{"id":6967,"date":"2023-06-05T07:00:03","date_gmt":"2023-06-05T06:00:03","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=6967"},"modified":"2025-11-12T14:42:55","modified_gmt":"2025-11-12T14:42:55","slug":"atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/","title":{"rendered":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Os wyt ti\u2019n cael rhyw, neu\u2019n bwriadu cael rhyw, mae\u2019n bwysig sicrhau dy fod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu. Er mai condomau yw\u2019r unig ffordd i amddiffyn rhag STIs, mae llawer o ddewisiadau sydd yn amddiffyn rhag beichiogrwydd. Dysga fwy am hyn a gwna\u2019r dewis cywir i ti.<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><em>RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yn y blog yma yn anaddas i rai o\u2019n darllenwyr iau<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-center\"><em>Mae\u2019r blog yma yn rhan o\u2019r ymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau \u2013 Iechyd a Lles Rhyw, ble edrychwn ar sawl elfen o gadw dy hun yn iach ac yn ddiogel o ran rhyw.&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\/\">Mae dolenni i holl flogiau\u2019r ymgyrch yma<\/a>, a dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (gweler gwaelod y blog) i wylio ychydig o fideos hwyl.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pam bod atal cenhedlu yn bwysig?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad wyt ti a dy bartner yn barod i gael babi, mae defnyddio dulliau atal cenhedlu yn helpu ti i beidio disgyn yn feichiog. Mae\u2019n bosib cael rhyw o hyd, ond bydd llai o risg o fod yn feichiog (nid oes yr un dull 100% yn effeithiol).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna lawer o opsiynau, a gall fod yn anodd dewis pa un sy\u2019n iawn i ti. Bydd y blog yma yn rhoi gwell dealltwriaeth i ti o\u2019r gwahanol ddulliau, ond awgrymir i ti siarad am yr opsiynau gyda doctor neu glinig iechyd rhywiol cyn gwneud y dewis.<\/p>\n\n\n\n<p>Defnyddio condomau yw\u2019r unig ddull atal cenhedlu sydd hefyd yn amddiffyn rhag STIs. Os wyt ti\u2019n cael rhyw gyda gwahanol bobl heb gondom, mae&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/canllaw-coslyd-sti-a-phrofi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cael prawf STI rheolaidd<\/a>&nbsp;yn syniad da.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/close-up-jeans-pocket-with-wrapped-condom.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/close-up-jeans-pocket-with-wrapped-condom-150x150.jpg\" alt=\"Condom in packet in pocket for contraception blog\" class=\"wp-image-6388\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Condomau<\/h3>\n\n\n\n<p><em>98% yn effeithiol os defnyddir yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae condom yn orchudd tenau sy\u2019n ymestyn ac yn cael ei wisgo rhan amlaf dros y pidyn yn ystod rhyw. Mae yna hefyd gondomau i\u2019r fagina sy\u2019n cael eu gosod i mewn yn y fagina cyn rhyw. Maent yn creu rhwystr rhwng y pidyn a\u2019r fagina, gan atal sberm rhag cyrraedd yr wy.<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid dilyn y cyfarwyddiadau yn gywir. Os nad yw\u2019n cael ei rolio\u2019n iawn, neu digon o le yn cael ei adael yn y pen, neu ddefnyddio condomau hen, gall gynyddu\u2019r risg o dorri neu lithro i ffwrdd. Dim ond unwaith y gellir defnyddio condomau. Ni ddylid byth ddefnyddio mwy nag un ar y tro.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae condomau hefyd yn helpu i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/canllaw-coslyd-sti-a-phrofi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">amddiffyn rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol<\/a>&nbsp;(STIs).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae condom yn fach ac yn gynnil i\u2019w gario. Ceir gwahanol faint, teimlad, deunydd a blas hefyd, felly os yw rhywun yn cwyno bod gwisgo condom yn lleihau\u2019r teimlad yn ystod rhyw, dylent roi cynnig ar rai gwahanol i ddod o hyd i\u2019r maint a\u2019r teimlad cywir iddyn nhw. Mae opsiynau heb latecs hefyd os oes gan rywun alergedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir prynu condomau yn y mwyafrif o archfarchnadoedd a fferyllfeydd, neu os wyt ti o dan 25, mae posib cael rhai am ddim trwy\u2019r cynllun<a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/localservices\/viewlocalservice.aspx?id=35615&amp;locale=cy&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">&nbsp;Cerdyn-C.<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/birth-control-pill-with-date-calendar-background-health-care-medicine-concept-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/birth-control-pill-with-date-calendar-background-health-care-medicine-concept-150x150.jpg\" alt=\"contraception - birth control pill with date of calendar background \" class=\"wp-image-6392\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pilsen atal cenhedlu<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol os defnyddir yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bilsen atal cenhedlu, neu\u2019r \u2018bilsen\u2019, yn cael ei lyncu. Mae\u2019n cynnwys hormonau, gan gynnwys estrogen a progestin ac mae\u2019n atal beichiogrwydd wrth:<\/p>\n\n\n\n<p>Atal wy rhag cael ei ryddhau bob mis (ofyliad). Dim wy = dim beichiogrwydd<\/p>\n\n\n\n<p>Teneuo leinin y groth fel bod wy wedi\u2019i ffrwythloni yn llai tebygol o fewnblannu a thyfu<\/p>\n\n\n\n<p>Twchu mwcws ceg y groth sy\u2019n ei gwneud yn anoddach i sberm nofio drwy\u2019r serfics i gyrraedd yr wy<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd doctor yn rhoi asesiad i weld os yw\u2019r bilsen yn addas i ti. Mae yna wahanol fathau ar gael, gan gynnwys y bilsen fini a\u2019r bilsen gyfun. Os nad yw un yn addas, yna fedri di roi cynnig ar un arall.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i ti gymryd y bilsen am yr un amser bob dydd. Gall hyn fod yn anodd i bobl gyda bywydau prysur neu gyda thrafferth cofio.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes rhaid bod yn actif yn rhywiol i gael budd o\u2019r bilsen gan fod llawer o fanteision eraill hefyd:<\/p>\n\n\n\n<p>helpu gyda symptomau PMS fel poen, chwyddo a bod yn flin<\/p>\n\n\n\n<p>posib y gall helpu i reoli acne neu dyfiant gwallt gormodol<\/p>\n\n\n\n<p>gall rheoli\u2019r misglwyf os ydynt yn afreolaidd<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys teimlo\u2019n s\u00e2l, bronnau\u2019n brifo, cur pen a newidiadau mewn hwyliau. Bydd hyn yn gwella dros amser, ond os ddim, cysyllta \u00e2\u2019r doctor.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/458738-PFWZHQ-65.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/458738-PFWZHQ-65-150x150.jpg\" alt=\"Emergency red light flashing\n\" class=\"wp-image-6397\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pilsen atal cenhedlu brys<\/h3>\n\n\n\n<p>Neu\u2019r bilsen fore wedyn (er mae gen ti ychydig mwy o amser i\u2019w gymryd). Mae\u2019n atal beichiogrwydd ar \u00f4l rhyw heb amddiffyniad neu os yw condom yn rhwygo. Mae\u2019r bilsen yma i&nbsp;<strong>atal<\/strong>&nbsp;beichiogrwydd \u2013 os wyt ti\u2019n feichiog yn barod, ni fydd yn achosi i ti golli\u2019r babi.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir cymryd hwn o fewn 3 i 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Gorau po gyntaf \u2013 paid disgwyl. Os wyt ti\u2019n chwydu o fewn ychydig oriau o gymryd y bilsen, bydd rhaid dychwelyd a\u2019i gymryd eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gael am ddim (hyd yn oed os wyt ti dan 16) mewn clinigau iechyd rhywiol (GUM) neu unedau anafiadau m\u00e2n, neu mewn rhai meddygfeydd, clinigau pobl ifanc, fferyllfeydd, neu A&amp;E. Os wyt ti dros 16 oed, mae posib prynu yn y mwyafrif o fferyllfeydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys teimlo\u2019n s\u00e2l neu chwydu, bronnau\u2019n brifo a newidiadau yn y mislif, ond fel arfer dros dro yw hyn ac nid yw\u2019n rhy ddrwg.<\/p>\n\n\n\n<p>Dim ond mewn argyfwng dylid ei ddefnyddio, nid fel dewis rheolaidd i atal beichiogrwydd. Os wyt ti\u2019n cael rhyw ac eisiau osgoi beichiogrwydd, defnyddia ddulliau atal cenhedlu rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/doctor-holding-tshaped-intrauterine-birth-control-device-yellow-background-closeup-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/doctor-holding-tshaped-intrauterine-birth-control-device-yellow-background-closeup-150x150.jpg\" alt=\"Doctor holding T-shaped intrauterine birth control device - contraception\" class=\"wp-image-6393\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Coil neu IUD<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Dyfais si\u00e2p T sy\u2019n cael ei osod yn y groth drwy\u2019r fagina. Mae\u2019n ddiogel, cyflym, syml ac yn cael ei osod yn y feddygfa neu glinig fel arfer. Mae\u2019n gallu bod yn anghyfforddus ac achosi crampiau, ond dros dro yw hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r coil yn amddiffyn rhag beichiogrwydd am 3-10 mlynedd, yn dibynnu ar y math. Golygai hyn nad oes rhaid i ti boeni am gofio cymryd neu ddefnyddio atal cenhedlu fel arall.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Coil gyda hormonau<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn twchu mwcws serfigol ceg y groth ac yn teneuo leinin y groth, fel ei bod yn anodd i sberm gyrraedd a ffrwythloni\u2019r wy, neu\u2019r wy mewnblannu yn y groth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Coil heb hormonau<\/h4>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i wneud o gopr, mae\u2019n gweithio wrth greu amgylchedd sy\u2019n wenwynig i sberm.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys newid yn y mislif, gan gynnwys mislif trymach a hirach, gwaedu ysgafn rhwng y mislif, neu waedu afreolaidd. Mae yna hefyd berygl y gallai ddod yn rhydd yn y groth, felly mae angen archwiliadau rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib tynnu\u2019r coil, ac fe ddylai popeth fynd yn \u00f4l i normal.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir dewis cael ffitio IUD fel atal cenhedlu brys hefyd o fewn 5 diwrnod o gael rhyw heb amddiffyniad. Mae posib cadw hwn i mewn wedyn a\u2019i ddefnyddio fel dy ddull atal cenhedlu arferol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4337849.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4337849-150x150.jpg\" alt=\"contraceptive implant\" class=\"wp-image-6402\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mewnblaniad atal cenhedlu<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mewnblaniad atal cenhedlu yn wialen fach sy\u2019n cael ei osod o dan groen y fraich yn ystod triniaeth feddygol fer (gall hyn fod yn anghyfforddus ac yn boenus, ond dros dro yn unig yw hyn). Mae\u2019n rhyddhau\u2019r hormon progestin sy\u2019n helpu i atal beichiogrwydd am sawl blwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r mewnblaniad yn stopio beichiogrwydd trwy atal ofyliad, twchu mwcws ceg y groth a theneuo leinin y groth.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys gwaedu afreolaidd, sbotio, neu dim mislif o gwbl, cur pen teimlo\u2019n s\u00e2l a bronnau poenus.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib tynnu\u2019r mewnblaniad, ac fe ddylai popeth fynd yn \u00f4l i normal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/white-patch-stuck-shoulder-after-flu-vaccination-closeup-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/white-patch-stuck-shoulder-after-flu-vaccination-closeup-150x150.jpg\" alt=\"Patch on arm contracpetion\" class=\"wp-image-6394\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Patsh Atal Cenhedlu<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol os defnyddir yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Patsh bach, tenau sy\u2019n glynu i\u2019r croen i ryddhau hormonau sy\u2019n atal beichiogrwydd. Mae\u2019n cael ei newid yn wythnosol a gellir ei guddio mewn mannau llai gweladwy fel y pen \u00f4l, y stumog neu dop y fraich.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys teimlo\u2019n s\u00e2l, blinder, bronnau poenus a chur pen. Efallai na fydd yn addas i bawb, fel pobl sydd \u00e2 chroen sensitif, sy\u2019n nofio neu\u2019n chwysu lot.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae manteision ychwanegol yn cynnwys mislif mwy rheolaidd, ysgafnach, byrrach a llai poenus.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/covid-still-life-with-vaccine-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/covid-still-life-with-vaccine-150x150.jpg\" alt=\"contraceptive injection\" class=\"wp-image-6404\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pigiad Atal Cenhedlu<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae hormonau\u2019n cael eu rhoi yn y corff gyda phigiad bob 8-13 wythnos i amddiffyn rhag beichiogrwydd. Mae\u2019n atal ofyliad, yn twchu mwcws ceg y groth ac yn teneuo leinin y groth.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall sg\u00eel-effaith gynnwys newidiadau yn y cylchred mislif, mislif afreolaidd, trymach neu ysgafnach neu dim mislif o gwbl.<\/p>\n\n\n\n<p>Os wyt ti\u2019n penderfynu dy fod di eisiau babi yn y dyfodol, mae posib stopio\u2019r pigiad, ond&nbsp; gall gymryd hyd at flwyddyn i bopeth fynd yn \u00f4l i normal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/OM6UUW0.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/OM6UUW0-150x150.jpg\" alt=\"diaphragm contraception\" class=\"wp-image-6403\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diaffram a Chap Serfigol<\/h3>\n\n\n\n<p><em>92-96% yn effeithiol os defnyddir yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Darn o silicon neu latecs crwn yw hwn, sy\u2019n cael ei osod yn y fagina cyn cael rhyw, gan greu rhwystr i\u2019r serfics (agoriad i\u2019r groth) ac atal sberm rhag mynd i mewn. Mae angen defnyddio sbermleiddiad (gel, hufen neu ewyn sy\u2019n lladd sberm) ar y diaffram neu\u2019r cap a thu mewn i\u2019r fagina cyn ei ddefnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i weithiwr gofal iechyd proffesiynol dy ffitio ar gyfer diaffram neu gap, gan fod yn rhaid iddo fod y maint cywir a rhaid dangos sut i\u2019w osod yn iawn i sicrhau bod ceg y groth wedi\u2019i orchuddio\u2019n llwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid gadael hwn i mewn am 6-8 awr ar \u00f4l rhyw er mwyn iddo weithio. Yn wahanol i gondom, mae\u2019r diaffram a\u2019r cap ceg y groth yn ddull atal cenhedlu rhwystr y gellir ei ailddefnyddio a all bara ychydig flynyddoedd os caiff ei lanhau\u2019n iawn, ei sychu, a\u2019i gadw\u2019n ddiogel bob tro mae\u2019n cael ei ddefnyddio. Ond, yn wahanol i gondom, ni all diaffram neu gap serfigol atal STIs.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4338967.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4338967-150x150.jpg\" alt=\"cartoon calendar with blood spots on dates and period products all around\" class=\"wp-image-6396\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dulliau Ymwybyddiaeth o Ffrwythlondeb<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Hyd at 99% yn effeithiol os caiff ei wneud yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae dulliau ymwybyddiaeth ffrwythlondeb (dulliau rhythm neu gynllunio teulu naturiol) yn dechneg lle mae pobl yn tracio\u2019r cylchred mislif i ddeall y dyddiau pan fyddant fwyaf ffrwythlon er mwyn osgoi rhyw heb amddiffyniad.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl sy\u2019n defnyddio\u2019r dull yma yn deall bod dau brif gam \u2013 cyn ac ar \u00f4l ofyliad. Wrth dracio hyn, drwy ddarllen tymheredd y corff ar orffwys bob bore a monitro lefel y mwcws o\u2019r serfics, gellir gwybod ble maent yn eu cylchred misol. Gellir defnyddio apiau i gadw golwg ar y wybodaeth yma hefyd a helpu ti i ragweld y dyddiau mwyaf ffrwythlon (pan fyddi di\u2019n fwy tebygol i ddod yn feichiog).<\/p>\n\n\n\n<p>Rhaid gwneud hyn yn gyson ac yn gywir os yw\u2019r dull yma yn mynd i fod yn llwyddiannus. Mae\u2019n rhad ac am ddim ac nid yw\u2019n cynnwys hormonau, offer allanol na meddyginiaeth, ond gall fod yn llai dibynadwy i bobl \u00e2 misglwyf afreolaidd neu\u2019r rhai sydd heb amser neu drefn i dracio\u2019r cylchred mislif yn gywir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-resized is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/anesthesiologist-keeping-track-vital-functions-body-during-cardiac-surgery-surgeon-looking-medical-monitor-during-surgery-doctor-checking-monitor-patient-health-status-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/anesthesiologist-keeping-track-vital-functions-body-during-cardiac-surgery-surgeon-looking-medical-monitor-during-surgery-doctor-checking-monitor-patient-health-status-150x150.jpg\" alt=\"Surgeon looking at medical monitor during surgery\" class=\"wp-image-6401\" style=\"width:150px;height:auto\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sterileiddio<\/h3>\n\n\n\n<p><em>Dros 99% yn effeithiol<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae sterileiddio yn fath o atal cenhedlu sydd angen llawdriniaeth. Rhaid i ti fod yn sicr nad wyt ti eisiau plant biolegol yn y dyfodol, gan fod hwn yn ateb parhaol. Mae opsiynau lle gellir rhoi pethau yn \u00f4l fel yr oedd cynt, ond gallant fod yn ddrud ac nid oes gwarant o lwyddiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sterileiddio benywaidd yn golygu rhwystro neu selio\u2019r tiwbiau ffalopaidd. Dyma\u2019r tiwbiau y mae\u2019r wyau\u2019n teithio drwyddynt i gyrraedd y groth yn ystod ofyliad. Mae hyn yn golygu na all y sberm gyrraedd yr wy, gan atal beichiogrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae sterileiddio gwrywaidd, gelwir yn fasectomi, yn golygu torri neu rwystro\u2019r fas deferens (y tiwbiau sy\u2019n symud y sberm o\u2019r ceilliau i\u2019r pidyn). Trwy atal yr alldafliad (ejaculation) yn ystod rhyw, mae\u2019n atal beichiogrwydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae risgiau\u2019n cynnwys gwaedu a haint, fel y byddai gydag unrhyw lawdriniaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-thumbnail is-style-rounded\"><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/wp-content\/uploads\/2023\/06\/7527-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/7527-150x150.jpg\" alt=\"Black champagne bottle explosion with cork and splashes \" class=\"wp-image-6400\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Tynnu allan<\/h3>\n\n\n\n<p><em>80% yn effeithiol os gwneir yn gywir<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fydd y pidyn yn cael ei dynnu allan cyn alldafliad (ejaculation) fel nad yw sberm yn mynd i mewn i\u2019r fagina. Dyma\u2019r dull atal cenhedlu lleiaf effeithiol a gall fod yn annibynadwy iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn oed cyn alldafliad, mae\u2019r pidyn yn gollwng ychydig o hylif cyn-alldaflu, gelwir yn \u2018pre-cum\u2019 yn aml, ac mae hwn yn gallu cynnwys sberm. Gall yr ychydig bach yma arwain at feichiogrwydd os yw\u2019n mynd i mewn i\u2019r fagina, felly nid yw dibynnu ar dynnu allan i atal beichiogrwydd yn gweithio\u2019n effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n gallu bod yn anodd rheoli hyn, mae angen llawer o ymarfer a hunanymwybyddiaeth, a hyd yn oed wedyn, gall ffaelu. Mae angen i ti hefyd fod a&nbsp; ffydd lwyr yn y person arall os nad chdi yw\u2019r un gyda\u2019r pidyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod hwn yn anodd iawn i ddibynnu arno, awgrymir i ti ystyried un o\u2019r dulliau atal cenhedlu mwy effeithiol a dibynadwy uchod.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><strong>Paid anghofio. Defnyddio condomau yw\u2019r unig ddull atal cenhedlu sydd hefyd yn amddiffyn rhag STIs. Os wyt ti\u2019n cael rhyw gyda gwahanol bobl heb gondom, mae\u00a0<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/canllaw-coslyd-sti-a-phrofi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cael prawf STI rheolaidd\u00a0<\/a>yn syniad da.<\/strong><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth a Chymorth Pellach<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/dimcywilydddimcyfrinachau-iechyd-a-lles-rhyw\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau<\/a><\/strong>\u00a0\u2013 ymgyrch iechyd rhyw Meic gyda llawer o wybodaeth am iechyd a lles rhyw, gan gynnwys gwahanol ddulliau atal cenhedlu, adnabod a thrin STIs, a porn.<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/contraception\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">GIG Eich Canllaw Atal Cenhedlu<\/a><\/strong>\u00a0\u2013 dulliau atal cenhedlu sydd orau i ti ac sy\u2019n mynd i\u2019r afael ag unrhyw bryderon neu gwestiynau<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.brook.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Brook<\/a>\u00a0<\/strong>\u2013 gwasanaeth iechyd rhywiol, addysg a lles i bobl ifanc.<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/111.wales.nhs.uk\/Sexualhealthclinics\/?locale=cy&amp;term=A\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Clinigau Iechyd Rhywiol<\/strong><\/a>\u00a0<\/strong>\u2013 GIG Cymru \u2013 gwybodaeth am wneud apwyntiad, sut mae\u2019n gweithio, beth sy\u2019n digwydd, a chael y canlyniadau<\/li>\n\n\n\n<li><strong><a href=\"https:\/\/www.ircymru.online\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><strong>Iechyd Rhywiol Cymru<\/strong><\/a><\/strong>\u00a0\u2013 gwybodaeth ar STIs, atal cenhedlu a phrofi<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Siarad \u00e2 Meic<\/h3>\n\n\n\n<p>Meic yw\u2019r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad \u00e2 rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae\u2019n gyfrinachol ac am ddim. Mae\u2019r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ff\u00f4n, neges testun neu&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/\">sgwrs ar-lein.<\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os wyt ti\u2019n cael rhyw, neu\u2019n bwriadu cael rhyw, mae\u2019n bwysig sicrhau dy fod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu. Er mai condomau yw\u2019r unig ffordd i amddiffyn rhag STIs, mae llawer o ddewisiadau sydd yn amddiffyn rhag beichiogrwydd. Dysga fwy am hyn a gwna\u2019r dewis cywir i ti. RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":4341,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1686,1689],"tags":[3339],"class_list":["post-6967","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-atal-cenhedlu","category-rhyw","tag-dimcywilydddimcyfrinachau-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Os wyt ti&#039;n cael rhyw, neu&#039;n bwriadu cael rhyw, mae&#039;n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia&#039;r blog yma i wneud y dewis cywir i ti\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os wyt ti&#039;n cael rhyw, neu&#039;n bwriadu cael rhyw, mae&#039;n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia&#039;r blog yma i wneud y dewis cywir i ti\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-06-05T06:00:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-12T14:42:55+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:00:03+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T14:42:55+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\"},\"wordCount\":2402,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg\",\"keywords\":[\"DimCywilyddDimCyfrinachau\"],\"articleSection\":[\"Atal Cenhedlu\",\"Rhyw\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\",\"name\":\"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg\",\"datePublished\":\"2023-06-05T06:00:03+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-12T14:42:55+00:00\",\"description\":\"Os wyt ti'n cael rhyw, neu'n bwriadu cael rhyw, mae'n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia'r blog yma i wneud y dewis cywir i ti\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg\",\"width\":2000,\"height\":2000},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic","description":"Os wyt ti'n cael rhyw, neu'n bwriadu cael rhyw, mae'n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia'r blog yma i wneud y dewis cywir i ti","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic","og_description":"Os wyt ti'n cael rhyw, neu'n bwriadu cael rhyw, mae'n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia'r blog yma i wneud y dewis cywir i ti","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2023-06-05T06:00:03+00:00","article_modified_time":"2025-11-12T14:42:55+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":2000,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti","datePublished":"2023-06-05T06:00:03+00:00","dateModified":"2025-11-12T14:42:55+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/"},"wordCount":2402,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg","keywords":["DimCywilyddDimCyfrinachau"],"articleSection":["Atal Cenhedlu","Rhyw"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/","name":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg","datePublished":"2023-06-05T06:00:03+00:00","dateModified":"2025-11-12T14:42:55+00:00","description":"Os wyt ti'n cael rhyw, neu'n bwriadu cael rhyw, mae'n bwysig defnyddio dull atal cenhedlu. Defnyddia'r blog yma i wneud y dewis cywir i ti","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/4317579.jpg","width":2000,"height":2000},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/atal-cenhedlu-dewis-y-dull-gorau-i-ti\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Atal Cenhedlu: Dewis y Dull Gorau i Ti"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6967","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6967"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6967\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6968,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6967\/revisions\/6968"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4341"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6967"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6967"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6967"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}