{"id":7250,"date":"2022-12-12T09:00:00","date_gmt":"2022-12-12T09:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=7250"},"modified":"2025-11-13T14:25:53","modified_gmt":"2025-11-13T14:25:53","slug":"12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/","title":{"rendered":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">I lawer ohonom ni mae\u2019r Nadolig yn adeg fendigedig \u2013 y bwyd, yr addurniadau, rhoi anrhegion i\u2019r rheini rydym yn caru a threulio amser gyda theulu. Ond i rai, gall y Nadolig fod yn amser unig, a gall fod yn anodd gweld pawb arall mewn hwyliau da tra\u2019u bod yn dioddef. Dyma ambell i syniad am sut y galli di rannu caredigrwydd a phositifrwydd dros yr \u0175yl.\u00a0<\/h2>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/medium-shot-woman-receiving-donation-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/medium-shot-woman-receiving-donation-150x150.jpg\" alt=\"Helping out at food bank\" class=\"wp-image-5938\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">1. Gwirfoddoli&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Edrycha am ffyrdd i roddi dy amser a helpu dy gymuned leol dros y Nadolig. Cyniga helpu yn y banc bwyd lleol, gwna ambell awr mewn siop elusen, neu edrycha am gyfleoedd gwirfoddoli gydag elusennau. Mae digonedd o gyfleodd ledled Cymru, felly ti\u2019n si\u0175r o ddarganfod rhywbeth sy\u2019n agos at dy galon. Defnyddia wefan&nbsp;<a href=\"https:\/\/volunteering-wales.net\/index?lang=CY\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwirfoddoli Cymru<\/a>&nbsp;i chwilio am gyfleoedd.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/volunteer-handing-donation-box-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/volunteer-handing-donation-box-150x150.jpg\" alt=\"Donating food items in a box\" class=\"wp-image-5950\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">2. Rhoi i eraill<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Oes gen ti bethau sydd&nbsp;bellach yn ddiangen, fel llyfrau, dillad a theganau? Neu efallai bod gen ti&nbsp;eitemau mwy fel peiriannau coffi neu offerynnau? Beth am eu rhoi i rywun arall? Gallet ti roi i ffrind fyddai\u2019n eu defnyddio, mynd a nhw i siop elusen neu hysbysu nhw am ddim ar gyfryngau cymdeithasol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/child-s-hand-old-man-s-hand-holding-cane-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/child-s-hand-old-man-s-hand-holding-cane-150x150.jpg\" alt=\"child's hand over old man's hand holding a cane.\" class=\"wp-image-5947\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">3. Edrych ar \u00f4l pobl h\u0177n&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wyt ti\u2019n cofio hysbyseb torcalonnus John Lewis o 2015,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=AsyD3W2pWU8\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">The Man On The Moon<\/a>? Gall y Nadolig fod yn amser unig iawn i bobl h\u0177n. Efallai eu bod wedi colli partner, neu gyda theulu sy\u2019n byw yn bell, neu ddim yn gallu treulio\u2019r Nadolig gyda nhw. Cymera ofal o bobl h\u0177n dros y gaeaf drwy alw mewn ar gymdogion i weld sut maen nhw, cynnig helpu gyda\u2019r siopa bwyd neu gynnig clirio\u2019r&nbsp;eira. Gallet ti wirfoddoli i fod yn \u2018ffrind\u2019 dros y ffon i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.ageuk.org.uk\/cymru\/our-work\/friend-in-need\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Age Cymru<\/a>. Os oes gen ti aelodau o\u2019r teulu\u2019n byw mewn cartref gofal, trefna i fynd i\u2019w gweld a chadw cwmni iddynt.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/grandparent-helping-grandchild-preparing-homemade-traditional-cookie-dough-culinary-kitchen-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/grandparent-helping-grandchild-preparing-homemade-traditional-cookie-dough-culinary-kitchen-150x150.jpg\" alt=\"Family wearing xmas hat enjoying cooking together making delicious dessert\" class=\"wp-image-5942\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">4. Bod yn annwyl gyda theulu a ffrindiau&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n hawdd cymryd pobl yn ganiataol, yn enwedig teulu a ffrindiau! Dweud wrth y bobl yn dy fywyd dy fod di\u2019n gwerthfawrogi nhw! Rho flodau i rywun i ddweud diolch am bopeth. Lleddfa straen diwrnod \u2018Dolig drwy helpu gyda\u2019r Cinio Nadolig. Dweud wrth dy ffrindiau sut maent wedi gwneud i ti chwerthin dros y flwyddyn. Ysgrifennu cardiau i dy frodyr a chwiorydd i ddangos gwerthfawrogiad.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/starting-running-feet-runners-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/starting-running-feet-runners-150x150.jpg\" alt=\"Starting running feet of runners\" class=\"wp-image-5944\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">5. Gofyn am roddion&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydi rhywun yn gofyn beth hoffet ti fel anrheg Nadolig, a dwyt ti ddim angen dim, yna gallet ti ofyn iddynt i wneud rhodd i elusen rwyt ti\u2019n ei gefnogi yn lle hynny. Gallet ti hefyd osod sialens i dy hun&nbsp; yn lle gwneud adduned flwyddyn newydd. Beth am gofrestru i wneud her wedi ei noddi neu drefnu digwyddiad i godi arian?&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/begging-bridge-with-person-who-handed-bread-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/begging-bridge-with-person-who-handed-bread-150x150.jpg\" alt=\"Two hands - one begging the other handing out food\" class=\"wp-image-5940\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">6. Bod yn garedig i bobl ddigartref&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r gaeaf yn arbennig o anodd i\u2019r bobl heb do dros eu pen. Ystyria wirfoddoli mewn cegin gawl, gwneud rhodd i loches ddigartrefedd neu helpu i ddosbarthu blancedi a dillad cynnes i bobl ddigartref. Gallet ti brynu bwyd neu ddiod gynnes iddynt \u2013 maen nhw\u2019n bobl fel ti a fi ac maent yn haeddu caredigrwydd a pharch.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/kid-holding-heart-icon-paper-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/kid-holding-heart-icon-paper-150x150.jpg\" alt=\"kid holding heart icon on a paper\" class=\"wp-image-5943\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">7. Bod yn annwyl i bobl ddiarth&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae danogs caredigrwydd yn gallu bod yn bwysig iawn o ddydd i ddydd \u2013 &nbsp;nid tuag at ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr yn unig, ond i bobl ddiarth hefyd. Mae dal y drws yn agored i rywun, dymuno diwrnod da, dweud diolch i\u2019r gyrrwr bws, neu gynnig gair caredig, yn bethau bach, ond y pethau bychain sydd yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae\u2019n amhosib gwybod beth sydd yn digwydd ym mywydau pobl ac efallai bydd un weithred garedig yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwrnod rhywun.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/tender-romantic-young-caring-girlfriend-curlyhaired-express-love-passion-sympathy-positivity-show-heart-sign-chest-smiling-happily-confessing-hearwarming-feelings-standing-white-background-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/tender-romantic-young-caring-girlfriend-curlyhaired-express-love-passion-sympathy-positivity-show-heart-sign-chest-smiling-happily-confessing-hearwarming-feelings-standing-white-background-150x150.jpg\" alt=\"curly-haired girl showing heart sign with hands on chest smiling happily\" class=\"wp-image-5945\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">8. Dweud diolch&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Oes gen ti athro\/athrawes, ffrind neu aelod o\u2019r teulu sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn dy fywyd dros y flwyddyn ddiwethaf? Neu oes unrhyw weithwyr allweddol yn dy deulu neu dy gymuned sydd yn gorfod gweithio dros ddiwrnod \u2018Dolig? Beth am ysgrifennu nodyn diolch i ddweud dy fod yn meddwl amdanyn nhw \u2013 gall feddwl lot i rywun fod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/closeup-shot-european-robin-branch-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/closeup-shot-european-robin-branch-150x150.jpg\" alt=\"Robin bird on a branch\" class=\"wp-image-5948\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">9. Gofalu am y ddaear&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd yn garedig i natur yn ogystal \u00e2 phobl y gaeaf hwn. Gall y gaeaf fod yn gyfnod anodd i adar a mamaliaid bach, ac weithiau mae\u2019r sefyllfa wedi ei waethygu gan newid hinsawdd.&nbsp; Gallet ti adael bwyd tu allan, gosod bocsys nythu yn barod at y gwanwyn, neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.rspb.org.uk\/get-involved\/activities\/nature-on-your-doorstep\/garden-activities\/build-a-bug-hotel\/]\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">adeiladu gwesty i fywyd gwyllt<\/a>&nbsp;yn yr ardd fel lloches i bryfaid, brogaod a hyd yn oed draenogod.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti\u2019n bwriadu prynu addurniadau, beth am brynu rhai ecogyfeillgar, neu&nbsp; greu addurniadau dy hun hyd yn oed? Gallet ti drefnu diwrnod crefft gyda theulu neu ffrindiau i greu addurniadau ar gyfer y t\u0177 a\u2019i addurno gyda\u2019ch gilydd. Gallet ti hyd yn oed creu anrhegion ecogyfeillgar dy hun.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/adorable-dog-being-curious-fence-shelter-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/adorable-dog-being-curious-fence-shelter-150x150.jpg\" alt=\"Dog behind a caged fence\" class=\"wp-image-5939\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">10. Bod yn garedig i anifeiliaid\u00a0\u00a0\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wyt ti\u2019n caru anifeiliaid? Oes \u2018na loches anifeiliaid yn dy ardal leol? Beth am eu cefnogi dros y gaeaf? Yn ogystal \u00e2 gwirfoddoli a rhoddi arian, gallet ti gefnogi wrth rannu eu hachos ar gyfryngau cymdeithasol. Gallet ti hefyd&nbsp;roi anrhegion fel blancedi, teganau a danteithion \u2013 edrycha i weld os oes gan dy loches leol restr o bethau maent eu hangen. Os oes gen ti le, amser ac egni, gallet ti gymryd anifail i mewn dros dro neu fabwysiadu hyd yn oed. Os wyt ti\u2019n gwneud hynny, sicrha dy fod di\u2019n deall yr ymrwymiad&nbsp;gyntaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/close-up-volunteer-cleans-nature-glass-plastic-other-debris-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/close-up-volunteer-cleans-nature-glass-plastic-other-debris-150x150.jpg\" alt=\"A volunteer with a rubbish bag cleans up litter outside\" class=\"wp-image-5941\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">11. Rhannu llawenydd gyda\u2019r gymuned&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhanna\u2019r hwyliau da yn nes at adref wrth fod yn annwyl gyda chymdogion a dy gymuned. Hola dy&nbsp;gymdogion sut maent yn teimlo. Os wyt ti\u2019n hoffi coginio, gallet ti&nbsp;drefnu sesiwn pobi gyda theulu neu ffrindiau i rannu gyda chymdogion, neu drefnu digwyddiad i godi arian at elusen leol. Gallet ti hefyd chwilio am fentrau cymdeithasol sy\u2019n trefnu digwyddiadau fel garddio neu lanhau sbwriel i wella\u2019r ardal leol i\u2019r gymuned gyfan.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2022\/12\/blood-donation-with-copy-space-blood-donor-with-bandage-after-giving-blood-white-background-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/blood-donation-with-copy-space-blood-donor-with-bandage-after-giving-blood-white-background-150x150.jpg\" alt=\"Blood donor with bandage with red heart depicting after giving blood\" class=\"wp-image-5946\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">12. Caredigrwydd ar hap&nbsp;&nbsp;<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn olaf, paid \u00e2 meddwl gormod am y peth! Mae cyfleoedd diddiwedd i fod yn garedig, ond dyma ambell syniad caredigrwydd ar hap i roi ysbrydoliaeth iti:&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Tapia arian m\u00e2n i beiriant gwerthu fel anrheg i\u2019r person nesaf\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Bydda\u2019n wrand\u00e4wr da i bobl sydd eisiau ymddiried ynddot\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Cofrestra i roi gwaed os wyt ti\u2019n gallu\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Paid bod yn rhy sydyn i farnu pobl \u2013 dwyt ti byth yn gwybod beth sydd wedi digwydd ym mywyd rhywun!\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Bydda\u2019n\u00a0hael gyda dy ganmoliaeth\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Rho dy sedd i rywun sydd ei angen mwy\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Postia mwy o bethau positif ar-lein\u00a0\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Rhanna lyfrau rwyt ti\u2019n caru\u00a0\u00a0<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cymer olwg ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.randomactsofkindness.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wefan y sefydliad Random Acts of Kindness<\/a>&nbsp;am syniadau pellach, a beth bynnag rwyt ti\u2019n gwneud, gwna ef gyda charedigrwydd.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>I lawer ohonom ni mae\u2019r Nadolig yn adeg fendigedig \u2013 y bwyd, yr addurniadau, rhoi anrhegion i\u2019r rheini rydym yn caru a threulio amser gyda theulu. Ond i rai, gall y Nadolig fod yn amser unig, a gall fod yn anodd gweld pawb arall mewn hwyliau da tra\u2019u bod yn dioddef. Dyma ambell i syniad [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4229,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1679,1663,1666],"tags":[3869,3870,2537,1702,3871,1719,1700],"class_list":["post-7250","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cefnogi-eraill","category-ffrindiau","category-teulu","tag-byddan-garedig","tag-caredig","tag-caredigrwydd","tag-cymorth","tag-gweithred-caredig","tag-gwirfoddoli","tag-help-2"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Nid yw&#039;r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Nid yw&#039;r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-12-12T09:00:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-13T14:25:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig\",\"datePublished\":\"2022-12-12T09:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-13T14:25:53+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\"},\"wordCount\":1181,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg\",\"keywords\":[\"bydda'n garedig\",\"caredig\",\"caredigrwydd\",\"cymorth\",\"gweithred caredig\",\"gwirfoddoli\",\"help\"],\"articleSection\":[\"Cefnogi Eraill\",\"Ffrindiau\",\"Teulu\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\",\"name\":\"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2022-12-12T09:00:00+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-13T14:25:53+00:00\",\"description\":\"Nid yw'r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic","description":"Nid yw'r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic","og_description":"Nid yw'r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2022-12-12T09:00:00+00:00","article_modified_time":"2025-11-13T14:25:53+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig","datePublished":"2022-12-12T09:00:00+00:00","dateModified":"2025-11-13T14:25:53+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/"},"wordCount":1181,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg","keywords":["bydda'n garedig","caredig","caredigrwydd","cymorth","gweithred caredig","gwirfoddoli","help"],"articleSection":["Cefnogi Eraill","Ffrindiau","Teulu"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/","name":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg","datePublished":"2022-12-12T09:00:00+00:00","dateModified":"2025-11-13T14:25:53+00:00","description":"Nid yw'r Nadolig yn amser braf i bawb, gall fod yn amser poenus ac unig. Dyma syniadau i rannu caredigrwydd dros y Nadolig.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/santa-claus-two-hands-making-heart-shape-gesture-isolated-green-background-close-up-sign-love-approval-christmas-congratulation-like-chroma-key-screen-white-gloved-hands-forms-heart-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2022\/12\/12\/12-syniad-i-rannu-caredigrwydd-dros-y-nadolig\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"12 Syniad i Rannu Caredigrwydd Dros y Nadolig"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7250"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7250\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7262,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7250\/revisions\/7262"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4229"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}