{"id":10394,"date":"2026-10-12T14:06:22","date_gmt":"2026-10-12T13:06:22","guid":{"rendered":"https:\/\/meic.cymru\/?p=10394"},"modified":"2026-10-12T14:06:22","modified_gmt":"2026-10-12T13:06:22","slug":"trosedd-casineb","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/","title":{"rendered":"Troseddau Casineb: Beth yw Hyn a Ble i Gael Help?"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth sy&#8217;n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a&#8217;r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth yw trosedd casineb?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trosedd casineb yw pan fydd rhywun yn cyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd pwy ydyn nhw. Mae hefyd yn cyfrif os yw&#8217;n digwydd oherwydd pwy maen nhw&#8217;n meddwl yw&#8217;r person hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gyfraith yng Nghymru yn cydnabod pum math o drosedd casineb. Maen nhw&#8217;n seiliedig ar hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol rhywun.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/hil-ac-ethnigrwydd\/\">hil<\/a> yn cynnwys pethau fel lliw croen, cenedligrwydd ac o ble daw dy deulu.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/crefydd\/\">crefydd<\/a> yn cynnwys y rhai sydd heb grefydd o gwbl.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/rhywioldeb\/\">cyfeiriadedd rhywiol<\/a> yn golygu&#8217;r bobl sy&#8217;n ddeniadol i ti.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/anableddau\/\">anabledd<\/a> yn golygu cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy&#8217;n cael effaith fawr a pharhaol ar fywyd bob dydd rhywun.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/hunaniaeth-rhyw\/\">hunaniaeth drawsryweddol<\/a> yn golygu pan fydd rhyw rywun yn wahanol i&#8217;r rhyw penodwyd ar eu genedigaeth..<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall troseddau casineb ddigwydd unrhyw le &#8211; ar y stryd, yn yr ysgol, ar y bws neu ar-lein. Gallai gynnwys bygythiadau, taro rhywun, difrodi eiddo neu anfon negeseuon sarhaus. Mae&#8217;r weithred yn drosedd casineb pan mae&#8217;r weithred yn anghyfreithlon ac oherwydd y rheswm amdano.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-1024x576.png\" alt=\"Hate crime coming through a computer screen\" class=\"wp-image-10373\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/Meic-In-blog-graphics-15-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Beth am ddigwyddiadau casineb?<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Weithiau gall rhywbeth sy&#8217;n llawn casineb ddigwydd sydd ddim yn groes i&#8217;r gyfraith. Gelwir hyn yn ddigwyddiad casineb. Efallai ei fod yn sylw niweidiol neu rywun yn cael ei dargedu oherwydd y person ydynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae modd riportio digwyddiadau casineb hefyd. Mae riportio digwyddiadau o&#8217;r fath yn helpu&#8217;r heddlu a gwasanaethau cymorth i nodi patrymau a chadw pobl yn fwy diogel.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n bwysig deall bod y ffiniau rhwng digwyddiadau casineb a throsedd casineb yn gallu bod yn aneglur. Er enghraifft, os yw rhywun yn gwneud sylwadau llawn casineb dro ar \u00f4l tro, gellir ystyried hynny&#8217;n aflonyddu, sy&#8217;n drosedd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pa effaith gall troseddau casineb ei gael ar rywun<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cael dy dargedu oherwydd pwy wyt ti yn gallu brifo. Efallai dy fod di&#8217;n teimlo ofn, blin, trist neu&#8217;n unig, neu&#8217;n dechrau teimlo&#8217;n anniogel mewn llefydd yr oeddet ti&#8217;n arfer ei fwynhau. Efallai dy fod di&#8217;n osgoi&#8217;r ysgol neu&#8217;r gwaith, yn aros gartref yn amlach, neu&#8217;n rhoi&#8217;r gorau i wneud pethau rwyt ti&#8217;n caru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n gallu chwalu hyder rhywun hefyd. Efallai y byddi di&#8217;n dechrau teimlo cywilydd o&#8217;r person wyt ti, er nad wyt ti wedi \u00a0gwneud dim o&#8217;i le.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae teimlo fel hyn ar \u00f4l profiad tebyg yn iawn. Mae pawb yn ymateb yn ei ffordd ei hun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall troseddau casineb effeithio ar gymunedau cyfan hefyd. Pan fydd unigolyn yn cael ei dargedu oherwydd pwy ydyw, gall eraill sy&#8217;n rhannu&#8217;r un hunaniaeth deimlo&#8217;n bryderus hefyd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter size-large is-resized is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-10368\" style=\"width:500px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1024x576.png 1024w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-300x169.png 300w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-768x432.png 768w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-1536x864.png 1536w, https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/1-2048x1152.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Os yw hyn wedi digwydd i ti<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid wyt ti ar fai am beth ddigwyddodd. Mae gen ti hawl i deimlo&#8217;n ddiogel ac i fod yn ti dy hun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti mewn perygl, ceisia gyrraedd man diogel yn gyntaf. Gall helpu i ddweud wrth rywun gallet ti ymddiried ynddynt. Galla hyn fod yn aelod o&#8217;r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu ffrind.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os fedri di, mae ysgrifennu&#8217;r hyn ddigwyddodd yn gallu helpu weithiau. Noda&#8217;r dyddiad, yr amser, y lle ac unrhyw beth a ddywedwyd neu a wnaed. Gall sgrin lun o negeseuon ar-lein fod yn ddefnyddiol hefyd, gan fod hyn yn dystiolaeth. Mae&#8217;n syniad da safio&#8217;r rhain cyn blocio rhywun.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut i adrodd trosedd casineb yng Nghymru<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw rhywun mewn perygl neu os yw&#8217;n digwydd ar hyn o bryd, ffonia 999. Os nad yw&#8217;n argyfwng, ffonia&#8217;r heddlu ar 101. Mae posib adrodd ar-lein hefyd trwy <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/chwiliwch-am-eich-heddlu-lleol\">wefan yr heddlu lleol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dewis arall yw <a href=\"https:\/\/reporthate.victimsupport.org.uk\/cy\/\">Canolfan Cymorth Casineb Cymru<\/a>. Elusen Cymorth i Ddioddefwyr (Victim Support) sy&#8217;n rhedeg y gwasanaeth. Mae posib ffonio am ddim ar 0300 30 31 982, unrhyw adeg o&#8217;r dydd neu&#8217;r nos. Fedri di hefyd adrodd ar-lein. Gallant wrando, trafod opsiynau a chynnig cefnogaeth, p&#8217;un a wyt ti&#8217;n mynd at yr heddlu neu beidio. Os wyt ti&#8217;n 13 oed neu&#8217;n h\u0177n, fedri di gysylltu \u00e2 nhw dy hun. Os wy ti&#8217;n iau nag 13 oed, gall rhiant neu ofalwr helpu i gysylltu \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fedri di hefyd ffonio <a href=\"https:\/\/crimestoppers-uk.org\/fearless\/news\/2026\/charlie%E2%80%99s-story-fearless-launches-national-knife-crime-campaign?gad_source=1&amp;gad_campaignid=21095330869&amp;gbraid=0AAAAA9SShzlQRSUAHXvmaSkx9VM6yUhPf&amp;gclid=CjwKCAjwoaLWBhAWEiwAnyituwimVSldRRjOewb-rxCiXK2gIxJWS64SXjkqX8cgJ1EOawrfnCurhBoCCpAQAvD_BwE\">Fearless, sy&#8217;n rhan o Crimestoppers<\/a>, ar 0800 555 111.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall adrodd am drosedd deimlo fel cam mawr. Mae&#8217;n iawn i ti gymryd ychydig o amser. Pa bynnag bryd fyddi di&#8217;n barod, mae cymorth ar gael, <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2025\/03\/12\/camdriniaeth-hanesyddol\/\">hyd yn oed os digwyddodd pethau beth amser yn \u00f4l!<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"How Victim Support helps\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/dWL6j9ZA7H8?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Os wyt ti&#8217;n gweld hyn yn digwydd i rywun arall<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os wyt ti&#8217;n gweld trosedd casineb yn digwydd i rywun arall, dy ddiogelwch di yw&#8217;r peth pwysicaf. Gall ymyrryd ar y funud honno dy roi di mewn perygl weithiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallet ti ofyn sut mae&#8217;r person wedyn a rhoi gwybod iddynt nad ydynt ar eu pen eu hun. Gallet ti hefyd eu helpu i riportio&#8217;r digwyddiad. Neu gallet ti ei riportio dy hun fel tyst, sy&#8217;n golygu dy fod di wedi gweld beth ddigwyddodd. Gall pethau bach fel hyn wneud gwahaniaeth mawr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Siarad \u00e2 Meic<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw rhywbeth wedi digwydd a ti ddim yn si\u0175r beth i&#8217;w wneud, siarada \u00e2 <a href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\">Meic<\/a>. Gallwn wrando, helpu ti i ystyried dy opsiynau a chefnogi ti i riportio os wyt ti eisiau gwneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Meic yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, ar agor o 8yb tan hanner nos bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth sy&#8217;n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a&#8217;r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano. Beth yw trosedd casineb? Trosedd casineb yw pan fydd rhywun yn cyflawni trosedd yn erbyn rhywun oherwydd pwy ydyn nhw. Mae hefyd yn cyfrif os yw&#8217;n digwydd oherwydd pwy maen nhw&#8217;n meddwl yw&#8217;r person [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":10371,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1646,1647,1648],"tags":[5349,3916,5350,2162,3892,5345,5346,5348,5347,2494],"class_list":["post-10394","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bwlio-a-harasio","category-gwahaniaethu","category-trais-a-chamdriniaeth","tag-adrodd-trosedd-casineb","tag-casineb","tag-cymorth-i-ddioddefwyr","tag-gwahaniaethu","tag-hate-cy","tag-hate-crimes","tag-report-hate-crimes","tag-riportio-trosedd-casineb","tag-troseddau-casineb","tag-victim-support-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v25.4 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Trosedd Casineb<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Beth sy&#039;n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a&#039;r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Trosedd Casineb\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Beth sy&#039;n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a&#039;r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Meic\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-10-12T13:06:22+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2240\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1260\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/png\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Halyna\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Halyna\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\"},\"author\":{\"name\":\"Halyna\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\"},\"headline\":\"Troseddau Casineb: Beth yw Hyn a Ble i Gael Help?\",\"datePublished\":\"2026-10-12T13:06:22+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\"},\"wordCount\":940,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png\",\"keywords\":[\"adrodd trosedd casineb\",\"casineb\",\"Cymorth i Ddioddefwyr\",\"Gwahaniaethu\",\"hate\",\"Hate Crimes\",\"Report Hate Crimes\",\"riportio trosedd casineb\",\"troseddau casineb\",\"Victim Support\"],\"articleSection\":[\"Bwlio a Harasio\",\"Gwahaniaethu\",\"Trais a Chamdriniaeth\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\",\"name\":\"Trosedd Casineb\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png\",\"datePublished\":\"2026-10-12T13:06:22+00:00\",\"description\":\"Beth sy'n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a'r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png\",\"width\":2240,\"height\":1260,\"caption\":\"Stop hand to hate crime\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Troseddau Casineb: Beth yw Hyn a Ble i Gael Help?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"name\":\"Meic\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization\",\"name\":\"Meic\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"contentUrl\":\"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png\",\"width\":197,\"height\":86,\"caption\":\"Meic\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce\",\"name\":\"Halyna\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Halyna\"},\"url\":\"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Trosedd Casineb","description":"Beth sy'n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a'r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Trosedd Casineb","og_description":"Beth sy'n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a'r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.","og_url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/","og_site_name":"Meic","article_published_time":"2026-10-12T13:06:22+00:00","og_image":[{"width":2240,"height":1260,"url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png","type":"image\/png"}],"author":"Halyna","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Halyna","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/"},"author":{"name":"Halyna","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce"},"headline":"Troseddau Casineb: Beth yw Hyn a Ble i Gael Help?","datePublished":"2026-10-12T13:06:22+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/"},"wordCount":940,"publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png","keywords":["adrodd trosedd casineb","casineb","Cymorth i Ddioddefwyr","Gwahaniaethu","hate","Hate Crimes","Report Hate Crimes","riportio trosedd casineb","troseddau casineb","Victim Support"],"articleSection":["Bwlio a Harasio","Gwahaniaethu","Trais a Chamdriniaeth"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/","name":"Trosedd Casineb","isPartOf":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png","datePublished":"2026-10-12T13:06:22+00:00","description":"Beth sy'n cyfrif fel trosedd casineb, pa effaith y gall hyn ei gael ar rywun, a'r gwahanol ffyrdd i adrodd amdano.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#primaryimage","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/10\/2.png","width":2240,"height":1260,"caption":"Stop hand to hate crime"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/2026\/10\/12\/trosedd-casineb\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Troseddau Casineb: Beth yw Hyn a Ble i Gael Help?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","name":"Meic","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#organization","name":"Meic","url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","contentUrl":"https:\/\/meic.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/meic-logo.png","width":197,"height":86,"caption":"Meic"},"image":{"@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/914d0eccac2321ce1342bcfacedd83ce","name":"Halyna","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/4e943ba356b12503bec9d01f270c02bd0898359be5552f8f3d541d3f9ce95a3b?s=96&d=mm&r=g","caption":"Halyna"},"url":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/author\/halyna\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10394","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10394"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10394\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10398,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10394\/revisions\/10398"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10371"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10394"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10394"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/meic.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10394"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}