{"id":6629,"date":"2020-08-04T15:04:05","date_gmt":"2020-08-04T14:04:05","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/2020\/08\/04\/grab-the-meic-a-bad-relationship-with-my-mum\/"},"modified":"2025-11-05T16:48:34","modified_gmt":"2025-11-05T16:48:34","slug":"codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/","title":{"rendered":"Coda&#8217;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae perthynas Efa gyda&#8217;i mam mor ddrwg fel ei bod yn meddwl am redeg i ffwrdd, ond mae wedi gofyn am gyngor Meic gyntaf. Dyma&#8217;n cyngor yn Coda&#8217;r Meic yr wythnos hon.<\/h2>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-center\"><em><em><em>Roedd Coda&#8217;r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda&#8217;r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta \u00e2\u2019r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.<\/em><\/em><\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Helo&nbsp;Meic,<\/h2>\n\n\n\n<p>Ers i fy rhieni wahanu mae mam wedi rhoi&#8217;r bai arnaf i am bopeth sydd yn mynd o&#8217;i le yn ei bywyd. Mae&#8217;r perthynas rhyngom yn mynd o waeth i waeth, a dwi ddim yn gwybod beth i wneud. Mae hi&#8217;n galw enwau arnaf ac yn gwneud i mi deimlo&#8217;n isel iawn. Dwi wedi ystyried rhedeg i ffwrdd a byw ar y strydoedd, gan y byddai hyn yn haws nag byw gyda mam. Yn aml byddaf yn gwaeddi ar y wal yn dychmygu mam yno, yn dweud y pethau rwy&#8217;n ofni dweud wrthi. Rydym yn ffraeo&#8217;n aml a dwi&#8217;n llwyddo tawelu fy hun wedyn, ond dwi&#8217;n ofni byddaf yn cerdded allan un diwrnod.<\/p>\n\n\n\n<p>Efa (*enw wedi\u2019i newid i amddiffyn y person)<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Helo Efa,<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n ddrwg gen i fod pethau yn ddrwg iawn i ti ar hyn o bryd. Mae&#8217;n ddigon anodd ymdopi gyda dy rieni yn gwahanu heb y straen ychwanegol o berthynas gwael rhyngot ti a dy fam.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid wyf yn esgusodi dy fam yn galw enwau arnat ti, neu&#8217;n rhoi&#8217;r bai arnat ti am bopeth sydd yn mynd o&#8217;i le yn ei bywyd, ond mae&#8217;n debyg bod diwedd ei pherthynas gyda dy dad wedi achosi straen ac yps\u00e9t mawr iddi. Efallai bod hyn yn egluro, ond nid yn esgusodi, ei hymddygiad. Efallai bod angen ychydig o gefnogaeth arni i&#8217;w helpu i oroesi&#8217;r cyfnod anodd yma.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/homeless-300x150.jpg\" alt=\"Closeup of woman sitting worried on the staircase for A Bad Relationship With My Mum article\" class=\"wp-image-3342\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Paid dianc, gweithia arno<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n debyg dy fod di&#8217;n teimlo&#8217;n isel iawn i feddwl bod rhedeg i ffwrdd a byw ar y stryd yn well opsiwn nag byw gyda dy fam ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae angen i bethau newid&nbsp; i ti, ond nid rhedeg i ffwrdd yw&#8217;r ateb. Nid yw&#8217;n ddiogel byw ar y stryd. Byddai hyn yn ddrwg i dy iechyd corfforol a meddyliol.<\/p>\n\n\n\n<p>Y peth gorau i&#8217;w wneud ydy gweithio tuag at wella&#8217;r perthynas gyda dy fam. Os nad wyt ti wedi rhoi tro ar hyn yn barod, fyddet ti&#8217;n gallu eistedd i lawr gyda dy fam pan fydd pethau yn ddistaw i ddweud yn union sut yr wyt ti&#8217;n teimlo? Os nad wyt ti&#8217;n credu gallet ti wneud hynny ar ben dy hun, beth am ofyn i rywun dy gefnogi i wneud hyn? Efallai gallet ti ofyn i fodryb, dy dad, nain neu daid neu ffrind teulu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/writing-letter-1-300x200.jpg\" alt=\"Student girl writing with a pencil in a notebook. View over the head. For A Bad Relationship With My Mum article\" class=\"wp-image-3344\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Nodi teimladau ar bapur<\/h3>\n\n\n\n<p>Opsiwn arall i&#8217;w ystyried ydy ysgrifennu llythyr i dy fam yn egluro popeth rwyt ti eisiau dweud wrthi. Gall fod yn anodd iawn dod o hyd i&#8217;r geiriau cywir pan rwyt ti angen dweud rhywbeth anodd i rywun wyneb i wyneb. Yn aml gallem deimlo&#8217;n ddryslyd, yn yps\u00e9t ac yn flin ac anghofio dweud rhai pethau, neu ddim yn cael y cyfle i ddweud. Weithiau efallai byddet ti&#8217;n dweud pethau rwyt ti&#8217;n ei ddifaru wedyn. Mae ysgrifennu popeth mewn llythyr yn golygu bod posib ysgrifennu cymaint o ddrafftiau ag yr hoffet. Pan fyddi di&#8217;n rhoi&#8217;r llythyr iddi, bydd yn nodi&#8217;n union yr hyn rwyt ti angen, yn y ffordd rwyt ti eisiau iddo swnio. Gallet ti ofyn i rywun am help gyda hyn hefyd os hoffet.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;n bwysig sylweddoli nad wyt ti ar ben dy hun yn hyn. Mae perthynas gyda rhieni yn rhywbeth mae sawl un yn cael trafferthion ag ef, am sawl rheswm. Nid yw hyn yn golygu nad ydych chi&#8217;n caru eich gilydd. Os wyt ti a dy fam yn gweithio ar eich perthynas yna mae&#8217;n debyg bydd pethau yn gwella i chi.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-medium is-style-rounded\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/17828-1-300x180.jpg\" alt=\"Illustration of social media concept for A Bad Relationship With My Mum article\" class=\"wp-image-3346\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth a chymorth pellach<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyma ychydig o erthyglau\/tudalennau gallai fod yn ddefnyddiol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/cyngor-i-rai-dan-18-os-nad-ywn-bosib-aros-gartref\/\">Cyngor i Rai Dan 18 Os Nad Yw&#8217;n Bosib Aros Gartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/cyngor-i-rai-dros-18-os-nad-ywn-bosib-aros-gartref\/\">Cyngor i Rai Dros 18 Os Nad Yw&#8217;n Bosib Aros Gartref<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/rhieni-gwahanu-dad-gadael\/\">Coda&#8217;r Meic: Rhieni&#8217;n Gwahanu a Dad Wedi Gadael<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/codar-meic-mam-a-dad-yn-ffraeo-o-hyd\/\">Coda&#8217;r Meic: Mam a Dad Yn Ffraeo o Hyd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.meiccymru.org\/cym\/sut-i-ymdopi-gyda-straen\/\">Sut i Ymdopi Gyda Straen<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/home-families\/family-relationships\/family-relationships\/\">Tudalen gwybodaeth Problemau Teuluol Childline<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.childline.org.uk\/info-advice\/home-families\/family-relationships\/running-away\/\">Tudalen gwybodaeth Rhedeg i Ffwrdd Childline<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Gobeithio bydd y cyngor uchod yn helpu, ond os wyt ti angen siarad neu dderbyn cyngor pellach yna mae ein cynghorwyr yn hapus i helpu. Cysyllta drwy alw, tecstio neu DM&#8217;io y llinell gymorth (manylion cyswllt isod). Rydym yn agored bob dydd o 8yb i hanner nos.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymera ofal<\/p>\n\n\n\n<p>Y T\u00eem Meic<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae perthynas Efa gyda&#8217;i mam mor ddrwg fel ei bod yn meddwl am redeg i ffwrdd, ond mae wedi gofyn am gyngor Meic gyntaf. Dyma&#8217;n cyngor yn Coda&#8217;r Meic yr wythnos hon. Roedd Coda&#8217;r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3594,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1649,20,33,1666],"tags":[2987,2978,1702,2348,1698,2985,2986,1700,1703,2984,2979,2453,2983,2989,2982],"class_list":["post-6629","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-codar-meic","category-family","category-grab-the-meic","category-teulu","tag-cam-drin-meddyliol","tag-conflict-cy","tag-cymorth","tag-cymru-2","tag-cyngor","tag-ffraeo","tag-gwrthdaro","tag-help-2","tag-llinell-gymorth","tag-mam","tag-mental-abuse-cy","tag-perthnasau","tag-rhedeg-i-ffwrdd","tag-rhieni","tag-runaway-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Coda&#039;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae perthynas Arian gyda&#039;i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma&#039;n cyngor iddi yn Coda&#039;r Meic yr wythnos hon.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Coda&#039;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae perthynas Arian gyda&#039;i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma&#039;n cyngor iddi yn Coda&#039;r Meic yr wythnos hon.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2020-08-04T14:04:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-05T16:48:34+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Alex\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Alex\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\"},\"author\":{\"name\":\"Alex\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\"},\"headline\":\"Coda&#8217;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam\",\"datePublished\":\"2020-08-04T14:04:05+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-05T16:48:34+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\"},\"wordCount\":859,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg\",\"keywords\":[\"cam-drin meddyliol\",\"conflict\",\"cymorth\",\"Cymru\",\"cyngor\",\"ffraeo\",\"gwrthdaro\",\"help\",\"llinell gymorth\",\"mam\",\"mental abuse\",\"perthnasau\",\"rhedeg i ffwrdd\",\"rhieni\",\"runaway\"],\"articleSection\":[\"Coda'r Meic\",\"Family\",\"Grab The Meic\",\"Teulu\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\",\"name\":\"Coda'r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg\",\"datePublished\":\"2020-08-04T14:04:05+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-05T16:48:34+00:00\",\"description\":\"Mae perthynas Arian gyda'i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma'n cyngor iddi yn Coda'r Meic yr wythnos hon.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1800},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Coda&#8217;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4\",\"name\":\"Alex\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Alex\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/meic.cymru\"],\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Coda'r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic","description":"Mae perthynas Arian gyda'i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma'n cyngor iddi yn Coda'r Meic yr wythnos hon.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Coda'r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic","og_description":"Mae perthynas Arian gyda'i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma'n cyngor iddi yn Coda'r Meic yr wythnos hon.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2020-08-04T14:04:05+00:00","article_modified_time":"2025-11-05T16:48:34+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1800,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Alex","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Alex","Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/"},"author":{"name":"Alex","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4"},"headline":"Coda&#8217;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam","datePublished":"2020-08-04T14:04:05+00:00","dateModified":"2025-11-05T16:48:34+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/"},"wordCount":859,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg","keywords":["cam-drin meddyliol","conflict","cymorth","Cymru","cyngor","ffraeo","gwrthdaro","help","llinell gymorth","mam","mental abuse","perthnasau","rhedeg i ffwrdd","rhieni","runaway"],"articleSection":["Coda'r Meic","Family","Grab The Meic","Teulu"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/","name":"Coda'r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam - Meic","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg","datePublished":"2020-08-04T14:04:05+00:00","dateModified":"2025-11-05T16:48:34+00:00","description":"Mae perthynas Arian gyda'i mam mor ddrwg fel ei bod yn ystyried rhedeg i ffwrdd. Dyma'n cyngor iddi yn Coda'r Meic yr wythnos hon.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/82501-scaled-1.jpg","width":2560,"height":1800},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2020\/08\/04\/codar-meic-perthynas-ddrwg-gyda-mam\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Coda&#8217;r Meic: Perthynas Ddrwg Gyda Mam"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/8cec3e1fd09eeb509b704c4c3a1b31a4","name":"Alex","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/378ae50ac0ecda447b0ce598752370de877d00aef9f2eb766bda8c70faf2264a?s=96&d=mm&r=g","caption":"Alex"},"sameAs":["https:\/\/meic.cymru"],"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/alex\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6629","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6629"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6629\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6631,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6629\/revisions\/6631"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3594"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6629"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6629"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6629"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}