{"id":7222,"date":"2023-02-07T21:49:31","date_gmt":"2023-02-07T21:49:31","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=7222"},"modified":"2025-11-13T13:57:40","modified_gmt":"2025-11-13T13:57:40","slug":"misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/","title":{"rendered":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Efallai dy fod di wedi clywed y gair \u2018misogyny\u2019 yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar. Newyddion fel y \u2018dylanwadwyr\u2019\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-64125045\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Andrew Tate<\/a>\u00a0a chyhuddiadau o\u00a0<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-64333230\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">amgylchedd rhywiaethol, gwenwynig yn Undeb Rygbi Cymru<\/a>. Ond wyt ti\u2019n deall ei ystyr? Mae\u2019r blog yma yn egluro beth yw \u2018misogyny\u2019 a pam dylid ymladd yn ei erbyn, beth bynnag dy ryw.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw \u2018misogyny\u2019?<\/h3>\n\n\n\n<p>\u2018Misogyny\u2019 yw gwreig-gasineb yn Gymraeg. Mae\u2019n deimlad o gasineb neu ragfarn tuag at ferched, gyda chred bod dynion yn well na merched. Efallai byddi di\u2019n clywed geiriau fel rhagfarn rhyw (sexism) neu wahaniaethu rhyw neu rywiol yn cael ei ddefnyddio hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018misogyny\u2019 a harasio rhywiol yn gysylltiedig. Gall ymddygiad gynnwys galw enwau, cyffwrdd heb&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/beth-ywr-holl-ffwdan-caniatad-yma\/\">ganiat\u00e2d<\/a>&nbsp;ac ymosodiad rhywiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhai yn credu bod \u2018misogyny\u2019 yn endemig (yn barhaol) o\u2019n cwmpas \u2013 mewn ysgolion, gartref, chwaraeon, ar-lein ayb.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma gasgliad bach o ymddygiad gwreig-gasol tuag at ferched yn yr ysgol neu goleg:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Galw merch yn hwran neu\u2019n slwt<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud sylwadau rhywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Gwthio, palfalu, rwbio yn erbyn neu cydio<\/li>\n\n\n\n<li>Mynnu lluniau noeth a bod yn gas os nad yw\u2019r ferch yn gyrru<\/li>\n\n\n\n<li>\u2018Banter\u2019 \u2013 \u201cmae bechgyn yn gryfach nag merched\u201d neu \u201cyn y gegin yw lle merch\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Cred nad yw barn rhywun yn bwysig am mai merch yw hi<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud sylwadau ar gorff rhywun<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud j\u00f4cs am gamdriniaeth a thrais rhywiol \u2013 \u201cmae angen iddi gael ei threisio i\u2019w rhoi yn ei lle&#8217;\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Tynnu lluniau i fyny sgert<\/li>\n\n\n\n<li>Beio\u2019r dioddefwr \u2013 \u201croedd hi\u2019n gofyn amdani wedi gwisgo fel yna\u201d neu \u201cmae\u2019n rhaid bod hi wedi gwneud rhywbeth i wneud iddo wneud hynna\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannu lluniau neu fideos rhywiol o ferched rhwng ffrindiau neu ar-lein<\/li>\n\n\n\n<li>\u2018Slut Shaming\u2019 \u2013 codi cywilydd ar ferched sydd yn gyrru lluniau noeth neu sydd yn cael perthynas rhywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Sylwadau fel \u201cti\u2019n edrych yn ddelach pan ti\u2019n gwenu\u201d<\/li>\n\n\n\n<li>Chwibanu ar ferched (wolf whistle)<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3985475.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3985475-150x150.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6058\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pa mor gyffredin yw hyn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.unwomenuk.org\/site\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/APPG-UN-Women-Sexual-Harassment-Report_Updated.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Adroddiad Aflonyddu Rhywiol gan UN Women United Kingdom<\/a>&nbsp;yn dweud bod 86% o ferched 18-24 yn dweud eu bod wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol mewn gofodau cyhoeddus. Yn ogystal, mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/plan-uk.org\/media-centre\/more-than-half-of-girls-have-experienced-sexual-harassment-in-a-learning-environment\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ymchwil gan Plan International UK<\/a>&nbsp;yn dweud bod 58% o ferched 14-21 oed wedi cael eu haflonyddu\u2019n rhywiol mewn gosodiadau addysg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/neu.org.uk\/advice\/its-just-everywhere-sexism-schools\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">adroddiad gan UK Feminista a\u2019r NEU<\/a>&nbsp;yn datgan bod gwreig-gasineb yn gyffredin iawn yn ysgolion y DU, gyda 64% o athrawon yn dweud eu bod yn clywed iaith rywiaethol yn yr ysgol yn wythnosol o leiaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwefan&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.everyonesinvited.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Everyone\u2019s Invited<\/a>&nbsp;yn llawn tystiolaeth gan bobl sydd yn rhannu eu profiad o gamdriniaeth ac aflonyddu rhywiol mewn gosodiadau addysg yn y DU. Maent wedi gorfod stopio cyhoeddi profiadau newydd ar y wefan gan nad yw\u2019n bosib ymdopi gyda\u2019r nifer o dystiolaeth sydd yn cael ei gyflwyno, gyda dros 50 mil o brofiadau wedi eu rhannu eisoes.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/5717853.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/5717853-150x150.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6057\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod ymddygiad gwreig-gasol yn yr ysgol yn broblem?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adroddiad Estyn \u2013 \u2018<a href=\"https:\/\/www.estyn.llyw.cymru\/system\/files\/2022-04\/Dydyn%20ni%20ddim%20yn%20dweud%20wrth%20ein%20hathrawon%2C%20ond%20maeangen%20i%20ysgolion%20wybod%20%E2%80%93%20adroddiad%20i%20ddysgwyr_0.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon<\/a>\u2018 \u2013 yn dweud bod aflonyddu rhywiol yn cael ei normaleiddio mewn ysgolion a bron bod disgwyl hynny. Oherwydd hyn, a\u2019r gred bod athrawon ddim yn cymryd y peth o ddifrif, nid yw disgyblion yn adrodd ymddygiad gwreig-gasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Beth os nad oes canlyniadau i\u2019r math yma o ymddygiad mewn ysgolion? Mae\u2019n normaleiddio\u2019r ymddygiad yma. Gall hyn wedyn feddwl bod y plentyn yn tyfu i fod yn oedolyn sydd \u00e2\u2019r un farn. Mae hyn yn gallu bod yn niweidiol i ferched, yn arwain at iselder a hunan-barch gwael a\u2019u hatal rhag gwneud pethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn rhai achosion eithafol, os yw bachgen yn credu ei fod yn well nag merched, gall arwain at r\u00eap a chamdriniaeth rywiol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3594986.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/3594986-150x150.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6056\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth ddylwn i\u2019w wneud am y peth?<\/h3>\n\n\n\n<p>Un o dy hawliau dynol yw rhyddid o wahaniaethu (<a href=\"https:\/\/www.equalityhumanrights.com\/cy\/human-rights-act\/erthygl-14-diogelu-rhag-gwahaniaethu\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Erthygl 14 o\u2019r Ddeddf Hawliau Dynol<\/a>). Mae derbyn hyn yn ei normaleiddio ac yn gwneud i bobl gredu ei fod yn iawn. Paid derbyn hyn. Sefyll yn ei erbyn a dweud wrth rywun os wyt ti\u2019n ei weld neu os yw\u2019n digwydd i ti.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai pawb sefyll yn erbyn \u2018misogyny\u2019, nid yn unig y bobl sydd yn dioddef. Bechgyn neu ferched, dylai pawb ddweud na wrth y math yma o ymddygiad. Os wyt ti\u2019n clywed dy ffrindiau yn defnyddio iaith neu ymddygiad gwreig-gasol, yna dweud nad yw hyn yn iawn. Dweud nad yw\u2019n ddoniol, a ni ddylid siarad am ferched fel yna.<\/p>\n\n\n\n<p>Adrodd ef. Dweud wrth rywun os yw\u2019n digwydd i ti. Dweud wrth athro, rhiant, oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae camdriniaeth a thrais rhywiol yn drosedd (a rhai achosion o aflonyddu rhywiol hefyd). Os yw hyn wedi digwydd i ti, mae posib adrodd hyn i\u2019r heddlu ar 101. Gallet ti hefyd gysylltu \u00e2 sefydliad fel&nbsp;<a href=\"https:\/\/rapecrisis.org.uk\/get-help\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rape Crisis<\/a>&nbsp;neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.victimsupport.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gymorth i Ddioddefwyr<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw rhywun wedi postio llun neu fideo noeth ohonot ti ar-lein, yna defnyddia\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/remove-nude-image-shared-online\/\">teclyn Report Remove<\/a>&nbsp;ar wefan Childline. Mae hwn yn declyn i helpu pobl ifanc i dynnu llun neu fideo i lawr o\u2019r rhyngrwyd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Siarad \u00e2 Meic?<\/h3>\n\n\n\n<p>Meic yw\u2019r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae\u2019n gyfrinachol ac am ddim. Mae\u2019r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ff\u00f4n, neges testun neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">sgwrs ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019n anodd i ti siarad \u00e2 rhywun, yna&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/sut-i-gychwyn-sgwrs-i-rannu-problem\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cer draw i\u2019n blog am gyngor<\/a>, neu siarada gydag un o\u2019n cynghorwyr cyfeillgar ar wefan Meic, fydd yn gallu helpu ti i siarad \u00e2 rhywun.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Efallai dy fod di wedi clywed y gair \u2018misogyny\u2019 yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar. Newyddion fel y \u2018dylanwadwyr\u2019\u00a0Andrew Tate\u00a0a chyhuddiadau o\u00a0amgylchedd rhywiaethol, gwenwynig yn Undeb Rygbi Cymru. Ond wyt ti\u2019n deall ei ystyr? Mae\u2019r blog yma yn egluro beth yw \u2018misogyny\u2019 a pam dylid ymladd yn ei erbyn, beth bynnag dy ryw. Beth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4265,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1647],"tags":[2488,2692],"class_list":["post-7222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-gwahaniaethu","tag-abuse-cy","tag-sexism-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Wyt ti wedi clywed y gair &#039;misogyny&#039; yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae&#039;r blog yma&#039;n egluro&#039;r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wyt ti wedi clywed y gair &#039;misogyny&#039; yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae&#039;r blog yma&#039;n egluro&#039;r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-02-07T21:49:31+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-13T13:57:40+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb\",\"datePublished\":\"2023-02-07T21:49:31+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-13T13:57:40+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\"},\"wordCount\":950,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg\",\"keywords\":[\"abuse\",\"sexism\"],\"articleSection\":[\"Gwahaniaethu\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\",\"name\":\"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg\",\"datePublished\":\"2023-02-07T21:49:31+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-13T13:57:40+00:00\",\"description\":\"Wyt ti wedi clywed y gair 'misogyny' yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae'r blog yma'n egluro'r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg\",\"width\":2000,\"height\":2000},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic","description":"Wyt ti wedi clywed y gair 'misogyny' yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae'r blog yma'n egluro'r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic","og_description":"Wyt ti wedi clywed y gair 'misogyny' yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae'r blog yma'n egluro'r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2023-02-07T21:49:31+00:00","article_modified_time":"2025-11-13T13:57:40+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":2000,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb","datePublished":"2023-02-07T21:49:31+00:00","dateModified":"2025-11-13T13:57:40+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/"},"wordCount":950,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg","keywords":["abuse","sexism"],"articleSection":["Gwahaniaethu"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/","name":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg","datePublished":"2023-02-07T21:49:31+00:00","dateModified":"2025-11-13T13:57:40+00:00","description":"Wyt ti wedi clywed y gair 'misogyny' yn cael ei ddefnyddio lot yn ddiweddar? Mae'r blog yma'n egluro'r ystyr a pam dylid ymladd yn ei erbyn","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4015513.jpg","width":2000,"height":2000},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/02\/07\/misogyny-ymladd-yn-erbyn-casineb\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"\u2018Misogyny\u2019 \u2013 Ymladd yn Erbyn Casineb"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7222"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7222\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7224,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7222\/revisions\/7224"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4265"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}