{"id":6981,"date":"2023-06-05T07:15:17","date_gmt":"2023-06-05T06:15:17","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2023\/06\/05\/teen-to-parent-teenage-pregnancy-guide\/"},"modified":"2025-11-12T15:17:41","modified_gmt":"2025-11-12T15:17:41","slug":"canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/","title":{"rendered":"O Blentyn i Riant &#8211; Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau"},"content":{"rendered":"\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Un o&#8217;r canlyniadau o gael rhyw heb amddiffyniad yw beichiogrwydd (yn ogystal \u00e2 STIs). Efallai bod hyn yn fwriadol, yn gamgymeriad, neu bod dull atal cenhedlu wedi ffaelu. Os wyt ti&#8217;n meddwl gallet ti fod yn disgwyl babi, darllena&#8217;r blog yma am wybodaeth ar brofi, atal cenhedlu brys, dy ddewisiadau, cadw&#8217;r babi, a&#8217;r help sydd ar gael.<\/h3>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-text-align-center is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em><em>RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o&#8217;n darllenwyr iau<\/em>.<\/em><\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p><em><em>Mae&#8217;r blog yma yn rhan o&#8217;r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau &#8211; Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> dolenni i holl flogiau&#8217;r ymgyrch yma<\/a>, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol  (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.<\/em><\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i wybod os wyt ti&#8217;n disgwyl babi<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw&#8217;n bosib cael yn feichiog trwy gusanu, cyffwrdd na chael rhyw geneuol (y geg). Mae&#8217;n rhaid i semen gael i mewn i&#8217;r fagina er mwyn i ti fod yn feichiog. I ddarganfod mwy am y cylch misol a sut mae beichiogrwydd yn digwydd, <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/periods\/fertility-in-the-menstrual-cycle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cer yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae methu mislif yn gallu bod yn arwydd o feichiogrwydd, ond mae rhesymau eraill dros fislif afreolaidd hefyd. Os yw dy fislif yn hwyr ond dwyt ti heb gael rhyw fagina, yna nid yw&#8217;n bosib bod yn feichiog. Weithiau mae pobl yn parhau i waedu tra maent yn feichiog.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr unig ffordd i fod yn sicr ydy gwneud prawf beichiogrwydd. Mae pecynnau profi gartref ar gael yn y mwyafrif o archfarchnadoedd neu fferyllfeydd, ond fe allet ti gael prawf am ddim o&#8217;r clinig iechyd rhyw leol neu&#8217;r doctor. Fel arfer mae angen pipi ar ffon. Os yw&#8217;r prawf yn bositif, ac rwyt ti wedi dilyn y cyfarwyddiadau yn iawn, yna mae&#8217;n eithaf sicr dy fod di&#8217;n disgwyl gan eu bod mor gywir. Ond gall canlyniadau negyddol fod yn anghywir weithiau. Fel arfer mae dau brawf mewn pecyn, felly gwna&#8217;r ail brawf os wyt ti dal i feddwl gallet ti fod di\u2019n feichiog. Os yw&#8217;n dal i fod yn negyddol, a dyw dy fislif dal heb gychwyn, yna gwna apwyntiad gyda&#8217;r doctor.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/beautiful-fertility-concept-3d-rendering-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/beautiful-fertility-concept-3d-rendering-300x214.jpg\" alt=\"Sperm and egg for pregnancy blog\" class=\"wp-image-6320\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth sy&#8217;n digwydd os ydw i wedi cael rhyw heb amddiffyniad?<\/h3>\n\n\n\n<p>Paid croesi dy fysedd a gobeithio na fyddi di&#8217;n disgwyl babi. Mae yna <a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/encyclopaedia\/e\/article\/emergencycontraception\/?locale=en&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">opsiynau atal cenhedlu brys.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Y bilsen atal cenhedlu brys<\/h4>\n\n\n\n<p>Neu&#8217;r bilsen fore wedyn (er mae gen ti ychydig mwy o amser i&#8217;w gymryd). Gellir cymryd hwn o fewn 3 i 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad, ond gorau po gyntaf &#8211; paid disgwyl. Os wyt ti&#8217;n taflyd i fyny o fewn ychydig oriau o gymryd y bilsen, bydd rhaid dychwelyd a&#8217;i gymryd eto. Mae posib cael hwn am ddim (hyd yn oed os wyt ti dan 16) mewn clinigau iechyd rhywiol (GUM) neu unedau anafiadau m\u00e2n, neu mewn rhai meddygfeydd, clinigau pobl ifanc, fferyllfeydd, neu A&amp;E. Os wyt ti dros 16 oed, mae posib prynu yn y mwyafrif o fferyllfeydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Dyfais Fewngroth (IUD)<\/h4>\n\n\n\n<p>Gellir dewis cael ffitio IUD fel atal cenhedlu brys o fewn 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Mae hwn yn ddyfais blastig a chopr sydd yn cael ei osod yn y groth. Mae posib cadw hwn i mewn wedyn a&#8217;i ddefnyddio fel dy ddull atal cenhedlu arferol. Cofia &#8211; tra gall atal beichiogrwydd, condom yw&#8217;r unig ffordd i amddiffyn rhag STI.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai mai dyma&#8217;r amser perffaith i edrych ar dy opsiynau atal cenhedlu. Cer draw i&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">blog Dulliau Atal Cenhedlu yma.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom gyda rhywun sydd ddim yn bartner rheolaidd, yna byddai&#8217;n syniad da i gael prawf STI hefyd. Gwybodaeth bellach am hyn yn ein blog <a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/canllaw-coslyd-sti-a-phrofi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canllaw Coslyd STIs a Phrofi.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n feichiog, yna mae gen ti benderfyniadau mawr i&#8217;w gwneud. Mae&#8217;n gallu bod yn anodd meddwl am yr opsiynau ar ben dy hun, ac rydym yn argymell i ti chwilio am gymorth i&#8217;w trafod. Dewis rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, fel dy bartner, ffrind, aelod o&#8217;r teulu, athro, gweithiwr cymdeithasol neu ddoctor. Os wyt ti&#8217;n teimlo na fedri di siarad \u00e2 neb, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor a gwybodaeth er mwyn i ti wneud penderfyniad gwybodus am dy ddyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Siarad am dy deimladau. Paid poeni am ddweud y peth anghywir. Mae&#8217;n iawn teimlo&#8217;n ofn, pryder neu gyffro. Mae&#8217;n bwysig mai ti sydd yn gwneud unrhyw benderfyniad, ni ddylai neb orfodi ti i wneud rhywbeth nad wyt ti eisiau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/hand-holding-infertility-proof-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/hand-holding-infertility-proof-300x200.jpg\" alt=\"Pregnancy test held in two hands\" class=\"wp-image-6319\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dy ddewisiadau<\/h3>\n\n\n\n<p>Dy gorff di ydyw a dy ddewis di ydy beth sy&#8217;n digwydd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gen ti dri opsiwn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Cadw&#8217;r babi<\/strong> &#8211; gweler isod<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cael erthyliad<\/strong> (abortion) &#8211; <a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/Encyclopaedia\/a\/article\/abortion\/?locale=en\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">darllena mwy am hyn ar wefan GIG Cymru<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><strong>Mabwysiadu<\/strong> &#8211; <a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/friends-relationships-sex\/sex-relationships\/having-children-adopted\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">darllena mwy am fabwysiadu ar wefan Childline<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae tudalen <a href=\"https:\/\/www.brook.org.uk\/your-life\/making-a-decision-about-a-pregnancy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwneud Penderfyniad am Feichiogrwydd<\/a> Brook yn trafod y gwahanol opsiynau yma a&#8217;r pethau dylet ti eu hystyried. Efallai bydd hyn yn helpu gwneud pethau yn fwy clir i ti.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai bod hyn yn benderfyniad hawdd, neu efallai dy fod di&#8217;n teimlo&#8217;n ddryslyd a ddim yn gwybod beth yw&#8217;r penderfyniad cywir i ti. Unwaith eto, rydym yn awgrymu i ti siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, rhywun ti&#8217;n hyderus fydd yn helpu ti i siarad am dy opsiynau yn hytrach nag dweud wrthyt ti beth ddylet ti ei wneud. Mae Meic yma os nad oes gen ti neb gallet ti siarad \u00e2 nhw (manylion cyswllt isod).<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cadw&#8217;r babi<\/h3>\n\n\n\n<p>Unwaith rwyt ti&#8217;n gwybod dy fod di am barhau gyda&#8217;r beichiogrwydd, yna gwna apwyntiad gyda&#8217;r fydwraig (trwy&#8217;r feddygfa) fel dy fod di&#8217;n cael yr holl archwiliadau a&#8217;r driniaeth sydd ei angen ar gyfer beichiogrwydd iach. Gelwir hyn yn <a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/livewell\/pregnancy\/yourantenatalcare\/?locale=cy&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ofal cyn geni.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;Mae beichiogrwydd yn parhau am tua 40 wythnos. Bydd dy fydwraig yn gallu dyfalu&#8217;r dyddiad geni disgwyliedig. Byddi di&#8217;n cael apwyntiadau rheolaidd i sicrhau dy fod di a&#8217;r babi yn iawn. Mae apwyntiadau cyn geni yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>mesur y bwmp i sicrhau bod y babi yn tyfu fel y dylai<\/li>\n\n\n\n<li>gwrando ar galon y babi<\/li>\n\n\n\n<li>gwneud si\u0175r dy fod di&#8217;n iach<\/li>\n\n\n\n<li>cyngor ar <a href=\"https:\/\/www.helpafiistopio.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">stopio ysmygu<\/a>, alcohol a bwyta&#8217;n iach<\/li>\n\n\n\n<li>cyngor ar <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/pregnancy\/keeping-well\/vitamins-supplements-and-nutrition\/#:~:text=It's%20important%20to%20take%20a,tube%20defects%2C%20including%20spina%20bifida.\">gymryd asid ffolig a fitaminau<\/a><\/li>\n\n\n\n<li>trafod opsiynau geni<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Byddi di hefyd yn cael sgan yn wythnos 8-14 a 18-21. Bydd rhai pobl angen cael eu sganio&#8217;n fwy rheolaidd i fonitro&#8217;r beichiogrwydd yn agos. Bydd yna brofion gwaed a sgrinio hefyd ar gyfer pethau fel STIs a syndrom Down.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y fydwraig yn rhoi gwybod am unrhyw ddosbarthiadau cyn geni yn dy ardal, a bydd hyn yn helpu ti i baratoi ar gyfer y geni a gofalu am y babi.<\/p>\n\n\n\n<p>Dysga fwy am ofal cyn geni yng<a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/doityourself\/pregnancy\/YourAntenatalCare\/?locale=cy&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> Nghanllaw Beichiogrwydd GIG Cymru.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Ceir llawer o wybodaeth ar fod yn iach tra&#8217;n feichiog ar <a href=\"https:\/\/www.tommys.org\/pregnancy-information\/im-pregnant\/being-healthy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wefan Tommy&#8217;s.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/faceless-mother-with-naked-baby-infant-holding-mommy-s-finger-mum-spending-time-with-her-tiny-child-light-background-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/faceless-mother-with-naked-baby-infant-holding-mommy-s-finger-mum-spending-time-with-her-tiny-child-light-background-300x200.jpg\" alt=\"Baby holding an adult finger\" class=\"wp-image-6321\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cymorth i rieni ifanc<\/h3>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Addysg<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid yw cael babi yn golygu bod rhaid i ti orffen dy addysg. Mae&#8217;r Gyfraith Cydraddoldeb yn amddiffyn dy hawliau mewn addysg ac yn y gwaith os wyt ti&#8217;n feichiog.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n rhaid i ti aros mewn addysg nes i ti droi&#8217;n 16 oed. Nid yw bod yn feichiog yn golygu bod rhaid i ti stopio, a bydd cymorth ar gael i ti. Efallai na fydd hyn yn hawdd, ond nid oes rhaid i ti newid cynlluniau&#8217;r dyfodol am fod gen ti fabi. Mae posib aros mewn addysg nes y diwrnod geni a chymryd hyd at 18 wythnos i ffwrdd yn union cyn ac ar \u00f4l y geni.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd rhywun yn cael ei benodi i helpu ti i setlo yn \u00f4l i addysg ar \u00f4l yr enedigaeth. Gallant roi cyngor i ti ar ofal plant a gweld os oes help ariannol ar gael i ti. Efallai bod gen ti aelodau&#8217;r teulu fydda&#8217;n gallu helpu gyda gofal plant, fydd yn gallu hawlio arian os ydynt yn derbyn <a href=\"https:\/\/www.moneyhelper.org.uk\/cy\/benefits\/benefits-and-work\/working-tax-credit\">Credyd Treth Gwaith<\/a> neu <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/credyd-cynhwysol\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gredyd Cynhwysol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Efallai byddi di&#8217;n gallu hawlio&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk\/cyllid-addysg-bellach\/lwfans-cynhaliaeth-addysg\/cymhwystra\/rhieni-gwarcheidwaid-a-phartneriaid\/\">LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg)<\/a> sydd yn ymwneud ag incwm y cartref. Mae myfyrwyr cymwys rhwng 16 a 18 oed yn cael \u00a340 yr wythnos i helpu gyda chostau addysg bellach.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Aros yn iach<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"https:\/\/bipbc.gig.cymru\/cyngor-iechyd\/beichiogrwydd-blynyddoedd-cynnar-a-theulu\/y-cynllun-cychwyn-iach\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cynllun Cychwyn Iach<\/a> yn rhoi cerdyn gydag arian arno i helpu prynu llaeth, ffrwythau a llysiau, corbys a fformiwla babi. Mae posib cael fitaminau i ti a&#8217;r babi hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond pobl sydd ar fudd-daliadau penodol ac sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu gyda phlentyn dan 4 oed sydd yn gymwys am y cynllun yma fel arfer. Ond, os wyt ti o dan 18 oed a dros 10 wythnos yn feichiog, rwyt ti&#8217;n gymwys nes bydd y babi yn cael ei eni. Ni fyddi di&#8217;n gymwys wedyn oni bai dy fod di&#8217;n cael unrhyw un o&#8217;r budd-daliadau wedi&#8217;u <a href=\"https:\/\/www.healthystart.nhs.uk\/how-to-apply\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestru ar y dudalen yma<\/a>. Gwna gais am gerdyn Cychwyn Iach <a href=\"https:\/\/services.nhsbsa.nhs.uk\/apply-for-healthy-start\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Tai<\/h4>\n\n\n\n<p>Os wyt ti&#8217;n poeni am ble byddi di&#8217;n byw fel rhiant ifanc, mae gan Shelter gyngor ar opsiynau ac unrhyw help sydd ar gael i ti fel rhiant ifanc. <a href=\"https:\/\/sheltercymru.org.uk\/cy\/housing-advice\/advice-for-young-people\/young-parents\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cer yma i weld.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Budd-daliadau<\/h4>\n\n\n\n<p>Os wyt ti o dan 16 oed, nid wyt ti&#8217;n gymwys ar gyfer budd-daliadau heblaw <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/budd-dal-plant\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Budd-dal Plant<\/a> fel arfer.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti dros 16 oed, defnyddia <a href=\"https:\/\/www.gingerbread.org.uk\/wp-content\/themes\/gingerbread\/trees\/calculator\/index.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Teenage Parents Benefits Finder<\/a> ar wefan Gingerbread i weld os yw&#8217;n bosib i ti hawlio budd-daliadau a chredydau treth o dan 18 oed.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth bellach a chymorth<\/h3>\n\n\n\n<div style=\"height:30px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong><strong><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau<\/a><\/strong> <\/strong>&#8211; ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.gingerbread.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Gingerbread<\/strong><\/a>\u00a0&#8211; gwybodaeth budd-daliadau, arian, tai a gofal plant i rieni sengl neu ferched ifanc sydd yn byw gyda rhiant. Cer draw i&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.gingerbread.org.uk\/wp-content\/themes\/gingerbread\/trees\/calculator\/index.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Teenage Parents Benefits Finder<\/a> i weld os wyt ti&#8217;n gymwys am unrhyw beth<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/livewell\/pregnancy\/teenage\/?locale=cy&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cefnogaeth beichiogrwydd yn yr arddegau <\/a><\/strong>&#8211; GIG Cymru<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.brook.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Brook<\/strong><\/a>&#8211; gwasanaeth iechyd, addysg a lles rhyw i bobl ifanc. Cer draw i&#8217;r tudalennau beichiogrwydd<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.dewis.cymru\/teenage-parents-and-schooling-cyp\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dewis &#8211; Rhieni yn eu harddegau ac addysg <\/a><\/strong>&#8211; gwybodaeth a dolenni i helpu rhieni ifanc gyda&#8217;u haddysg. Mae yna dudalen am <a href=\"https:\/\/www.dewis.cymru\/teenage-parents-and-college-cyp\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rieni yn eu harddegau a\u2019r coleg hefyd.<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.dewis.cymru\/SearchResults.aspx?q=Gwasanaeth+Gwybodaeth+Deuluoedd&amp;loc=&amp;d=&amp;c=&amp;a=&amp;f=1&amp;t=1&amp;o=&amp;st=-1\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd<\/a><\/strong> &#8211; gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar wahanol wasanaethau yn ymwneud \u00e2 phlant, pobl ifanc a&#8217;u teuluoedd, gan gynnwys gofal plant, gwasanaethau plant, gweithgareddau gwyliau a grwpiau chwarae<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/sheltercymru.org.uk\/housing-advice\/advice-for-young-people\/young-parents\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Shelter Cymru<\/strong><\/a>&nbsp; &#8211; cyngor tai i rieni ifanc<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/hoffech-chi-help-llaw-gan-dechraun-deg\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dechrau&#8217;n Deg <\/a><\/strong>&#8211; cymorth gyda phlant dan 4 os wyt ti&#8217;n byw mewn ardal Dechrau&#8217;n Deg<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/hoffech-chi-help-llaw-gan-deuluoedd-yn-gyntaf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Teuluoedd yn Gyntaf <\/a><\/strong>&#8211; arian i brosiectau lleol i gefnogi teuluoedd (rhai yn benodol i bobl ifanc). Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu ar yr angen lleol yn eu hardal<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/magu-plant-rhowch-amser-iddo\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Magu Plant. Rhowch amser iddo <\/a><\/strong>&#8211; tips ymarferol a chyngor arbenigol ar gyfer holl heriau magu plant<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.familylives.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Family Lives<\/a><\/strong> &#8211; cefnogi rhieni cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.tommys.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Tommy&#8217;s<\/a><\/strong> &#8211; elusen beichiogrwydd yn darparu cyngor arbenigol i rieni cyn, yn ystod ac ar \u00f4l beichiogrwydd. Maent hefyd yn cefnogi&#8217;r rhai sydd wedi colli babi<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Siarad \u00e2 Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Meic yw\u2019r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae\u2019n gyfrinachol ac am ddim. Mae\u2019r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ff\u00f4n, neges testun neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">sgwrs ar-lein.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o&#8217;r canlyniadau o gael rhyw heb amddiffyniad yw beichiogrwydd (yn ogystal \u00e2 STIs). Efallai bod hyn yn fwriadol, yn gamgymeriad, neu bod dull atal cenhedlu wedi ffaelu. Os wyt ti&#8217;n meddwl gallet ti fod yn disgwyl babi, darllena&#8217;r blog yma am wybodaeth ar brofi, atal cenhedlu brys, dy ddewisiadau, cadw&#8217;r babi, a&#8217;r help sydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":4318,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1686,923,20,1663,52,1689,26,1666],"tags":[2401,3491,3492,2402,3494,3493,3495,2233,2405,3496,3497],"class_list":["post-6981","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-atal-cenhedlu","category-contraception","category-family","category-ffrindiau","category-relationships","category-rhyw","category-sex","category-teulu","tag-atal-cenhedlu","tag-atal-cenhedlu-brys","tag-beichiog","tag-beichiogrwydd","tag-disgwyl-babi","tag-erthyliad","tag-help-i-rieni","tag-mabwysiadu","tag-prawf-beichiogrwydd","tag-rhyw-heb-amddiffyniad","tag-rhyw-heb-gondom"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw&#039;r babi, a help\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw&#039;r babi, a help\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-06-05T06:15:17+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-12T15:17:41+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1440\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"O Blentyn i Riant &#8211; Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:15:17+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T15:17:41+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\"},\"wordCount\":1941,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg\",\"keywords\":[\"atal cenhedlu\",\"atal cenhedlu brys\",\"beichiog\",\"beichiogrwydd\",\"disgwyl babi\",\"erthyliad\",\"help i rieni\",\"mabwysiadu\",\"prawf beichiogrwydd\",\"rhyw heb amddiffyniad\",\"rhyw heb gondom\"],\"articleSection\":[\"Atal Cenhedlu\",\"Contraception\",\"Family\",\"Ffrindiau\",\"Relationships\",\"Rhyw\",\"Sex\",\"Teulu\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\",\"name\":\"O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:15:17+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T15:17:41+00:00\",\"description\":\"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw'r babi, a help\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1440},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"O Blentyn i Riant &#8211; Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic","description":"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw'r babi, a help","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic","og_description":"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw'r babi, a help","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2023-06-05T06:15:17+00:00","article_modified_time":"2025-11-12T15:17:41+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1440,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"O Blentyn i Riant &#8211; Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau","datePublished":"2023-06-05T06:15:17+00:00","dateModified":"2025-11-12T15:17:41+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/"},"wordCount":1941,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg","keywords":["atal cenhedlu","atal cenhedlu brys","beichiog","beichiogrwydd","disgwyl babi","erthyliad","help i rieni","mabwysiadu","prawf beichiogrwydd","rhyw heb amddiffyniad","rhyw heb gondom"],"articleSection":["Atal Cenhedlu","Contraception","Family","Ffrindiau","Relationships","Rhyw","Sex","Teulu"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/","name":"O Blentyn i Riant - Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg","datePublished":"2023-06-05T06:15:17+00:00","dateModified":"2025-11-12T15:17:41+00:00","description":"Gall beichiogrwydd ddigwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad. Dyma fanylion ar gael prawf, atal cenhedlu brys, dewisiadau, cadw'r babi, a help","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/young-asian-pregnant-woman-holding-her-belly-talking-with-her-child-mom-feeling-happy-smiling-positive-peaceful-while-take-care-baby-pregnancy-near-window-living-room-home-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1440},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"O Blentyn i Riant &#8211; Canllaw Beichiogrwydd yn Dy Arddegau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6981","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6981"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6981\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6983,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6981\/revisions\/6983"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4318"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6981"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6981"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6981"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}