{"id":7616,"date":"2021-11-12T10:02:00","date_gmt":"2021-11-12T10:02:00","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2021\/11\/12\/6-steps-to-take-when-being-bullied\/"},"modified":"2025-11-17T16:10:14","modified_gmt":"2025-11-17T16:10:14","slug":"6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/","title":{"rendered":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bwlio ydy pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth drosodd a throsodd sydd yn achosi niwed i rywun arall yn emosiynol neu\u2019n gorfforol. Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae gan yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol ddyletswydd gyfreithiol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 1 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7619\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-1.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Siarad \u00e2 rhywun<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae bwlio yn gallu gwneud i rywun deimlo\u2019n ddrwg iawn, ac mae\u2019n debyg bod angen cymorth arnat ti. Meddylia am rywun gallet ti ymddiried ynddynt a siarada gyda nhw am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Efallai gallet ti siarad gyda rhiant, athro neu ffrind gorau. Paid poeni bod dweud wrth rywun yn gwneud ti\u2019n \u2018snitch\u2019, mae gen ti hawl i beidio cael dy fwlio, ac os yw\u2019n digwydd yna fe ddylet ti geisio gwneud rhywbeth am y peth.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt, yna gallet ti ofyn iddynt gadw\u2019r peth yn ddienw. Mae ffyrdd y gallan nhw daclo bwlio heb dynnu sylw at dy sefyllfa di, fel gwasanaeth bwlio i\u2019r ysgol gyfan yn hytrach nag targedu\u2019r bwl\u00efod yn uniongyrchol. Os wyt ti\u2019n siarad \u00e2 rhywun yna gallet ti gael cefnogaeth emosiynol a gallech chi drafod pa gamau i\u2019w cymryd. Bydd yn helpu ti i daflu goleuni ar bethau, ac efallai bydd rhywun arall yn gweld peryglon sydd ddim yn amlwg i ti. Efallai gallant awgrymu ffyrdd i ymdopi. Mae rhannu\u2019r baich yn gallu tynnu\u2019r pwysau oddi arnat ti.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 2 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7629\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-2.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Cyfathrebu gyda\u2019r bwl\u00efod<\/h3>\n\n\n\n<p>Pobl normal yw\u2019r bwl\u00efod hefyd. Os wyt ti\u2019n teimlo\u2019n ddigon hyderus, ac os yw\u2019n ddiogel, yna beth am geisio siarad gyda\u2019r bwl\u00efod? Efallai nad ydynt yn sylweddoli\u2019r effaith mae eu geiriau neu weithred yn ei gael arnat ti. Gofyn iddynt ddychmygu sut bydda\u2019n nhw\u2019n teimlo yn dy sefyllfa di. Os ydynt yn fodlon, efallai gallech chi ddod i gytundeb iddynt stopio. Os wyt ti\u2019n cael dy fwlio gan fwy nag un person, yna ceisia gael sgwrs gyda phob un yn ei dro. Gall hyn roi mwy o gyfle i ti i gael dweud popeth heb ofni gorfod dweud o flaen gr\u0175p mawr. Os yw\u2019r bwlio yn gorfforol, ac nad yw\u2019n bosib trafod pethau heb berygl o niwed, yna byddai\u2019n well osgoi\u2019r cam yma. Paid rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus!!<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019r bwl\u00efod yn ymosod arnat ti yna mae hyn yn erbyn y gyfraith ac mae posib adrodd hyn i\u2019r heddlu ar 101.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 3 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7627\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-3.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Edrych ar \u00f4l dy hun<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna bethau gallet ti wneud bydd yn helpu ti i ymdopi.<\/p>\n\n\n\n<p>Cadw trac o\u2019r bwlio. Os wyt ti\u2019n penderfynu dy fod di am adrodd y bwlio wedyn, yna bydd yn helpu ti i nodi lawr popeth sydd wedi digwydd, fel pwy oedd yn cymryd rhan, dyddiadau ayb. Bydd hyn yn helpu i greu darlun a chasglu tystiolaeth. Gallet ti ffilmio\u2019r bwlio ar dy ff\u00f4n hefyd os yw\u2019n ddiogel i ti wneud hynny. Efallai bydd hyn yn atal y bwl\u00efod rhag gwneud dim gan y gallet ti ddefnyddio hwn fel tystiolaeth.&nbsp; Efallai bydd bwl\u00efod yn meddwl ddwywaith rhag iddynt gael eu gweld yn greulon neu\u2019n fygythiol. Os wyt ti\u2019n ffilmio rhywbeth yna paid rhannu hyn ar gyfryngau cymdeithasol, cadwa ef fel tystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae bwlio yn gallu cael effaith corfforol ac emosiynol ar rywun felly mae\u2019n bwysig iawn i edrych ar \u00f4l dy hun yn feddyliol. Os wyt ti\u2019n teimlo\u2019n isel neu\u2019n bryderus yna gofynna am help. Gallet ti siarad gydag un o&#8217;r cynghorwyr ar linell gymorth Meic (manylion cyswllt isod) neu mae Llywodraeth Cymru wedi creu <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/06\/17\/pecyn-cymorth-iechyd-meddwl-yn-arbennig-i-ti\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl<\/a> ar Hwb gyda llawer o gysylltiadau am help a chyngor.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 4 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7625\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-4.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Gwneud apwyntiad i siarad \u00e2\u2019r ysgol<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad yw pethau\u2019n gwella, yna efallai ei fod yn hen bryd gwneud rhywbeth yn swyddogol. Siarada gydag oedolyn rwyt ti\u2019n gallu ymddiried ynddynt. Gofyn iddynt drefnu apwyntiad gydag athro neu bennaeth blwyddyn i weld sut gallan nhw dy gefnogi. Mae\u2019n rhaid i bob ysgol gael polisi gwrth fwlio. Efallai ei fod ar wefan yr ysgol neu gofynna amdano gan fod gen ti hawl i gael mynediad iddo. Bydd y polisi yn nodi\u2019r camau dylai\u2019r ysgol ei gymryd i gefnogi rhywun sydd yn cael ei fwlio a rhoi diwedd arno. Yn y cyfnod yma, dylai\u2019r ysgol osod camau i helpu. Mae\u2019n bwysig siarad gydag oedolyn cefnogol am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd pob dydd. Bydd hyn yn helpu ti, ac yn rhoi cyfle i gofnodi\u2019r holl ddigwyddiadau o fwlio i gefnogi dy achos yn yr ysgol ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 5 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7623\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-5.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Dilyn i fyny<\/h3>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019r bwlio\u2019n parhau, ac os nad yw\u2019r ysgol yn gwneud digon i atal hyn, neu fod y camau sydd wedi\u2019u cymryd ddim yn gweithio, dylai dy rieni\/gwarchodwyr fynd yn \u00f4l i\u2019r ysgol am gyfarfod arall. Gallant ystyried camau pellach i ddatrys y broblem. Yn y cyfnod yma, efallai byddai\u2019n syniad ysgrifennu llythyr i\u2019r ysgol, yn dweud bod y bwlio\u2019n parhau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"300\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6-300x300.jpg\" alt=\"Delwedd cart\u0175n o gynghorydd Meic o flaen cefndir piws gyda Cam 6 wedi ysgrifennu uwchben\" class=\"wp-image-7621\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6-300x300.jpg 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6-150x150.jpg 150w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6-768x768.jpg 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/11\/bwlio-cam-6.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">6. Gwneud cwynion swyddogol<\/h3>\n\n\n\n<p><strong>Yr ysgol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n teimlo nad yw\u2019r ysgol yn gwneud digon efallai bydd dy rieni\/gwarchodwyr eisiau ystyried gwneud cwyn i\u2019r ysgol. Y ffordd orau i wneud hyn ydy ysgrifennu llythyr i\u2019r pennaeth. <a href=\"https:\/\/bulliesout.com\/need-support\/parents\/bullying\/talking-to-the-school\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae gan BulliesOut lythyrau templed gwych i wneud cwyn.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Llywodraethwyr yr Ysgol:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os nad yw pethau\u2019n newid, neu fod pethau\u2019n waeth ers gwneud cwyn i\u2019r pennaeth, ac os wyt ti\u2019n teimlo nad yw\u2019r ysgol wedi gwneud yr hyn y dylent, yna efallai mai dyma\u2019r amser i fynd yn uwch. Gyrra gwyn i\u2019r Bwrdd Llywodraethwyr i weld os yw\u2019n bosib datrys pethau ar y lefel yma. Mae\u2019r ysgol a\u2019r pennaeth yn atebol i\u2019r bwrdd. <a href=\"https:\/\/bulliesout.com\/need-support\/parents\/bullying\/talking-to-the-school\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Edrycha ar dempled llythyr cwyn i fyrddau llywodraethwyr ysgolion ar wefan BulliesOut (Saesneg yn unig).<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr Awdurdod Addysg:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i ti sicrhau bod yr ysgol wedi cael digon o amser i ymateb a gweithredu ar y cwynion. Gall disgwyl fod yn anodd, ond mae\u2019n rhan bwysig o\u2019r broses. Os nad yw\u2019r camau cynt wedi datrys pethau, mae yna opsiynau pellach i\u2019w hystyried. Y cam nesaf i dy rieni\/gwarchodwyr ydy gwneud cwyn i\u2019r Awdurdod Addysg Leol. Mae manylion y swyddfa ar wefan dy gyngor lleol. <a href=\"https:\/\/bulliesout.com\/need-support\/parents\/bullying\/talking-to-the-school\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae yna dempled ar gyfer y llythyr yma ar wefan BulliesOut hefyd (Saesneg yn unig).<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr Ombwdsmon:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Os nad yw\u2019r Awdurdod Addysg yn datrys pethau yna gall dy rieni\/gwarchodwyr fynd at Ombwdsmon Cymru. Gallant edrych ar unrhyw gwynion am y cyngor lleol neu unrhyw wasanaethau cyhoeddus. <a href=\"https:\/\/www.ombwdsmon.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darganfod sut i gwyno ar eu gwefan.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y Llywodraeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae posib siarad yn uniongyrchol i gynrychiolwyr y llywodraeth sydd yn gyfrifol am greu cyfreithiau a pholisi yng Nghymru:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/find-your-local-councillors\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cynghorydd lleol<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/busnes.senedd.cymru\/mgFindMember.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Aelod Seneddol Lleol (AS)<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/senedd.cymru\/pwyllgorau\/y-pwyllgor-plant-pobl-ifanc-ac-addysg\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/seneddieuenctid.senedd.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Aelod Senedd Ieuenctid lleol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Y Comisiynydd Plant<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.complantcymru.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Comisiynydd Plant <\/a>yn eiriolwr annibynnol (yn brwydro am hawliau) i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae\u2019r CCUHP (<a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/hawliau-plant-gwybodaeth-plentyn\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">darganfod mwy yma<\/a>) yn sicrhau bod gan blant a phobl ifanc hawliau ac mae\u2019r Comisiynydd Plant yn sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu cyfarfod yng Nghymru. Mae gen ti hawl i beidio cael dy fwlio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr Heddlu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Weithiau bydd bwlio yn anghyfreithlon ac mae posib adrodd hyn at yr heddlu ar 101. Os wyt ti mewn perygl mawr galwa 999:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Trais<\/li>\n\n\n\n<li>Ymosodiad<\/li>\n\n\n\n<li>Dwyn<\/li>\n\n\n\n<li>Harasio<\/li>\n\n\n\n<li>Bygwth<\/li>\n\n\n\n<li>Troseddau casineb (anabledd, hil, crefydd, tueddfryd rhywiol, neu hunaniaeth drawsrywiol)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"6 Cam i&#039;w Cymryd Os Wyt Ti&#039;n Cael Dy Fwlio\" width=\"500\" height=\"375\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/3o0RBETdfuM?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Blogiau bwlio eraill ar Meic:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/caredig-wythnos-gwrth-fwlio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwneud Rhywbeth Caredig ar Wythnos Gwrth-Fwlio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/hawl-i-beidio-cael-dy-fwlio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Hawl i Beidio Cael Dy Fwlio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dewis-parch\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dewis Parch ar Wythnos Gwrth-Fwlio<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/seiberfwlio-stop-siarad-cefnogi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Seiberfwlio: Stop Siarad Cefnogi<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/tynnu-coes-neu-bwlio\/\">Bwlio neu Dynnu Coes?<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Angen gwybodaeth bellach?<\/h3>\n\n\n\n<p>Gobeithio wir na fydd rhaid i ti ddilyn pob cam yn y rhestr uchod, ond mae\u2019r camau yma yn agored i ti a dy rieni\/gwarchodwyr os oes angen. Os yw unrhyw beth yn yr erthygl yma yn aneglur neu os hoffet siarad ymhellach yna cysyllta \u00e2 Meic.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bwlio ydy pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth drosodd a throsodd sydd yn achosi niwed i rywun arall yn emosiynol neu\u2019n gorfforol. Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae gan yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol ddyletswydd gyfreithiol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio. 1. Siarad \u00e2 rhywun [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3259,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1646],"tags":[4185,2906,4186,1698,1876],"class_list":["post-7616","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bwlio-a-harasio","tag-6-cam","tag-bwlio","tag-cwynion","tag-cyngor","tag-hawliau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-11-12T10:02:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-17T16:10:14+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1043\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"716\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio\",\"datePublished\":\"2021-11-12T10:02:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-17T16:10:14+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\"},\"wordCount\":1401,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png\",\"keywords\":[\"6 cam\",\"bwlio\",\"cwynion\",\"cyngor\",\"hawliau\"],\"articleSection\":[\"Bwlio a Harasio\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\",\"name\":\"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png\",\"datePublished\":\"2021-11-12T10:02:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-17T16:10:14+00:00\",\"description\":\"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png\",\"width\":1043,\"height\":716},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic","description":"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic","og_description":"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2021-11-12T10:02:00+00:00","article_modified_time":"2025-11-17T16:10:14+00:00","og_image":[{"width":1043,"height":716,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png","type":"image\/png"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio","datePublished":"2021-11-12T10:02:00+00:00","dateModified":"2025-11-17T16:10:14+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/"},"wordCount":1401,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png","keywords":["6 cam","bwlio","cwynion","cyngor","hawliau"],"articleSection":["Bwlio a Harasio"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/","name":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png","datePublished":"2021-11-12T10:02:00+00:00","dateModified":"2025-11-17T16:10:14+00:00","description":"Nid yw bwlio byth yn iawn. Mae dyletswydd ar yr ysgol a\u2019r llywodraeth leol i stopio hyn. Dyma 6 cam i\u2019w dilyn os wyt ti\u2019n cael dy fwlio.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/Anti-Bullying-Week-Campaign-Video-ENG.png","width":1043,"height":716},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2021\/11\/12\/6-cam-iw-cymryd-os-wyt-tin-cael-dy-fwlio\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"6 Cam i\u2019w Cymryd Os Wyt Ti\u2019n Cael Dy Fwlio"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7616","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7616"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7616\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7631,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7616\/revisions\/7631"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3259"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7616"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7616"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7616"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}