{"id":6969,"date":"2023-06-05T07:05:48","date_gmt":"2023-06-05T06:05:48","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=6969"},"modified":"2025-11-12T14:55:33","modified_gmt":"2025-11-12T14:55:33","slug":"pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/","title":{"rendered":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019n naturiol i ti fod eisiau gwybod mwy am gyrff pobl eraill a rhyw. Mae rhai pobl yn hoffi gwylio pornograffi i ddysgu mwy a deall beth maent yn hoffi\u2019n rhywiol. Mae yna rai sydd heb diddordeb nac mwynhad ohono. Beth bynnag dy farn di am porn, mae\u2019n syniad deall y ffeithiau, y peryglon a\u2019r buddiannau.<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><em>RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o\u2019n darllenwyr iau.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><em>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau \u2013 Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw. Mae<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">&nbsp;dolenni i holl flogiau\u2019r ymgyrch yma<\/a>, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw porn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae pornograffi, cyfeirir ato\u2019n aml fel porn, yn ysgrifennu, lluniau, ffeiliau a fideos yn dangos gweithgaredd rhywiol gyda\u2019r bwriad o droi ti \u2018mlaen (cynhyrfu\u2019n rhywiol). Mae porn wedi bod o gwmpas ers amser maith, ond gyda\u2019r rhyngrwyd a ffonau symudol, mae\u2019n haws nac erioed i gael gafael arno.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna pornograffi proffesiynol gyda chynhyrchydd ac actorion. Neu mae yna porn sy\u2019n cael ei greu gan y cyhoedd ac yn cael ei rannu ar-lein. Os wyt ti eisiau gwybod mwy, neu\u2019n gwylio eisoes, bydd deall y gyfraith yn helpu ti rhag mynd i drafferthion.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4405561.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4405561-300x300.jpg\" alt=\"Neon 18+ sign for porn blog\" class=\"wp-image-6360\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ydw i\u2019n gallu cael i drwbl yn gwylio porn?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn y DU, mae unrhyw un yn cael gwylio pornograffi, ond rhaid bod dros 18 oed i brynu porn. Rwyt ti\u2019n cael cadw cynnwys pornograffig ar dy ff\u00f4n neu wedi\u2019i brintio, ond mae\u2019n rhaid i\u2019r cynnwys yma fod yn gyfreithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw\u2019n anghyfreithlon i ti wylio porn os wyt ti o dan 18. Ond nid yw\u2019n cael ei greu gyda phobl ifanc mewn golwg. Mae\u2019n cael ei greu\u2019n benodol i oedolion. Weithiau mae pethau\u2019n cael eu dangos a all niweidio, ypsetio, neu godi ofn.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylet ti fod yn ymwybodol bod yna bornograffi sy\u2019n anghyfreithiol (<a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/online-porn\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><em>gweler manylion yn adran \u2018Facts About Porn\u2019 Childli<\/em><\/a><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/online-porn\/\"><em>ne yma<\/em><\/a>). Mae\u2019n anghyfreithlon hefyd i rannu neu dangos porn i rywun sydd o dan 16 oed. Os wyt ti\u2019n gweld unrhyw beth sydd yn gwneud i ti deimlo\u2019n anghyfforddus, neu ti\u2019n teimlo sydd ddim yn iawn, dweud wrth oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt neu edrycha ar y cysylltiadau yn yr adran \u2018Gwybodaeth bellach a chymorth\u2019 isod.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae sawl math gwahanol o porn<\/h3>\n\n\n\n<p>Weithiau gallet ti ddarganfod porn heb chwilio amdano, fel ar gyfryngau cymdeithasol neu hysbyseb ar wefan, neu efallai dy fod di\u2019n chwilio am porn yn bwrpasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae porn yn dangos sawl&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/archwilio-perthnasau-agos-a-rhywiol-gwahanol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ffordd wahanol i gael rhyw<\/a>&nbsp;a ffyrdd i bleseru dy hun neu rywun arall. Gall gwylio porn fod yn ffordd iach i ddysgu am ryw (er mae\u2019n gallu troi\u2019n afiach hefyd \u2013 gweler isod). Gall annog ti i archwilio\u2019r hyn sydd yn troi chdi \u2018mlaen a dy rywioldeb mewn awyrgylch diogel heb fod angen person arall (er fedri di wylio gyda rhywun arall wrth gwrs).<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n gwylio porn, efallai byddi di\u2019n darganfod rhywbeth sydd yn dy gynhyrfu\u2019n rhywiol. Os wyt ti\u2019n parhau i wylio\u2019r math yma o fideos ac yn mwynhau\u2019r them\u00e2u, efallai bod gen ti ginc neu ffetis penodol. Mae\u2019n berffaith normal i gael diddordebau rhywiol gwahanol i\u2019r arfer. Sicrha dy fod di, ac unrhyw un arall sy\u2019n archwilio hyn gyda thi, yn ddiogel, bod y gweithgaredd rhywiol yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/parchu-ffiniau-deall-caniatad\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gyfreithiol a bod gen ti ganiat\u00e2d&nbsp;<\/a>y person arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Tra bod y mwyafrif o gategor\u00efau ar wefannau porn arferol yn gyfreithiol i\u2019w gwylio, mae llinell denau iawn rhwng cyfreithiol ac anghyfreithiol weithiau. Ni ddylai fideo gyda\u2019r gair \u2018teen\u2019 yn y teitl ddangos rhywun o dan 18. Os yw\u2019r actor dros 18, mae hyn yn gyfreithiol. Ond, fel rhywun sydd yn gwylio\u2019r fideo, nid all bod yn sicr o hyn. Mae\u2019n rhaid i ti fod yn ofalus o\u2019r pethau rwyt ti\u2019n gwylio.<\/p>\n\n\n\n<p>Siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt os wyt ti wedi gweld porn sydd yn ypsetio, poeni neu yn codi ofn arnat ti. Os wyt ti angen adrodd porn sy\u2019n niweidiol neu\u2019n anghyfreithlon, mae\u2019n bwysig gwneud hyn. Mae posib&nbsp;<a href=\"https:\/\/reportharmfulcontent.com\/child\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">adrodd cynnwys niweidiol ar-lein&nbsp;<\/a>yn ddienw ac yn gyfrinachol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/ap9-1-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/ap9-1-300x240.jpg\" alt=\"No porn icon on laptop screen on white background. \" class=\"wp-image-6364\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nid yw porn fel rhyw go iawn<\/h3>\n\n\n\n<p>Anaml y mae porn yn cynrychioli rhyw go iawn. Mae\u2019n cael ei greu at bwrpas adloniant i oedolion. Nid yw\u2019n ceisio addysgu am&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">atal cenhedlu<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/canllaw-coslyd-sti-a-phrofi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">STIs<\/a>&nbsp;na chael&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/parchu-ffiniau-deall-caniatad\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">caniat\u00e2d<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae rhyw \u2018heteronormative\u2019 yn tueddu bod yn fwy cyffredin mewn porn. Mae hwn yn ryw pidyn-mewn-fagina gyda\u2019r pleser, ran amlaf, i\u2019r person sydd yn berchen ar y pidyn. Mewn gwirionedd, mae yna sawl ffordd i gael rhyw ble mae pawb sy\u2019n cymryd rhan yn gallu teimlo\u2019n dda. Mae\u2019n bwysig gwybod bod porn wedi\u2019i selio ar ddyheadau a ffantas\u00efau rhywiol sydd yn gwneud arian. Nid yw hyn yn cynrychioli\u2019r ffordd mae pawb eisiau cael rhyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel arfer, nid yw porn yn dangos gwirionedd rhyw go iawn, fel chwerthin yng nghanol rhyw, angen diod, neu\u2019n stopio i bipi. Mae actorion pornograffi yn tueddu bod yn si\u00e2p a maint penodol, fel gwasg bach, bronnau mawr, cyhyrau, pidyn anferth a chyrff di-wallt. Mae rhai actorion porn yn cael llawdriniaeth i gael golwg penodol neu\u2019n llyncu tabledi i berfformio\u2019n well neu gadw min (erection) yn hirach. Ym mywyd go iawn, nid cyrff fel hyn sydd gan y mwyafrif ohonom. Gall hyn achosi rhywun i deimlo&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/swildod-delwedd-y-corff-mewn-perthynas\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cywilydd neu\u2019n nerfus i gael rhyw.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Deepfake<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae rhai pobl yn creu porn wrth ddefnyddio AI (deallusrwydd artiffisial). Gall hyn gynnwys rhoi wyneb rhywun enwog ar gorff rhywun arall. Mae\u2019n edrych fel mai nhw sydd yn y porn. Gelwir y math yma o fideo yn&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/bitesize\/articles\/zkrmmfr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">deepfake<\/a>&nbsp;a gall fod anodd deall beth sy\u2019n wir neu beidio. Gall y math yma o porn achosi pryder gan fod posib defnyddio unrhyw lun sydd ar y rhyngrwyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-full is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"168\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/thenextepisode.jpg\" alt=\"the next episode podcast logo\" class=\"wp-image-6973\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/sounds\/play\/p07cw48y\">The Future of Revenge Porn<\/a> &#8211; <em>This BBC Sounds audio is intended for over 16&#8217;s. <\/em><br><em>Contains some strong language and explicit sexual scenes and scenes some listeners may find upsetting.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Peryglon gwylio gormod o porn<\/h3>\n\n\n\n<p>Gall gwylio gormod o porn ddechrau cael effaith ar y ffordd rwyt ti\u2019n meddwl a theimlo, gan achosi niwed i dy iechyd corfforol a meddyliol. Gad i ni edrych ar ychydig o\u2019r peryglon o wylio porn:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Barn ar ddelwedd y corff<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gwylio porn yn gallu cael effaith ar y ffordd rwyt ti\u2019n teimlo am gorff dy hun, yn gwneud i ti feddwl bod ffordd benodol o edrych. Efallai dy fod di\u2019n cymharu dy hun i\u2019r bobl yn y fideos ac yn anhapus gyda dy edrychiad. Gall hyn wneud i ti fod eisiau newid dy edrychiad wrth ymarfer y corff yn ormodol, peidio bwyta, neu dynnu blew cedor (pubic hair) i edrych fel yr actorion porn. Efallai byddi di\u2019n&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/swildod-delwedd-y-corff-mewn-perthynas\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">dechrau teimlo\u2019n hunanymwybodol am dy genitalia&nbsp;<\/a>ac yn teimlo cywilydd i ddangos dy gorff.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n gallu effeithio dy farn di o eraill hefyd, a gwneud i ti deimlo\u2019n wahanol am y pethau sy\u2019n denu ti. Efallai byddi di\u2019n dechrau barnu pobl am nad ydynt yn edrych fel y bobl mewn fideos porn. Rwyt ti\u2019n cymharu\u2019r actorion porn i\u2019r bobl yn dy fywyd, ond nid yw\u2019r mwyafrif o bobl yn edrych fel hyn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Dibyniaeth<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae rhai pobl yn dechrau dibynnu ar bornograffi ac eisiau gwylio porn trwy\u2019r adeg. Dyma\u2019r unig beth allant feddwl amdano, yn tynnu sylw ac yn cael effaith ar eu gwaith a\u2019u perthnasau.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes rhaid i ti wylio mwy a mwy o porn i deimlo\u2019n rhywiol ac rwyt ti\u2019n cael trafferth canolbwyntio, yna efallai bod gen ti ddibyniaeth porn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Disgwyliadau afrealistig<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gweld y ffordd mae pobl yn bihafio neu\u2019n cael eu trin mewn fideos pornograffi yn gallu arwain at rywun yn disgwyl i\u2019w partner ymddwyn yn yr un ffordd. Mae\u2019n rhoi disgwyliadau afrealistig o ryw a gall arwain i ti deimlo\u2019n anfodlon a gwneud i dy bartner deimlo dan bwysau, cywilydd, neu fel nad ydynt yn ddigon. Anaml y mae pobl yn ymddwyn fel y maent mewn fideos porn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Secstio, gyrru noethluniau a phorn dial<\/h4>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid i ti wylio llawer o porn i gael dy ddal ym mheryglon y byd ar-lein. Gall rhai pethau fod yn &nbsp;gynnwys pornograffig heb i ti sylwi.<\/p>\n\n\n\n<p>Secstio ydy pan rwyt ti\u2019n rhannu cynnwys rhywiol fel negeseuon, nodiadau sain, lluniau a fideos gyda rhywun, pa un ai wyt ti\u2019n eu hadnabod neu beidio. Mae cynnwys rhywiol yn cynnwys lluniau hollol noeth, rhannol noeth, a siarad neu wneud gweithred rywiol. Cer i edrych ar ein blog&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/perthynas-ddigidol-cadwn-ddiogel-secstio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Perthynas Ddigidol: Cadw Dy Hun Yn Ddiogel Wrth Secstio<\/a>&nbsp;i ddarganfod y gyfraith os yw rhywun dan 18 oed neu heb&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/parchu-ffiniau-deall-caniatad\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ganiat\u00e2d<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl ifanc dan 18 sydd yn poeni bod llun neu fideo rhywiol ohonynt wedi ei rannu ar-lein yn gallu defnyddio\u2019r&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.childline.org.uk\/remove\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">teclyn Report Remove<\/a>&nbsp;i\u2019w ddileu o\u2019r rhyngrwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n ddioddefwr porn dial ac rwyt ti dros 18 oed, cysyllta \u00e2\u2019r Llinell Gymorth Revenge Porn. Mae hyn yn cynnwys Deepfakes.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Report Remove: removing nude images online\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/SwSpo3N6CeE?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth bellach a chymorth<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau<\/a><\/strong>\u00a0\u2013 ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/bullying-abuse-safety\/online-mobile-safety\/report-remove\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Report Remove<\/strong><\/a><strong>\u00a0<\/strong>\u2013 teclyn i helpu pobl ifanc dan 18 i adrodd lluniau a fideos rhywiol ohonynt a chael tynnu nhw o\u2019r rhyngrwyd<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.thinkuknow.co.uk\/11_18\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>ThinkUKnow<\/strong><\/a><strong>\u00a0<\/strong>\u2013 gwybodaeth gan CEOP am amddiffyn dy hun ar-lein ac oddi ar y rhyngrwyd, gan gynnwys Perthnasau, Cymdeithasu Ar-lein, Diogelwch Ar-lein, Noethluniau, Rhyw a Chynnwys Rhywiol Ar-lein, a Chamdriniaeth Rywiol<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/revengepornhelpline.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Llinell Gymorth Porn Dial<\/strong><\/a>\u00a0\u2013 cefnogi dioddefwyr porn dial dros 18 oed<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.brook.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Brook<\/a>\u00a0<\/strong>\u2013 elusen yn cynnig cymorth iechyd a lles rhyw<\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/bitesize\/articles\/zkrmmfr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>What are deepfakes and how do they work?<\/strong><\/a><strong>\u00a0<\/strong>\u2013 BBC Bitesize<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/reportharmfulcontent.com\/child\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Report Harmful Content<\/a>\u00a0<\/strong>\u2013 yn helpu ti i adrodd cynnwys niweidiol rwyt ti wedi gweld ar-lein, gan gynnwys cyfathrebu rhwiol neu gynnwys pornograffig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Siarad \u00e2 Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n teimlo fel bod pornograffi yn cael effaith ar dy iechyd meddyliol a chorfforol, chwilia am gymorth gan oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Meic yw\u2019r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae\u2019n gyfrinachol ac am ddim. Mae\u2019r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ff\u00f4n, neges testun neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">sgwrs ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019n naturiol i ti fod eisiau gwybod mwy am gyrff pobl eraill a rhyw. Mae rhai pobl yn hoffi gwylio pornograffi i ddysgu mwy a deall beth maent yn hoffi\u2019n rhywiol. Mae yna rai sydd heb diddordeb nac mwynhad ohono. Beth bynnag dy farn di am porn, mae\u2019n syniad deall y ffeithiau, y peryglon a\u2019r [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4326,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1659,1689],"tags":[3445,3369,3446,3350,3352,3447,3448,3341,3449,3450,3451],"class_list":["post-6969","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-diogelwch-ar-lein","category-rhyw","tag-deepfake-2","tag-delwedd-corff","tag-dibyniaeth-porn","tag-dim-cywilydd-dim-cyfrinach","tag-dimcywilydddimcyfrinach","tag-iechyd-rhyw","tag-noethluniau","tag-noshamenosecrets-cy","tag-peryglon-porn","tag-porn-2","tag-pornograffi"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae&#039;n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#039;n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-06-05T06:05:48+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-12T14:55:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:05:48+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T14:55:33+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\"},\"wordCount\":1834,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg\",\"keywords\":[\"deepfake\",\"delwedd corff\",\"dibyniaeth porn\",\"Dim Cywilydd Dim Cyfrinach\",\"DimCywilyddDimCyfrinach\",\"iechyd rhyw\",\"noethluniau\",\"NoShameNoSecrets\",\"peryglon porn\",\"Porn\",\"pornograffi\"],\"articleSection\":[\"Diogelwch Ar-lein\",\"Rhyw\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\",\"name\":\"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:05:48+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T14:55:33+00:00\",\"description\":\"Mae'n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic","description":"Mae'n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic","og_description":"Mae'n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2023-06-05T06:05:48+00:00","article_modified_time":"2025-11-12T14:55:33+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn","datePublished":"2023-06-05T06:05:48+00:00","dateModified":"2025-11-12T14:55:33+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/"},"wordCount":1834,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg","keywords":["deepfake","delwedd corff","dibyniaeth porn","Dim Cywilydd Dim Cyfrinach","DimCywilyddDimCyfrinach","iechyd rhyw","noethluniau","NoShameNoSecrets","peryglon porn","Porn","pornograffi"],"articleSection":["Diogelwch Ar-lein","Rhyw"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/","name":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg","datePublished":"2023-06-05T06:05:48+00:00","dateModified":"2025-11-12T14:55:33+00:00","description":"Mae'n naturiol i fod eisiau gwybod mwy am rhyw. Beth bynnag dy farn am porn, gwell deall y ffeithiau, peryglon a buddiannau.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/vlogger-making-sport-tutorials-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/pethau-rwyt-ti-angen-gwybod-am-porn\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pethau Rwyt Ti Angen Gwybod Am Porn"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6969","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6969"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6969\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6977,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6969\/revisions\/6977"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4326"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6969"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6969"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6969"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}