, dyma sut i wneud ar dy osodiadau ff\u00f4n iPhone neu Android:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-style-rounded\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/My-Post-1-1024x536.png\" alt=\"Settings for Self defence online top tips article\" class=\"wp-image-2833\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Paid gadael i dy ffrind fod yn fwli<\/h3>\n\n\n\n<p>Byddet ti\u2019n meddwl bod hyn yn eithaf amlwg, ond mae llawer ohonom wedi bod mewn sefyllfa (neu wedi clywed am un) pan fydd sylwad drwg wedi\u2019i wneud ar lun neu neges gas wedi cael ei yrru i rywun.<\/p>\n\n\n\n<p>Paid bod y person sydd yn eistedd yn \u00f4l ac yn caniat\u00e1u i hyn ddigwydd. Ceisia roi cyngor i dy ffrind a dweud nad yw hyn yn ddoniol, yn c\u0175l, a bydd yn achosi niwed i\u2019r person sydd yn cael ei dargedu.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai dy fod di wedi bod ar yr ochr arall, yn derbyn sylwadau negyddol gan rywun arall. Os wyt ti\u2019n deall y poen roeddet ti\u2019n ei deimlo, yna pam fydda ti\u2019n annog rhywun arall i wneud yr un peth? Bydda\u2019n ddylanwad positif. Paid caniat\u00e1u i dy ffrind fod yn fwli, ac os nad ydynt yn derbyn dy gyngor, ystyried symud ymlaen a thynnu dy hun allan o\u2019r sefyllfa.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Stopio dilyn a dileu<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rhyngrwyd yn llawn cynnwys, rhai da, rhai drwg. Mae rhai ohono yn ein gwneud yn hapus, rhai ohono ddim. Mae yna cymaint o ddewis, a chymaint o bethau sydd yn gallu gwneud i ti deimlo\u2019n bositif, felly pam fydda ti\u2019n dewis dilyn rhywbeth sydd ddim yn gwneud i ti deimlo fel yna?<\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd gen ti ychydig o amser rhydd, cymera 10 munud i stopio dilyn a dileu UNRHYW BETH sydd ddim yn gwneud ti\u2019n hapus.<\/p>\n\n\n\n<p>Tyrd yn \u00f4l mewn ychydig wythnosau i weld os yw wedi cael effaith bositif ar dy deimladau. Dwi wedi gwneud hyn fy hun, ac yn teimlo\u2019n llawer mwy clir yn fy meddwl, ac yn hapusach yn bendant.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/hand-1299163_1280-244x300.png\" alt=\"Stop hand for Self defence online top tips article\" class=\"wp-image-2831\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Blocio a chwyno<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti wedi dioddef o gasineb neu fwlio ar-lein o\u2019r blaen, neu wedi gweld rhywbeth rwyt ti\u2019n anghytuno ag ef neu sydd yn gwneud i ti deimlo\u2019n annifyr, yna defnyddia\u2019r botwm blocio\/cwyno.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai dy fod di\u2019n derbyn negeseuon gan rywun diarth neu\u2019n cael dy sbamio gan rywun? BLOCIA\/CWYNA amdanynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Paid oedi defnyddio\u2019r teclyn yma, mae\u2019n well gwneud hyn yn sydyn, er mwyn osgoi aflonyddu neu boeni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">D\u00eetocs cyfryngau cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn fwy aml nag ddim, rwy\u2019n clywed sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Yn \u00f4l&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.codecomputerlove.com\/blog\/screen-time-stats\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">darganfyddiadau arolwg Code Computerlove<\/a>, mae rhai 16-24 oed yn y DU yn treulio 3 awr a 23 munud y dydd ar y sgrin ar gyfartaledd \u2013 50 diwrnod bob blwyddyn! Mae hynny\u2019n wallgof! Felly pl\u00ees, ceisia gael d\u00eetocs weithiau. Bod hynny\u2019n gwahardd dy hun ar \u00f4l amser penodol bob dydd, neu\u2019n wythnos gyfan heb gyfryngau cymdeithasol (os wyt ti\u2019n hoff o sialens \u2013 beth am fis?).<\/p>\n\n\n\n<p>Ceisia beidio claddu dy ben mor ddwfn i\u2019r ff\u00f4n fel dy fod di\u2019n colli allan ar y prydferthwch o dy gwmpas. Mae\u2019r cysylltiad cyson gyda\u2019r byd ar-lein yn aml yn datgysylltu rhywun o\u2019r byd go iawn. Mae d\u00eetocs yn hanfodol gan ei fod yn caniat\u00e1u i ti ailgysylltu.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n amhosib amddiffyn dy hun o beryglon ar-lein yn gyfan gwbl, a dyna pam bod defnyddio\u2019r cyngor yma fel canllaw i amddiffyn dy hun yn bwysig.<\/p>\n\n\n\n<p>Pam fydda rywun yn gadael i rywbeth gallant ei reoli achosi niwed iddynt? Efallai bydd y cyngor sydyn a hawdd yma yn gallu arbed llawer o drafferth i ti yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai pawb fod yn cael profiadau da ar-lein, yn ogystal \u00e2 bywyd go iawn, felly beth am geisio\u2019n gorau i wneud hynny?<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-text-align-left\">Beth am ddod at ein gilydd i greu Rhyngrwyd gwell?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n poeni am unrhyw beth, bod hynny\u2019n rhywbeth ar-lein neu unrhyw beth arall mewn bywyd, gallet ti\u00a0siarad \u00e2 chynghorwyr Meic\u00a0sydd yma i helpu rhwng 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r byd ar-lein yn gallu bod yn llawn pethau positif a negyddol. Ond pwy sydd eisiau\u2019r negyddol? NEB! Wrth ddilyn y cyngor cyflym yn y blog gwadd yma, gallet ti amddiffyn dy hun rhag perygl yn y gobaith y cei di brofiad llawer hapusach wrth ddefnyddio\u2019r Rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol. Edrycha ar dy breifatrwydd Dim [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":7745,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1659],"tags":[4298,3158,4299,4300],"class_list":["post-7738","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-ar-lein","tag-amddiffyniad-ar-lein","tag-diogelwch-ar-lein","tag-gosodiadau-preifatrwydd","tag-hunan-amddiffyniad-ar-lein"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-02-11T13:52:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-19T12:40:51+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1024\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein\",\"datePublished\":\"2020-02-11T13:52:05+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-19T12:40:51+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\"},\"wordCount\":998,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg\",\"keywords\":[\"amddiffyniad ar-lein\",\"diogelwch ar-lein\",\"gosodiadau preifatrwydd\",\"hunan amddiffyniad ar-lein\"],\"articleSection\":[\"Diogelwch Ar-lein\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\",\"name\":\"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg\",\"datePublished\":\"2020-02-11T13:52:05+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-19T12:40:51+00:00\",\"description\":\"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg\",\"width\":1024,\"height\":1024,\"caption\":\"Cart\u0175n person mewn hwdi o flaen cyfrifiadur gyda phenglog ar gefn y hwdi a'r geiriau \\\"Amddiffyn dy hun ar-lein\\\"\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic","description":"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic","og_description":"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2020-02-11T13:52:05+00:00","article_modified_time":"2025-11-19T12:40:51+00:00","og_image":[{"width":1024,"height":1024,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein","datePublished":"2020-02-11T13:52:05+00:00","dateModified":"2025-11-19T12:40:51+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/"},"wordCount":998,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg","keywords":["amddiffyniad ar-lein","diogelwch ar-lein","gosodiadau preifatrwydd","hunan amddiffyniad ar-lein"],"articleSection":["Diogelwch Ar-lein"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/","name":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg","datePublished":"2020-02-11T13:52:05+00:00","dateModified":"2025-11-19T12:40:51+00:00","description":"Gall y byd ar-lein fod yn lle positif a negyddol. Cyngor cyflym gan flogiwr gwadd i amddiffyn dy hun ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/21_02_08-Monday-__-PIC-FB-Insta-Twitter-CYM-1-1024x1024-1.jpg","width":1024,"height":1024,"caption":"Cart\u0175n person mewn hwdi o flaen cyfrifiadur gyda phenglog ar gefn y hwdi a'r geiriau \"Amddiffyn dy hun ar-lein\""},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/02\/11\/cyngor-cyflym-hunan-amddiffyniad-ar-lein\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7738","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7738"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7738\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7750,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7738\/revisions\/7750"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7745"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7738"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7738"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7738"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}