{"id":10460,"date":"2026-10-29T15:07:27","date_gmt":"2026-10-29T15:07:27","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=10460"},"modified":"2026-10-29T15:07:27","modified_gmt":"2026-10-29T15:07:27","slug":"sobrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/","title":{"rendered":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis hwnnw yng nghwmni ffrindiau, mewn part\u00efon ac ym mywyd bob dydd.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw sobrwydd?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae sobrwydd yn golygu peidio yfed neu gymryd cyffuriau. Mae rhai pobl yn dewis bod yn sobr am gyfnod byr, fel mis o beidio yfed i <a href=\"https:\/\/www.soberoctober.org.uk\/\">Hydref Sobr<\/a> neu <a href=\"https:\/\/alcoholchange.org.uk\/cymraeg\">Ionawr Sych<\/a>, tra bod pobl eraill yn dewis bod yn sobr trwy\u2019r amser.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I rai pobl ifanc, mae yfed alcohol neu gymryd cyffuriau yn rhywbeth nad ydynt erioed wedi dechrau. I rai eraill, mae\u2019r penderfyniad yn dod ar \u00f4l sylwi bod eu defnydd o alcohol neu gyffuriau ddim yn iach iddynt.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-1024x576.png\" alt=\"Two teens drinks beer on a park bench\" class=\"wp-image-10446\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2-1-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pam bod pobl ifanc yn dewis sobrwydd<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pobl yn dewis bod yn sobr am lawer o resymau. I rai, maen nhw eisiau teimlo\u2019n fwy iach, cysgu\u2019n well, neu gael mwy o egni am chwaraeon, gwaith ysgol, neu ddiddordebau. Weithiau, mae pobl yn gweld yr effaith mae alcohol neu gyffuriau wedi\u2019i gael ar rywun sy\u2019n agos iddynt. Dyw rhai ddim yn hoffi sut mae\u2019n gwneud iddynt deimlo, neu mae\u2019n well ganddyn nhw arbed eu harian.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Iechyd yw\u2019r rheswm i rai pobl. Mae alcohol a chyffuriau yn gallu newid sut rwyt ti\u2019n meddwl, teimlo, ac yn bihafio. Os wyt ti\u2019n <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/06\/05\/canllaw-beichiogrwydd-yn-dy-arddegau\/\">feichiog<\/a>, y peth fwyaf diogel yw osgoi alcohol a chyffuriau yn gyfan gwbl, gallent achosi niwed i\u2019r babi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw rhai meddyginiaethau\u2019n cymysgu\u2019n dda gydag alcohol, gan gynnwys rhai gwrthfiotigau a chyffuriau gwrth-iselder. Mae cymryd y cyffuriau yma ac yfed yn gallu achosi i ti deimlo\u2019n s\u00e2l neu\u2019n atal y feddyginiaeth rhag gweithio\u2019n iawn. Os nad wyt ti\u2019n sicr os gallet ti yfed ar dy feddyginiaeth, gwiria\u2019r daflen sy\u2019n dod yn y pecyn neu gofynna i fferyllydd neu dy feddyg teulu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/crefydd\/\">crefydd<\/a> a <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/diwylliant\/\">diwylliant<\/a> fod yn rheswm hefyd. Mewn rhai crefyddau a chymunedau, nid yw alcohol a chyffuriau yn rhan o fywyd bob dydd, ac felly mae bod yn sobr yn teimlo\u2019n naturiol. Mae rhai pobl yn dewis sobrwydd am ei fod yn cyd-fynd \u00e2\u2019u gwerthoedd a\u2019r ffordd maen nhw eisiau byw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae niferoedd mwy o bobl ifanc ar draws y DU yn dewis yfed llai neu beidio yfed o gwbl. Felly, os wyt ti\u2019n ystyried hynny, dwyt ti ddim ar ben dy hun.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-1024x576.png\" alt=\"Four teen girls having a pizza party\" class=\"wp-image-10448\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/3-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Delio gyda cwestiynau a pwysau<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall delio gydag ymatebion pobl eraill fod yn un o\u2019r rhannau fwyaf anodd am fod yn sobr. Efallai bydd ffrindiau yn gofyn pam nad wyt ti\u2019n yfed, neu\u2019n ceisio dy berswadio i \u201cjest cael un\u201d.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau, mae pobl yn teimlo\u2019r pwysau fwy fyth pan maent yn mynd i ddigwyddiad lle mae\u2019n \u2018normal\u2019 i gymryd sylweddau, fel priodas, noson clwb, neu ddathliad fel penblwydd, <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s=peer+pressure+\">Nadolig<\/a>, neu Flwyddyn Newydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhan fwyaf o\u2019r amser, dydy pobl ddim yn ceisio bod yn gas. Efallai byddent wedi synnu, neu\u2019n teimlo ychydig yn anghyfforddus am eu dewisiadau nhw. Neu efallai eu bod nhw\u2019n awyddus i ti fwynhau dy hun, a ddim yn deall sut gallet ti fwynhau\u2019n sobr.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall helpu i baratoi ateb syml. Mae rhywbeth fel \u201cdwi ddim yn yfed heno\u201d neu \u201cdwi\u2019n iawn, diolch\u201d yn ddigon. Efallai byddai\u2019n haws dal diod feddal neu ddi-alcohol yn dy law fel bod llai o bobl yn gofyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw rhywun yn parhau i wthio ar \u00f4l i ti ddweud na, maen nhw\u2019n rhoi pwysau arnat, ac mae\u2019n iawn i gymryd cam i ffwrdd neu dreulio amser gyda phobl wahanol. Bydd ffrindiau go iawn yn parchu dy benderfyniad, hyd yn oed os ydynt yn gwneud un gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-1024x576.png\" alt=\"Ping pong ball splashing in a up after beer pong\" class=\"wp-image-10450\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/4-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cael hwyl heb alcohol a chyffuriau<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai pobl yn poeni bydd bod yn sobr yn golygu cael dy adael allan. Gall teimlo\u2019n rhyfedd i ddechrau, yn enwedig os yw yfed yn rhan fawr o sut mae dy ffrindiau yn cymdeithasu. Dros amser, mae lot o bobl yn ffeindio bod nhw\u2019n mwynhau cofio nosweithiau allan, yn deffro\u2019n teimlo\u2019n ffres, a chael sgyrsiau go iawn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallet ti awgrymu gweithgareddau sydd ddim yn ymwneud \u00e2 yfed, fel tripiau i\u2019r sinema, gigiau, chwaraeon, chwarae gemau, neu fynd am bryd o fwyd. Gallet ti hefyd ffeindio ffrindiau newydd trwy glybiau, <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/gwirfoddoli\/\">gwirfoddoli<\/a>, neu grwpiau gyda diddordebau ti\u2019n rhannu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-1024x576.png\" alt=\"Teen boy playing football in the park in a football kit\" class=\"wp-image-10452\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/5-1-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth yw\u2019r gyfraith?\u00a0<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn y DU, rhaid i ti fod yn 18 i brynu alcohol. Mae\u2019n anghyfreithlon i oedolyn brynu alcohol i ti os wyt ti o dan 18, a gall yr heddlu gymryd yr alcohol gen ti os wyt ti\u2019n yfed mewn mannau cyhoeddus. Mae cyffuriau megis canabis, coc\u00ean ac ecstasi yn anghyfreithlon beth bynnag yw dy oedran, a gall meddu neu rannu nhw arwain at drwbl difrifol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd yn oed os wyt ti wedi gwneud rhywbeth sydd yn erbyn y gyfraith, gallet ti dal cael cymorth. Mae gwasanaethau cymorth yna i wrando, nid i feirniadu neu achosi trwbl i ti. Byddent yn cadw&#8217;r hyn ti\u2019n ddweud yn breifat, er efallai bydd rhaid iddynt rannu gwybodaeth os ydyn nhw\u2019n poeni dy fod di neu rywun arall ddim yn ddiogel.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"2240\" height=\"1260\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-1024x576.png\" alt=\"Bottles of beer in an ice bucket\" class=\"wp-image-10454\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/6-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 2240px) 100vw, 2240px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Os wyt ti\u2019n ffeindio hi\u2019n anodd stopio<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti wedi bod yn yfed neu\u2019n <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2023\/11\/20\/cyffuriau-dibyniaeth-a-chael-help\/\">defnyddio cyffuriau ac eisiau stopio<\/a>, ond mae\u2019n anoddachnag oeddet ti\u2019n ei ddisgwyl, mae hynny\u2019n gyffredin. Mae\u2019n cymryd amser, ac efallai bydd rhwystrau ar hyd y ffordd, ond dalia ati!&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall siarad gyda rhywun wneud gwahaniaeth. Gall fod yn ffrind, aelod o\u2019r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu dy feddyg teulu. Yng Nghymru, mae <a href=\"https:\/\/dan247.org.uk\/cy\/hafan\/\">DAN 24\/7<\/a> yn llinell gymorth am ddim a chyfrinachol ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth neu gymorth am alcohol a chyffuriau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hefyd <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/dibyniaeth\/\">mwy o wybodaeth a gwasanaethau cymorth dibyniaeth<\/a> i\u2019w weld ar ein gwefan.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti\u2019n teimlo\u2019n s\u00e2l neu\u2019n anniogel wrth yfed neu gymryd cyffuriau, galwa 999 i gael cymorth ar unwaith.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-1024x576.png\" alt=\"Teen girl accessing support on her mobile phone\" class=\"wp-image-10456\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/7-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<div style=\"height:20px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Bydda\u2019n falch o dy benderfyniad<\/strong><br><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae bod yn sobr yn cymryd hyder, yn enwedig pan mae\u2019n teimlo fel bod pawb o\u2019th gwmpas yn gwneud dewisiadau gwahanol. Beth bynnag dy resymau, bydda\u2019n falch o dy hun am wneud dewis sy\u2019n teimlo\u2019n gywir i ti.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cofia, mae\u2019n iawn i ti newid dy feddwl. Cymera pethau un diwrnod ar y tro, a gofyn am gymorth pan fyddi di ei angen. Os hoffet ti siarad am bethau, mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\">Meic<\/a> yma i wrando a helpu ti i ddarganfod y cymorth iawn i ti.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis hwnnw yng nghwmni ffrindiau, mewn part\u00efon ac ym mywyd bob dydd. Beth yw sobrwydd? Mae sobrwydd yn golygu peidio yfed neu gymryd cyffuriau. Mae rhai pobl yn dewis bod yn sobr am gyfnod byr, fel mis [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":10445,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1680],"tags":[2591,5393,2787,2612,5402,5403,5394,5398,5400,5399,2624],"class_list":["post-10460","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-dibyniaeth","tag-alcohol-2","tag-alcohol-addiction","tag-cyffuriau","tag-dibyniaeth","tag-dibyniaeth-ar-alcohol","tag-dibyniaeth-ar-cyffuriau","tag-drug-addiction","tag-gor-yfed","tag-hydref-sobr","tag-ionawr-sych","tag-sobrwydd"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v28.7 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-10-29T15:07:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1260\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau\",\"datePublished\":\"2026-10-29T15:07:27+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/\"},\"wordCount\":1106,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/1-1.png\",\"keywords\":[\"alcohol\",\"Alcohol addiction\",\"cyffuriau\",\"dibyniaeth\",\"dibyniaeth ar alcohol\",\"dibyniaeth ar cyffuriau\",\"Drug addiction\",\"gor yfed\",\"Hydref Sobr\",\"Ionawr Sych\",\"Sobrwydd\"],\"articleSection\":[\"Dibyniaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/\",\"name\":\"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/1-1.png\",\"datePublished\":\"2026-10-29T15:07:27+00:00\",\"description\":\"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/1-1.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/10\\\/1-1.png\",\"width\":2240,\"height\":1260,\"caption\":\"Bar with stocked shelves with lots of bottles of alcohol\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/2026\\\/10\\\/29\\\/sobrwydd\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/07\\\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/meic.cymru\\\/cy\\\/author\\\/halyna\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau","description":"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau","og_description":"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-10-29T15:07:27+00:00","og_image":[{"width":2240,"height":1260,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png","type":"image\/png"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau","datePublished":"2026-10-29T15:07:27+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/"},"wordCount":1106,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png","keywords":["alcohol","Alcohol addiction","cyffuriau","dibyniaeth","dibyniaeth ar alcohol","dibyniaeth ar cyffuriau","Drug addiction","gor yfed","Hydref Sobr","Ionawr Sych","Sobrwydd"],"articleSection":["Dibyniaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/","name":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png","datePublished":"2026-10-29T15:07:27+00:00","description":"Sut beth yw dewis peidio ag yfed alcohol na defnyddio cyffuriau, a sut i deimlo\u2019n dda am y dewis yng nghwmni ffrindiau ym mywyd bob dydd.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1.png","width":2240,"height":1260,"caption":"Bar with stocked shelves with lots of bottles of alcohol"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/29\/sobrwydd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Bod yn Sobr: Peidio Yfed neu Gymryd Cyffuriau"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10460","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10460"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10460\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10465,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10460\/revisions\/10465"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10445"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10460"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10460"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10460"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}