{"id":7435,"date":"2022-02-01T08:09:00","date_gmt":"2022-02-01T08:09:00","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=7435"},"modified":"2025-11-14T14:30:47","modified_gmt":"2025-11-14T14:30:47","slug":"traws-y-t-yn-lhdtc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/","title":{"rendered":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E?"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dyma gyfweliad gyda Mina, merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid \u2013 sut aeth ati i ddweud wrth bobl, yr anwybodaeth mae\u2019n gorfod wynebu, a\u2019r effaith mae wedi\u2019i gael arni yn feddyliol ac yn emosiynol. Roedd eisiau bod yn agored am ei phrofiadau i helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\">Roedd y cyfweliad yma yn rhan o erthygl hirach cyflwynwyd gan berson ifanc i&nbsp;<a href=\"https:\/\/thesprout.co.uk\/blog\/what-is-it-like-to-be-the-t-in-lgbt\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">TheSprout<\/a>&nbsp;yn wreiddiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><em>Mae\u2019r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic \u2013&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/meic-yn-nodi-mis-hanes-lhdtc\/\">clicia yma i weld mwy<\/a>.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p><em>Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae\u2019r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.<\/em>&nbsp;<em>Os wyt ti\u2019n gweld geiriau sydd yn newydd i ti yn y blog yma, fel anneuaidd, rhyngryw ayb, yna mae gan Stonewall&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.stonewallcymru.org.uk\/cy\/cymorth-chyngor\/geirfa\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Geirfa<\/a>&nbsp;wych sydd yn egluro beth yw pob un gyda\u2019r geiriau Cymraeg a Saesneg wedi\u2019u rhestru.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-mor-bell-i-mewn-i-r-broses-oeddet-ti-cyn-i-ti-ddweud-wrth-bobl-a-sut-dwedaist-ti\">Pa mor bell i mewn i\u2019r broses oeddet ti cyn i ti ddweud wrth bobl, a sut dwedaist ti?<\/h3>\n\n\n\n<p>Tua diwrnod neu ddau yn dilyn&nbsp;<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Transgender_Day_of_Remembrance\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Diwrnod Cofio Trawsrywedd<\/a>&nbsp;ychydig flynyddoedd yn \u00f4l. Roeddwn wedi bod yn darllen sawl comig ar-lein wedi\u2019u hysgrifennu gan amryw artist Traws ac wedi fy amsugno\u2019n llwyr gyda\u2019r cynnwys. Penderfynais arbrofi gyda fy edrychiad a\u2019m dillad yn fuan wedyn. Roeddwn i wedi bod yn cwestiynu fy hunaniaeth yn ifanc iawn beth bynnag, ond wedi cadw\u2019n ddistaw am y peth.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedais i ddim wrth neb i gychwyn, gan feddwl ei fod yn amlwg, ond fe ddois allan fel traws yn gyhoeddus tua blwyddyn neu ddau yn \u00f4l. Post Facebook syml yn dweud rhywbeth tebyg i \u2018Hei, gyda llaw, dwi\u2019n Traws lol\u2019. Mae llawer o\u2019m ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn, ond dwi wedi colli rhai ffrindiau, ac ar hyn o bryd nid yw fy nheulu\u2019n gwybod. Mae\u2019n rhywbeth rwy\u2019n ceisio magu hyder i wneud.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ffrindiau sydd wedi bod yn gefnogol wedi bod yn hollol hyfryd, rhai wedi rhannu eu dillad, wedi rhoi clust i wrando, ac ysgwydd i wylo arni. Ychydig wythnosau yn \u00f4l rhoddodd ffrind fronnau silic\u00f4n i mi roi mewn bra. Rhywbeth meddylgar iawn gan fod llawer o fy mhryder yn ymwneud \u00e2\u2019m mrest.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond roedd rhai \u2018ffrindiau\u2019 nad oedd mor garedig. Mae\u2019r mwyafrif wedi diflannu o fy mywyd heb rybudd. Eraill wedi penderfynu aros am ychydig i wneud hwyl o fy nheimladau ac i geisio gwneud i mi deimlo\u2019n afiach. Roedd rhai hyd yn oed wedi dechrau rhywioli fi, yn gyrru negeseuon rhywiol ac yn fy ystyried fel rhywbeth i wireddu eu ffetis.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/transgender-concept-silhouette-human-desk-1-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-concept-silhouette-human-desk-1-300x283.jpg\" alt=\"Trans concept, silhouette human on desk\" class=\"wp-image-4987\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"wyt-ti-eisiau-dweud-wrth-dy-deulu-neu-rieni\">Wyt ti eisiau dweud wrth dy deulu neu rieni?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae wedi cymryd blynyddoedd maith i rai o\u2019m nheulu deimlo\u2019n gyfforddus gyda\u2019r ffaith fod gen i wallt hir. Felly, mae meddwl am ddweud mod i\u2019n ferch Traws yn teimlo fel breuddwyd pell. Maent wedi dweud eu bod yn hapus os ydw i\u2019n hapus, ond mae ganddynt ragfarnau hefyd, bod nhw\u2019n cyfaddef hynny neu beidio. Roeddwn yn cael j\u00f4c am y peth gyda ffrind ychydig yn \u00f4l, gan ddweud \u201cni fyddaf byth yn dod allan iddynt, dim ond disgwyl iddynt ofyn pam fod gen i fronnau\u201d pan fyddaf yn dechrau triniaeth hormonau o\u2019r diwedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n trio tawelu meddwl mam yn araf bach gan s\u00f4n am bynciau trawsrywedd wrth sgwrsio, i geisio gweld ei hymateb, ond mae\u2019n newid y pwnc bob tro. Ar y llaw arall, gwelodd dad lun ohonof yn gwisgo ffrog ar Facebook unwaith. Ffoniodd yn flin i gyd. Felly, dwi\u2019n meddwl bydd rhaid croesi\u2019r bont yma pan fydd rhai i mi, er hoffwn edrych ar y map gyntaf! Yn ffodus, dwi ddim yn dibynnu ar mam a dad. Dwi\u2019n byw gyda fy ngwraig felly nid allant fy nhaflu o\u2019r t\u0177. Dwi wir yn teimlo dros y rhai sydd ddim \u00e2\u2019r fath ryddid.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ydy-hyn-wedi-newid-dy-berthynas-gyda-dy-wraig\">Ydy hyn wedi newid dy berthynas gyda dy wraig?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dwi heb sylwi ar unrhyw newidiadau yn ein perthynas. Mae\u2019n gariad ac yn gefnogol iawn. Rydym yn rhannu dillad, a cholur, ac fel hen gwpl priod. Dwi\u2019n ffodus iawn ohoni.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy marn i, mae\u2019n haws gan fod fy ngwraig yn cwiar. Nid yw hyn yn golygu na all person heterorywiol fynd allan gyda pherson traws wrth gwrs. Ond gan fod y ddau ohonom yn cwiar, mae\u2019n atal unrhyw ddryswch a theimlo\u2019n annifyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/01\/metamorfosis_110421-1-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/metamorfosis_110421-1-300x300.jpg\" alt=\"Metamorphosis of butterfly to represent transitioning as a trans\" class=\"wp-image-4988\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"sut-a-pryd-oeddet-ti-n-gwybod-dy-fod-di-eisiau-trawsnewid\">Sut a pryd oeddet ti\u2019n gwybod dy fod di eisiau trawsnewid?<\/h3>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r atgofion cynharaf o gwestiynu fy rhywedd oedd pan oeddwn i tua 14. Roedd yn well gen i fod gyda\u2019r genethod yn yr ysgol yn hytrach na\u2019r bechgyn. Dwi\u2019n meddwl mod i\u2019n teimlo\u2019n fwy cyfforddus ac yn gallu perthnasu mwy \u00e2 nhw. Roeddwn yn arfer dwdlo lluniau mewn llyfrau nodiadau o ffrogiau a\u2019r hyn roeddwn i\u2019n meddwl bydda\u2019n edrych yn brydferth.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn fy nyddiau ysgol, roeddwn i\u2019n hoff iawn o\u2019r s\u00een Goth, felly gwallt hir, lledr a cholur fel panda. Ar \u00f4l ysgol roeddwn i\u2019n rhan o\u2019r s\u00een metel trwm ac yn teimlo pwysau i wisgo\u2019n fwy dynol nag yr oeddwn cynt. Gan edrych yn \u00f4l, dwi\u2019n difaru ildio i\u2019r fath bwysau, ac fe ddylwn i wedi gwisgo yn union fel yr oeddwn i eisiau. Dwi\u2019n deall yn well bellach, a dwi\u2019n fwy pendant.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"sut-brofiad-wyt-ti-wedi-cael-gyda-r-doctoriaid\">Sut brofiad wyt ti wedi cael gyda\u2019r doctoriaid?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dim ond un cyfarfod gyda doctor am bethau yn ymwneud a rhywedd dwi wedi\u2019i gael, ac roedd hynny\u2019n ymwneud a gwirio pwysau gwaed a phwysau. Roeddent yn ddigon caredig i beidio datgelu fy mhwysau, lol. Roedd y doctor yn y cyfarfod yma yn reit dda. Er, fel dwi\u2019n ddweud, dim ond un cyfarfod dwi wedi\u2019i gael hyd yn hyn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-effaith-mae-hyn-yn-ei-gael-yn-feddyliol-ac-yn-emosiynol\">Pa effaith mae hyn yn ei gael yn feddyliol ac yn emosiynol?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o gasineb yn y byd tuag at bobl Traws, a gall hyn dy daro yn galed iawn weithiau. Rwyt ti\u2019n clywed y straeon yma am y trais drwg iawn mae merched traws wedi gorfod wynebu a phobl yn ei cholli hi wrth feddwl amdanom yn defnyddio\u2019r t\u0177 bach. Mae\u2019n dechrau dweud ar rywun, ond mae gen i ffrindiau a phobl dwi\u2019n caru i godi fi pan dwi\u2019n isel. Dwi\u2019n trio meddwl yn bositif ac yn edrych ymlaen at yr hyn a ddaw yfory, ond dwi hefyd yn eithaf sinigaidd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/6081995.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/6081995-300x273.jpg\" alt=\"trans superhero - pink and blue cartoon image of woman with bun pigtails fighting off evil hands\" class=\"wp-image-4982\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"wyt-ti-wedi-profi-casineb-yn-gyhoeddus-o-r-blaen\">Wyt ti wedi profi casineb yn gyhoeddus o\u2019r blaen?<\/h3>\n\n\n\n<p>Dwi wedi cael dipyn go lew yn syllu arnaf, ac yn chwerthin yn ddistaw. Dwi\u2019n cofio dyn h\u0177n yn edrych arna i ar y bws un diwrnod, a\u2019i glywed yn glir yn dweud rhywbeth fel \u201cIesu Grist\u2026\u201d. Dwi hefyd wedi cael y sarhad clasurol \u201cTr***y\u201d yn cael ei waeddi mwy nag unwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Dwi\u2019n trio anwybyddu. Celwydd fydda dweud nad yw\u2019n cael effaith arna i. Dwi ddim eisiau i bethau droi yn cwffio. Dwi\u2019n berson bach iawn sydd ddim yn ffit. Dwi ddim yn un sy\u2019n gallu cwffio.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"wyt-ti-wedi-difaru-neu-deimlo-n-ansicr-am-dy-benderfyniad\">Wyt ti wedi difaru neu deimlo\u2019n ansicr am dy benderfyniad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gen i lawer o bethau rwy\u2019n difaru yn fy mywyd, ac er mod i\u2019n aml yn teimlo\u2019n anniogel, dyw bod yn agored \u00e2 mi fy hun fel merch Traws ddim rhywbeth dwi\u2019n ei ddifaru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna frwydrau yn dod gyda bod yn Traws ond dwi\u2019n teimlo\u2019n hapusach yn fy hun nag yr ydw i erioed. Nid oes rhaid i mi ddweud celwydd wrth fy hun mwyach. Ers derbyn fy hunaniaeth dwi\u2019n bod yn onest am unwaith. Mae\u2019n teimlo fel cam yn y cyfeiriad cywir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3702614.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3702614-296x300.jpg\" alt=\"Transgender symbol\" class=\"wp-image-4983\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"oes-unrhyw-rannau-eraill-o-dy-fywyd-sydd-wedi-cael-ei-effeithio-gan-y-trawsnewidiad\">Oes unrhyw rannau eraill o dy fywyd sydd wedi cael ei effeithio gan y trawsnewidiad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gorfod smalio peidio bod yn Traws gyda theulu yn fy ngwneud i\u2019n drist. A mynd i siopa am ffrogiau newydd ciwt ac yna sylweddoli nad oes gen i\u2019r un geiniog. Nid yr un mor drist, ond dal!<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anodd gorfod ymdopi gyda cam-ryweddu a chamenwi gan fy nheulu. Dwi\u2019n gorfod dal fy nhafod, gwenu a nodio ar hyn o bryd. Ac mae dod o hyd i ddillad yn anodd hefyd, yn enwedig gyda fy holl ansicrwydd fel fy mreichiau. Dwi wir ddim yn hoff o fy mreichiau, na fy ysgwyddau, ond dwi\u2019n fwy ansicr am ddangos fy mrest. Felly, dim dillad sydd yn dangos fy mronnau nes i mi ddod dros yr ansicrwydd yma.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pa-gyngor-fydda-ti-n-ei-roi-i-unrhyw-un-sydd-yn-cwestiynu-eu-rhywedd-neu-n-ystyried-trawsnewid\">Pa gyngor fydda ti\u2019n ei roi i unrhyw un sydd yn cwestiynu eu rhywedd neu\u2019n ystyried trawsnewid?<\/h3>\n\n\n\n<p>Pan ddaw at ffrindiau, byddwn i\u2019n codi\u2019r pwnc ac yn gweld eu hymateb. Mae\u2019n beth anodd dweud (er bod sawl un yn dweud), ond os nad yw ffrind yn gefnogol yna rwyt ti\u2019n gwastraffu dy amser. Ond, ceisia fod yn amyneddgar \u00e2 dy ffrindiau hefyd. Er eu bod nhw\u2019n dy garu di ac yn dy gefnogi, efallai byddant yn cymysgu rhagenwau weithiau. Wrth gwrs, rhaid dweud os ydynt yn defnyddio\u2019r rhagenw anghywir, ond rho amser iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan ddaw at aros yn bositif ac ymdopi gyda\u2019r pethau negyddol, cofia, er bod y byd yn lle tywyll ac ofnus, mae yna bobl sydd yn dy garu di. Fel dywedais, os nad yw pobl yn gefnogol paid gwastraffu dy amser arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Paid byth \u00e2 gadael i neb ddweud wrthyt ti pwy wyt ti neu beth wyt ti. Dim ond ti sydd yn cael penderfynu hynny. A hefyd, gofynna i dy ffrindiau i wneud dy golur, mae\u2019n llawer rhatach!<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"cysyllta-a-meic\">Cysyllta \u00e2 Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth&nbsp;i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma gyfweliad gyda Mina, merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid \u2013 sut aeth ati i ddweud wrth bobl, yr anwybodaeth mae\u2019n gorfod wynebu, a\u2019r effaith mae wedi\u2019i gael arni yn feddyliol ac yn emosiynol. Roedd eisiau bod yn agored am ei phrofiadau i helpu addysgu ac ysbrydoli eraill. Roedd y cyfweliad yma [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3960,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1691,1692],"tags":[3630,4042,1927,1928],"class_list":["post-7435","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwahaniaethu-lhdtc","category-hunaniaeth-rhyw","tag-lgbt-cy","tag-lgbtq-cy","tag-trans-cy","tag-transgender-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-02-01T08:09:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-14T14:30:47+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E?\",\"datePublished\":\"2022-02-01T08:09:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-14T14:30:47+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\"},\"wordCount\":1683,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg\",\"keywords\":[\"LGBT\",\"LGBTQ\",\"trans\",\"transgender\"],\"articleSection\":[\"Gwahaniaethu LHDTC+\",\"Hunaniaeth Rhyw\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\",\"name\":\"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2022-02-01T08:09:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-14T14:30:47+00:00\",\"description\":\"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic","description":"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic","og_description":"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2022-02-01T08:09:00+00:00","article_modified_time":"2025-11-14T14:30:47+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E?","datePublished":"2022-02-01T08:09:00+00:00","dateModified":"2025-11-14T14:30:47+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/"},"wordCount":1683,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg","keywords":["LGBT","LGBTQ","trans","transgender"],"articleSection":["Gwahaniaethu LHDTC+","Hunaniaeth Rhyw"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/","name":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E? - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg","datePublished":"2022-02-01T08:09:00+00:00","dateModified":"2025-11-14T14:30:47+00:00","description":"Cyfweliad gyda merch Traws, sydd yn rhannu ei phrofiadau o drawsnewid. Mae eisiau helpu addysgu ac ysbrydoli eraill.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/transgender-flag-painted-concrete-wall-outdoor-transgender-grunge-background-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/02\/01\/traws-y-t-yn-lhdtc\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y T yn LHDTC+: Sut Beth Yw E?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7435","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7435"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7435\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7437,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7435\/revisions\/7437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3960"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7435"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7435"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7435"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}